Ewch i’r prif gynnwys

Dysgu peiriannol yn helpu i ragweld ardaloedd â llawer iawn o drais

12 Hydref 2020

Llun stoc o'r parafeddyg sy'n gofalu am glaf

Mae astudiaeth newydd yn awgrymu bod angen ehangu strategaethau lleihau trais, sy'n draddodiadol wedi canolbwyntio ar dafarnau a chlybiau nos yn unig. Er mwyn i’r strategaethau hyn lwyddo, mae’r adroddiad yn awgrymu bod angen iddynt hefyd gynnwys mannau lle na chaiff alcohol ei werthu.

Casglodd ymchwilwyr o Grŵp Ymchwilio i Drais Prifysgol Caerdydd ddata o 10 o brifddinasoedd yng Nghymru a Lloegr, gan ddefnyddio dysgu peiriannol i fapio’r achosion o droseddau treisgar yr adroddwyd amdanynt. Yn hollbwysig, edrychwyd ar y mannau lle gwerthir alcohol yn ogystal â’r mannau lle na chaiff alcohol ei werthu.

Wrth gymharu eu dadansoddiad â model oedd yn canolbwyntio ar y lleoliadau oedd yn gwerthu alcohol, sylweddolodd yr ymchwilwyr bod eu model cyfunol newydd yn rhagweld lefelau trais yn fwy cywir.

Drwy'r astudiaeth, daeth i'r amlwg bod llawer o leoliadau eraill, ar wahân i dafarnau a bariau, sy’n aml yn gysylltiedig â "nosweithiau allan". Roedd y rhain yn cynnwys siopau bwyd sothach, tec-awê, gorsafoedd bysiau a pheiriannau codi arian, lle’r oedd llawer o droseddu’n digwydd. Dywed yr ymchwilwyr mai dyma'r tro cyntaf i ardal mor eang gael ei dadansoddi, a bod eu hastudiaeth wedi amlygu mannau nad oeddent wedi cael eu mapio o'r blaen lle ceir llawer o droseddu.

Joseph Redfern, myfyriwr PhD sy'n gweithio ar fodelu trais yn seiliedig ar alcohol, ac sy'n rhan o Grŵp Cyfrifiadura Gweledol, Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, wnaeth arwain yr ymchwil yn seiliedig ar ddata.

"Mae strategaethau lleihau trais yn aml yn canolbwyntio ar dafarnau, bariau a chlybiau nos, er enghraifft amrywio amseroedd cau tafarnau a gofynion diogelwch y mannau hyn - a thra bod lleoliadau sy'n gwerthu alcohol gan amlaf yn parhau i fod y dulliau rhagweld unigol gorau o drais, mae ein hymchwil yn awgrymu bod modd gwneud mwy mewn ystod o leoliadau eraill", meddai Joseph, 27, o Ynys Môn, gogledd Cymru.

"Mae ein hastudiaeth yn cynnig gwell dealltwriaeth o ble mae trais yn digwydd, a gallai gyfrannu at fentrau newydd wedi'u targedu. Mae'r ymchwil yn dangos hefyd y byddai strategaethau lleihau trais yn fwy effeithiol pe byddent yn cael eu datblygu fesul dinas, yn hytrach na'u rhoi ar waith fel petai un ateb sydd i bob problem."

Dywedodd Joseph fod ganddo ddiddordeb mewn ymchwilio i'r maes hwn gan ei fod wedi'i alluogi i ddadansoddi cyfresi data mawr, a gweithio ar rywbeth sydd â'r potensial i gael effaith go iawn.

"Os all y gwaith hwn helpu i gyfrannu at strategaethau lleihau trais newydd a lleihau nifer yr ymosodiadau, gall gael effaith bositif ar fywydau llawer o bobl," meddai.

Dywedodd yr Athro Simon Moore, Cyfarwyddwr y Grŵp Ymchwilio i Drais a Chyd-Gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch: "Os oes pobl, mae hefyd risg o drais. Mae rhai pobl yn fwy tebygol o fod yn ymosodol, a bydd deall sut mae lleoliadau penodol yn denu pobl fel hyn yn golygu bod modd rhoi adnoddau ar waith i herio trais.

"Bydd pandemig Covid-19 wedi arwain at weld eisiau nosweithiau allan yn fawr yn ôl pob tebyg, a phan fydd bywyd nos yn dychwelyd i normal, mae'n debygol iawn y bydd lefelau trais yn mynd yn ôl i normal hefyd. Ond mae gennym gyfle unigryw i feddwl yn glir am sut gallwn reoli mannau cyhoeddus yn well fel bod pobl yn cael hwyl, ond yn ddiogel. Mae'r gwaith hwn yn cyfrannu'n helaeth at ein dealltwriaeth o'r materion hyn."

Defnyddiodd yr astudiaeth ddata cyhoeddus yr heddlu, sydd ar gael ledled Cymru a Lloegr.

Cafodd y papur ei gyhoeddi yng nghyfnodolyn gwyddonol rhyngwladol PLOS ONE, ac mae ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Grŵp yn cynnwys gwyddonwyr meddygol a chymdeithasol, economegwyr, seicolegwyr, clinigwyr academaidd ac ymarferwyr o bob rhan o’r Brifysgol.