Ewch i’r prif gynnwys

Tyfwyr cynnyrch ffres yng Nghymru yn teimlo pwysau Covid-19

4 Mai 2020

Mae angen cymorth ar dyfwyr ffrwythau a llysiau yng Nghymru i'w helpu i ymdopi â’r cynnydd dramatig yn y galw yn sgîl Covid-19, yn ôl adroddiad.

Bu Dr Hannah Pitt o Brifysgol Caerdydd yn gweithio ar yr ymchwil gydag arbenigwyr yn Food Sense, Food Foundation a Thyfu Cymru. Cynhaliwyd arolwg ac uwchgynhadledd rithwir gyda phob cynhyrchwr garddwriaeth bwytadwy yng Nghymru i weld sut maent yn ymdopi â'r heriau presennol a ddaw yn sgîl y coronafeirws.

Yn dilyn y cyfyngiadau symud, mae llawer o gynhyrchwyr wedi dargyfeirio o gyflenwi’r fasnach arlwyo i ddosbarthu i gartrefi. Dywed rhai fod y cynnydd cychwynnol mewn gwerthiant oherwydd prynu panig wedi parhau, gyda'r galw 20% yn uwch o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol.

Mae'r canfyddiadau'n dangos bod nifer ohonynt yn brin o staff wrth iddynt addasu eu harferion gweithio. Disgwylir i'r pwysau hyn gynyddu wrth i'r tymor fynd yn ei flaen.

Roedd nifer o’r busnesau a holwyd yn optimistaidd y gallai’r patrymau defnydd cyfredol gael eu cynnal, gan arwain at alw mawr parhaus am gynnyrch o Gymru.

Dywedodd Dr Pitt, o Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy y Brifysgol: "Mae tyfwyr yng Nghymru wedi ymateb yn gyflym i sicrhau bod eu cyflenwadau yn parhau i gyrraedd cartrefi yn ystod y cyfnod hwn. Serch hynny, mae'n glir bod Covid-19 yn parhau i roi llawer iawn o bwysau arnynt wrth iddynt weithio o dan amodau newydd a chyda llai o staff.

"Mae'r argyfwng hwn wedi tynnu sylw at gryfderau a gwendidau ein cadwyn gyflenwi bwyd. Mae hefyd yn dangos gwerth cynhyrchwyr lleol i ddefnyddwyr. Mae parodrwydd a’r potensial gan dyfwyr i ehangu ond mae angen cymorth ac arweiniad ariannol arnynt gan Lywodraeth Cymru i allu gwneud hyn yn effeithiol. Byddai'r buddsoddiad hwn nid yn gwneud mwy na helpu eu gwaith i barhau yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Gallai arwain at weld sector sy’n aml wedi cael ei anwybyddu yn ehangu yn y tymor hirach."

Cymerodd bron i 40 o fusnesau ran yn yr ymchwil. Roedd y rhain yn amrywio o fusnesau bach teuluol i gwmni cydweithredol mawr sy'n cyflenwi archfarchnadoedd Cymru.

Mae'r adroddiad yn nodi nifer o faterion allweddol y mae angen eu datrys er mwyn cefnogi cynhyrchwyr garddwriaethol. Mae’r rhain yn cynnwys yr angen am fuddsoddiad a chefnogaeth ar ffurf cyfalaf, pwysigrwydd gwella sgiliau a hyfforddiant, a gwerth ymgyrchoedd defnyddwyr i hyrwyddo cynnyrch lleol.

Byddai cydweithio gwell rhwng tyfwyr ac ar draws y gadwyn gyflenwi yn helpu i wella effeithlonrwydd a chaniatáu ehangu, yn ôl ymchwilwyr. Mae'r gwaith o fonitro tueddiadau defnyddio a chydnabod rhwystrau parhaus eraill sy'n atal uwchraddio cynhyrchiant yn hanfodol hefyd.