ISG a Chaerdydd yn nodi uchelbwynt Abacws
14 Hydref 2020
Mae adeilad cyfrifiadureg a mathemateg pwrpasol wedi cael ei 'gwblhau' o bell gan yr arbenigwyr adeiladu byd-eang ISG a Phrifysgol Caerdydd.
Mae'r adeilad - Abacws gynt - yn dod â’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodaeth a'r Ysgol Mathemateg ynghyd mewn un cyfleuster o’r radd flaenaf.
Bydd Abacws yn cefnogi twf y ddwy adran ac yn cynnig cyfleoedd gwell i gydweithio a chynnal ymchwil.
Mae ISG wedi cyflwyno ystod o fentrau ar y safle yn ystod y pandemig COVID-19.
Dywedodd Richard Skone, Cyfarwyddwr Rhanbarthol De Cymru, ISG: "Mae diogelwch yn elfen graidd wrth gyflwyno prosiectau. Gwnaethom ymateb yn gyflym i'r pandemig a rhoi systemau ar waith i sicrhau lles gweithwyr, myfyrwyr a staff Prifysgol Caerdydd. Yn dilyn mesurau cyfyngu cychwynnol, fe wnaethom lwyddo i gyflwyno arferion newydd gan gynnwys gwiriadau tymheredd i bawb oedd yn dod ar y safle, arlwyo gan gadw pellter cymdeithasol a chyfleusterau lles i'r rheiny oedd y gweithio, a chyfarpar diogelu personol ychwanegol ble bo angen."
Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd gan yr adeilad ar Ffordd Senghennydd chwe llawr o ystafelloedd addysgu, llety staff, mannau astudio ac ymchwil, fydd yn cynnwys darlithfa 250-sedd, a sawl labordy TG.
Ychwanegodd yr Athro Rudolf Allemann, y Rhag Is-Ganghellor, Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: "Roeddem yn falch iawn o gwblhau strwythur adeilad fydd yn dod â llu o fanteision i fyfyrwyr a staff yn yr Ysgolion Cyfrifiadureg a Gwybodeg a Mathemateg. Bydd Abacws yn cynnig cyfleusterau addysgu ac ymchwil penigamp er mwyn cefnogi'r disgyblaethau hyn sy'n datblygu'n gyflym.
"Mae ISG a'r Brifysgol wedi cydweithio'n agos er mwyn datblygu ffyrdd o wynebu'r heriau a ddaw yn sgîl y pandemig. Yn y dyfodol, rydym yn gobeithio y bydd yr ysbryd hwn o arloesedd yn rhan annatod o Abacws wrth iddo ddatblygu ymchwil seibr-ddiogelwch, deallusrwydd artiffisial a gwyddorau data - meysydd sydd mor bwysig i gymdeithas."
Nododd Tom Hyett, un o raddedigion Caerdydd (BSc Astroffiseg, 2019) ac aelod newydd o staff ISG, sut deimlad oedd cyrraedd yr uchelbwynt o ran adeiladu.
Dywedodd Tom, sydd yn y llun, o Gasnewydd: "Mae gweithio ar brosiect o’r fath faint yn hynod gyffrous, i'r Brifysgol yr wyf wedi graddio ohoni, ac hefyd i gael nodi cwblhau'r strwythur yn y llun. Dim ond newydd ddechrau gweithio i ISG ar ôl interniaeth ydw i, ac rwyf yn edrych ymlaen at gael defnyddio'r sgiliau a ddysgais yn ystod fy ngradd."
Mae'r adeilad, a ddyluniwyd gan Stride Treglown gydag Adjaye Associates, ar gampws Cathays ger gorsaf drenau Cathays. Mae disgwyl iddo agor yn 2021.