Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr i fyfyriwr meddygol sy'n mynd i'r afael â'r ofn o godi llais

17 Rhagfyr 2019

Aisling Sweeney
Aisling Sweeney

Mae myfyriwr meddygol blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ennill cystadleuaeth genedlaethol wedi'i dylunio i helpu myfyrwyr baratoi ar gyfer eu gyrfaoedd fel meddygon yn y dyfodol.

Yn rhan o'r gystadleuaeth, gwnaeth Aisling Sweeney, 23, greu gweithdy yn ymwneud â chodi llais, a gafodd ei drefnu ar y cyd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) a'r Cyngor Ysgolion Meddygol (MSC).

Mae'r gweithdy'n cynnwys gweithgareddau grymuso i helpu myfyrwyr meddygol deimlo'n fwy hyderus am godi llais, sy'n rhan bwysig o fywydau hyfforddeion a meddygon sy'n gweithio.

Cafodd ei seilio ar arweiniad "Achieving good medical practice" GMC a MSC sy'n nodi y dylai myfyrwyr meddygaeth godi llais ynghylch:

  • Materion diogelwch y claf ar leoliad
  • Ymddygiad amhroffesiynol cymheiriaid a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
  • Iechyd a lles eu hunain, a'u cydweithwyr

Dywedodd Aisling, sydd wedi'i lleoli yn yr Ysgol Meddygaeth: "Gofalu am eraill yw’r elfen ganolog o fod yn feddyg. Rydw i'n credu bod codi llais, pan fo angen, yn hanfodol nid yn unig i ofal y claf ond hefyd i iechyd a lles ein hunain a'n cydweithwyr hefyd.

"Fel myfyrwyr meddygol, dylem gael ein hannog i godi pryderon, deall fod gennym yr hawl i wneud hynny a gwybod y cawn ein cefnogi gan y proffesiwn os gwnawn ni hynny."

Gwnaeth bron i 50 o fyfyrwyr meddygol o bob rhan o'r DU gymryd rhan yn y gystadleuaeth, sydd bellach yn ei phumed flwyddyn. Enillodd Aisling, sy’n dod o Egham yn Surrey, wobr o £300 a chyfle i dreulio hanner diwrnod yn cysgodi Dr Henrietta Hughes, Freedom to Speak Up Guardian ar gyfer y GIG yn Lloegr.

Fe luniodd Aisling dair sesiwn hyfforddi fer, sy'n mynd i'r afael â pha mor anghyfforddus roedd hi'n meddwl y byddai myfyriwr meddygol yn teimlo wrth godi llais, a gweithio trwy'r broblem gan ddefnyddio'r arweiniad.

Dywedodd yr Athro Colin Melville, Cyfarwyddwr Meddygol GMC a Chyfarwyddwr Addysg a Safonau, a oedd ar y panel beirniadu, ei fod yn "hanfodol" bod myfyrwyr yn teimlo'n gyfforddus yn codi llais ac "rydym yn gwybod nad yw hynny'n hawdd".

Dywedodd Clare Owen, Cyfarwyddwr Cynorthwyol MSC, a oedd hefyd ar y panel beirniadu, fod cais Aisling wir wedi gwneud argraff "gan ei fod yn dod â'r pwnc yn fyw".

Dywedodd yr Athro Stephen Riley, Pennaeth newydd Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae'n wych gweld myfyriwr meddygol arall o Brifysgol Caerdydd yn ennill un o wobrau cenedlaethol y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Mae Aisling wedi gwneud gwaith ardderchog yn cynhyrchu'r gweithgaredd addysgu hwn."

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.