Ewch i’r prif gynnwys

Cymru Iachach

24 Hydref 2019

Audience prepared for event
A full house in the Executive Education Suite for Breakfast Briefing on healthcare planning.

Y weledigaeth ar gyfer Cymru Iachach oedd ffocws y Sesiwn Hysbysu Brecwast, a gynhaliwyd ddydd Iau 24 Hydref 2019, o flaen torf yn Ystafell Addysg Weithredol Ysgol Busnes Caerdydd.

Cychwynnodd Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, y trafodaethau trwy roi peth o’r cefndir i’w gyflwyniad ar gynllun newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Eglurodd fod y GIG wedi’i wreiddio’n ddwfn yng nghymdeithas a diwylliant Cymru, ar ôl cael ei ysbrydoli gan Aneurin Bevan dros 70 o flynyddoedd yn ôl. Ond pwysleisiodd hefyd fod rhaid i’r gwasanaeth barhau i esblygu er mwyn ymateb i anghenion pobl Cymru.

Man presents from lectern at event.
Simon Dean outlines Wales' planned approach to health and social care provision.

“Yr hyn yr ydym ni’n awyddus iawn i’w wneud yn system Cymru yw sicrhau mai ansawdd a phrofiad y claf yw ffocws y sgwrs, nid arian a chontractio.”

Simon Dean Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru

Ffurfio’r dyfodol

Mae Cymru wedi bod yn awyddus i symud i ffwrdd oddi wrth ddull comisiynu neu farchnad a fabwysiadwyd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, gan roi blaenoriaeth i bobl, anghenion, ansawdd a chanlyniadau wrth geisio cyflawni newid.

Wedi’i sbarduno gan ‘Adolygiad Seneddol’ a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn argymell gweithredu i wella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl ar draws Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb: Cymru Iachach: Ein cynllun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ym mis Mehefin 2018.

Mae’r ddogfen yn amlinellu ffordd ymlaen er mwyn i’r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol weithio i ddatblygu a chefnogi gwasanaethau di-fwlch yng Nghymru ar draws 6 cholofn:

  • Bywydau hwy, iachach a hapusach
  • Un system iechyd a gofal cymdeithasol
  • Canlyniadau iechyd cyfartal i bawb
  • Cyflwyno gofal yn nes adref
  • Defnyddio ysbytai dim ond pan fydd angen
  • Cyfleoedd technolegol.

Ond pwysleisiodd Mr Dean: “Nid mater o ysgrifennu dogfennau yw cynllunio; mae’n fater o lunio’r dyfodol.”

Daeth a’i gyflwyniad i ben trwy amlinellu pwysigrwydd creu partneriaeth rhwng y GIG a chymunedau Cymru, sefydliadau a phartion eraill â diddordeb yn y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.

Cyfres unigryw o ddeddfwriaeth

Aeth Samia Saeed-Edmonds, Cyfarwyddwr Rhaglen Gynllunio’r GIG yn Llywodraeth Cymru, ymlaen â’r cyflwyniad ar ôl Mr Dean trwy gyfeirio ffocws y sesiwn hysbysu at gynllunio a gweithredu Cymru Iachach.

Rhoddodd ei chyflwyniad gynllunio yng ngwasanaeth sector cyhoeddus Cymru yn ei gyd-destun ers datganoli yn 1999.

“Mae Cymru wedi dilyn ei llwybr ei hun, yn arbennig o ran amgylchedd cynllunio integredig, trwy ddatblygu cyfres unigryw o ddeddfwriaeth, sydd i gyd yn canolbwyntio ar y dinesydd, ar bobl, ac ar y cymunedau lle maen nhw’n byw.”

Samia Saeed-Edmonds Cyfarwyddwr Rhaglen Gynllunio’r GIG yn Llywodraeth Cymru

Ymhlith y rhain mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a Deddf Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn y cyd-destun hwn mae dyletswydd statudol ar sefydliadau i roi cynlluniau integredig tymor canolig ar waith, sy’n gallu cyflawni canlyniadau, ansawdd, gwelliant a thrawsffurfio.

Woman presenting at podium
Samia Saeed-Edmonds narrows in on the role of an NHS planner in her breakfast briefing presentation.

Roedd cyflwyniad Mrs Saeed-Edmonds yn cwmpasu elfennau ymarferol cynllunio integredig penodol i’r GIG yng Nghymru, a bu’n rhannu canfyddiadau Cynllun Integredig Cenedlaethol Tymor Canolig 2019-2022 ar gyfer GIG Cymru, gan ganolbwyntio ar sut mae’n cyflawni blaenoriaethau gweinidogol.

Wrth edrych i’r dyfodol a gweithredu Cymru Iachach mewn cydweithrediad â busnes, academia a’r trydydd sector, daeth Samia Saeed-Edmonds â’i chyflwyniad i ben, gyda’r sylw bod: “Cynllunio yn fwy na chynllun. Mae’n galw am berthnasoedd ac ymddiriedaeth, offer a thechnegau, strwythur a phroses - ar bob lefel.

“Mae’n fater o’r daith yn ogystal â’r cyrchfan.”

Roedd y sesiwn hysbysu yn dilyn lansio diploma ôl-raddedig newydd mewn cynllunio gofal iechyd ym mis Hydref 2019.

Wrth ddilyn y diploma bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gyfrifol am gyfeiriad y GIG yng Nghymru yn y dyfodol yn derbyn hyfforddiant academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhwydwaith yw'r gyfres Sesiynau Hysbysu Brecwast Addysg Weithredol sy'n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil diweddaraf a datblygiadau allweddol gan bartneriaid diwydiannol.

Os nad oeddech yn gallu bod yn bresennol, edrychwch ar ein ffrwd fyw o’r digwyddiad.

Cynhaliwyd y sesiwn hysbysu nesaf, Beth sydd mor arbennig am Dde Cymru?, ar 17 Rhagfyr 2019, pryd bu Ken Poole o Gyngor Caerdydd, ar y cyd â Heather Meyers o Siambr Fasnach De Cymru a Clare Taylor o Bruton Knowles, yn ystyried pam dylai busnesau fuddsoddi a thyfu yn rhanbarth De Cymru.

Rhannu’r stori hon

Galluogi ein cysylltiadau ym maes busnes i gael gwybod rhagor gan bartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant am yr ymchwil ddiweddaraf a datblygiadau allweddol.