Ewch i’r prif gynnwys

Buddsoddi yn Ne Cymru

17 Rhagfyr 2019

Bayside city development

Dechreuodd Ken Poole, Pennaeth Datblygiad Economaidd yng Nghyngor Caerdydd, y trafodion drwy roi cyd-destun i fuddsoddiad tramor uniongyrchol yn Ne Cymru o’i gymharu â’i chyfoedion yn Ewrop a’r DU.

Dangosodd faint mae buddsoddiad wedi gostwng yn y DU, yr Almaen a Ffrainc yn 2019, tueddiad y credir ei fod yn gysylltiedig ag ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd ar draws cenedlaethau Gorllewin Ewrop.

Ond dangosodd Mr Poole sut mae data dadansoddi tueddiadau’r farchnad yn awgrymu bod busnesau yn lle hynny yn ymddangos i fod yn ystyried pob rhan o Ewrop ar gyfer eu buddsoddiadau. Ac er ei fod yn addawol ar gyfer buddsoddiad mewnol wrth edrych i’r dyfodol, mae hyn yn golygu mwy o gystadlu i is-ranbarthau fel De Cymru.

“Mae hyn yn golygu codi ein gêm i fod â’r gallu i gystadlu yn effeithiol â chystadleuwyr presennol a rhai newydd.”

Ken Poole Pennaeth Datblygiad Economaidd yng Nghyngor Caerdydd

Ffactorau sy’n sbarduno buddsoddiad

Amlinellodd rhai o’r rhesymau pam mae busnesau o’r fath yn buddsoddi yn Ne Cymru.

Gan ganolbwyntio ar y sector modurol a’r sectorau busnes a gwasanaethau ariannol, dangosodd Mr Poole fod mynediad at weithlu medrus, addysg/hyfforddiant a chefnogaeth llywodraeth yn bwysig er mwyn denu buddsoddiad gan amrywiaeth eang o sectorau.

Gan adlewyrchu ar dystebau gan gleientiaid ar draws amrywiaeth o sectorau, arsylwodd: “Maent i gyd yn pwysleisio bod y gallu i ddenu pobl dalentog yn sbarduno buddsoddiad. Hefyd, maent yn trafod rôl prifysgolion a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a chyrff sector cyhoeddus.”

Daeth Mr Poole i ben drwy awgrymu ein bod yn dysgu gan adborth fel hwn ac yn edrych i roi mwy o adnoddau i mewn i fuddsoddwyr presennol, a’u blaenoriaethu, yn ogystal ag edrych i ddenu buddsoddiad newydd o sectorau gwerth ychwanegol.

Dilynodd Heather Myers, Prif Swyddog Gweithredol Siambr Fasnach De Cymru, gyflwyniad Mr Poole drwy drafod safbwyntiau busnesau o weithredu yng Nghymru.

Dechreuodd Ms Myers drwy rannu trosolwg o dirwedd busnes De Ddwyrain Cymru, sy’n gartref i 60% o fusnesau Cymru – cyfanswm o 112,000 – ac mae gan 94% ohonynt 10 gweithiwr neu lai.

Cefnogi busnesau

Dangosodd rhan sylweddol o’i chyflwyniad rai o'r rhesymau sylfaenol pam mae busnesau'n dewis gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Lleoliad – 2 awr i Lundain, cysylltiad M4/5, mynediad at farchnadoedd yr UE i Iwerddon a chysylltedd cludo nwyddau trwy Faes Awyr Caerdydd.
  • Gweithlu – cyfran uchel o raddedigion yng ngweithlu Caerdydd, partneriaethau academaidd o brifysgolion, talent ifanc a phrentisiaethau a gefnogir gan system addysg benodol i Gymru.
  • Gwasanaethau proffesiynol – trosiant o £1.4 biliwn o’i gymharu â £1.5 biliwn ym Mryste.
  • Sectorau amrywiol – diwydiant creadigol, technoleg ariannol, seiber-ddiogelwch a lled-ddargludydd cyfansawdd
  • Ecosystem – rhwydwaith rhyng-gysylltiedig o gysylltiadau.

Cyn dod i ben, aeth Ms Myers ati i bwyso a mesur y gefnogaeth i fusnesau gyda’r heriau y mae’r rhanbarth yn eu hwynebu hefyd.

“Mae agweddau a dyheadau Cenhedlaeth Z yn dod i mewn i’r gweithlu yn wahanol. Mae lles ac iechyd meddwl, gweithio hyblyg, mannau lle gallwch wneud busnes a magu teulu yn rhai o’r gofynion yn unig. Mae gennym ni ansawdd bywyd mor wych yma yng Nghymru, a dydw i ddim yn meddwl ein bod ni’n manteisio’n llawn ar hynny. Gan ddibynnu ar allu rhoi’r seilwaith cywir ar waith, dwi’n meddwl fod gennym ni rhywbeth cryf i’w gynnig ar gyfer y dyfodol.”

Heather Myers Prif Swyddog Gweithredol Siambr Fasnach De Cymru

Daeth y cyflwyniad olaf gan Clare Taylor, Cynllunydd Tref Cyswllt, a noddwr y digwyddiad, Bruton Knowles.

Fel cynrychiolydd ar ran yr ymgynghorwyr eiddo yng Nghaerdydd, symudodd Ms Taylor ganolbwynt y briffio i'r broses gynllunio, trwy ddangos sut y gallai hyn helpu neu rwystro'r buddsoddiad cywir i'r lleoliad cywir, yma yn Ne Cymru.

Aeth ati i roi cyd-destun i berthynas cynllunio â datblygu economaidd a'i rôl wrth geisio darparu tir sy'n ymateb i strategaeth economaidd ac sy'n diwallu anghenion galw'r farchnad.

Nesaf, rhoddodd Ms Taylor drosolwg cryno o’r broses gynllunio yng Nghymru. Eglurodd sut mae cynllunwyr yn wynebu heriau oherwydd cymhlethdod a hirhoedledd proses Cynllun Datblygu Lleol y rhanbarth.

Roedd ffocws terfynol cyflwyniad Ms Taylor yn ystyried y Polisi Cynllunio sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru.

Wedi'i alluogi gan yr amgylchedd deddfwriaethol unigryw yng Nghymru a arweiniodd at Ddeddf Cynllunio Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y ddwy yn 2015, mae cynllunio wedi symud ei ffocws i wneud lleoedd yn gynaliadwy.

Meddai: “Mae cysyniad amlweddog creu lleoedd bellach yn ffurfio craidd Polisi Cynllunio Cymru Rhif 10...”

“Mae'n disgrifio creu lleoedd fel proses gynhwysol sy'n cynnwys pawb sydd â diddordeb yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol ac yn ystyried materion ar bob lefel, o lefel fyd-eang, fel newid yn yr hinsawdd, i effaith leol, fel effaith ar gymdogion.”

Clare Taylor Cynllunydd Tref Cyswllt a Bruton Knowles

I gloi, esboniodd Ms Taylor sut mae'r amgylchedd deddfwriaethol hwn wedi galluogi De Cymru i fod ar flaen y gad mewn dull newydd o gynllunio; un sy'n rhagweld bio-amrywiaeth a chydraddoldeb, er mwyn sicrhau buddion economaidd tymor hir a chynaliadwy i'r rhanbarth.

Rhwydwaith yw'r gyfres Sesiynau Hysbysu Brecwast Addysg Weithredol sy'n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil diweddaraf a datblygiadau allweddol gan bartneriaid diwydiannol.

Os nad oeddech yn gallu bod yn bresennol, edrychwch ar ein ffrwd fyw o’r digwyddiad.

Bydd y sesiwn friffio nesaf a sesiwn gyntaf y Flwyddyn Newydd, o'r enw Recriwtio â gweledigaeth 2020, yn cael ei chynnal ar 30 Ionawr 2020 ac yn dangos sut y gall busnesau ddenu, recriwtio a chadw rhywfaint o dalent graddedig orau'r DU i sicrhau llwyddiant yn y dyfodol.

Cofrestrwch nawr.

Rhannu’r stori hon

Galluogi ein cysylltiadau ym maes busnes i gael gwybod rhagor gan bartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant am yr ymchwil ddiweddaraf a datblygiadau allweddol.