Ewch i’r prif gynnwys

Anwybyddwyd effaith cyni ar dlodi gwledig, yn ôl astudiaeth

14 October 2020

Aerial view looking down on a rural road in the UK countryside with a car racing along it. - stock photo. On a bright sunny day, farmland and crops can be seen either side of the road

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol y Frenhines Mary yn Llundain, a Phrifysgol Caerwysg wedi datgelu effaith sylweddol cyni ar ardaloedd gwledig.

Mae'r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn y Journal of Rural Studies, yn rhoi'r cyfrif mwyaf cynhwysfawr hyd yma o sut mae newidiadau mewn pŵer gwario a gwariant ar wasanaethau wedi effeithio ar gymunedau gwledig yng Nghymru a Lloegr. Gan ddefnyddio data ystadegol ac ansoddol, mae'r ymchwil yn tynnu sylw at y ffordd y mae cyni wedi dwysáu problemau hirsefydlog ynghylch tlodi gwledig, ond fe’u hanwybyddir yn aml.

Dywed academyddion fod yr ymchwil yn rhoi tystiolaeth newydd o ddadrymuso llywodraeth leol wledig drwy gau llyfrgelloedd, canolfannau ieuenctid a gwasanaethau trafnidiaeth, ynghyd â'r ffyrdd y mae pŵer gwario awdurdodau lleol wedi lleihau drwy uno Cynghorau Dosbarth a chreu Awdurdodau Unedol. Yn yr un modd, fe wnaeth creu Cyngor Dosbarth Gorllewin Suffolk arwain at golli 1.21% (£200,000) mewn pŵer gwario rhwng 2018/19 a 2019/20, ond rhaid deall hyn yng nghyd-destun y gostyngiad o 16.8% (gwerth £3.3m i gyd) mewn pŵer gwario ers 2015/16.

Mae newidiadau a allai gael effaith uniongyrchol a chyflym ar ansicrwydd bwyd hefyd yn effeithio'n anghymesur ar bobl mewn ardaloedd gwledig, yn ôl yr astudiaeth.

Mae hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith mewn ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o brofi sancsiynau lefel uwch, meddai'r ymchwil. Er mai dim ond 12.4% o gyfanswm yr atgyfeiriadau sancsiwn a wnaed yn Lloegr rhwng mis Tachwedd 2012 a mis Hydref 2019 oedd ardaloedd gwledig, roeddynt yn cyfrif am 17.8% o'r holl sancsiynau lefel uchel hysbys yn y cyfnod hwnnw. Mae'r mesurau hyn yn arwain at golli incwm unigolyn am 13, 26 neu 156 wythnos ac fe'u gosodir os bydd hawliwr yn methu â derbyn neu wneud cais am swydd, yn cael ei ddiswyddo am gamymddwyn, neu os bernir ei fod wedi gadael cyflogaeth heb reswm da.

Drwy ddefnyddio data Rhyddid Gwybodaeth, mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod awdurdodau gwledig yn llawer mwy tebygol na'u cymheiriaid trefol o fod â Chynlluniau Cymorth Lles Lleol (LWAS) dewisol caeedig, sydd wedi'u cynllunio i helpu pobl mewn argyfwng ariannol. Mae ychydig o dan un o bob tri (9 o 28) awdurdod gwledig wedi gwneud hynny, o'i gymharu ag un o bob saith awdurdod trefol (16 o 116).

Dywedodd Dr Andrew Williams, o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd: "Mae'n amlwg bod cyni wedi taro’r ardaloedd trefol mwyaf difreintiedig galetaf, ond anwybyddir yr effaith ar dlodi gwledig yn aml oherwydd anawsterau o ran mesur, a chynrychiolaethau delfrydol o’r cefn gwlad.

Nid yw'r ymchwil hon yn ymwneud â gosod anghenion y 'tlawd gwledig' yn erbyn eu cymheiriaid trefol, ond tynnu sylw at ddifrifoldeb a phenodoldeb y problemau y mae cyni yn eu hachosi i bobl mewn ardaloedd gwledig mewn cyd-destun lle mae'r problemau hynwedi parhau i fod yn anweledig i raddau helaeth hyd yma.

Dr Andrew Williams Lecturer in Human Geography

Dywedodd yr Athro Jon May, o Ysgol Daearyddiaeth Prifysgol y Frenhines Mary yn Llundain: "Y tu hwnt i'r ddelwedd o 'siroedd deiliog y cefn gwlad' a 'phentrefi tlws delfrydol', mae'r degawd diwethaf wedi gweld y seilwaith cymdeithasol yn cael ei ddatgymalu'n gyson - llwybrau bysiau, llyfrgelloedd, canolfannau ieuenctid – y mae llawer o bobl mewn ardaloedd gwledig yn dibynnu arnynt.

"Mae tlodi ac ansicrwydd bwyd yn cynyddu, fel y mae nifer y banciau bwyd wrth i nifer anghymesur o bobl yng nghefn gwlad Cymru a Lloegr wynebu rhai o effeithiau garwaf cyni."

Cafodd Still bleeding: The variegated geographies of austerity and food banking in rural England and Wales ei chyhoeddi yn y Journal of Rural Studies ac mae i’w gweld yma.

Ariannwyd yr ymchwil hon gan yr Academi Brydeinig a Sefydliad Leverhulme: ‘Emergency Food Provision in the UK’.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.