Ewch i’r prif gynnwys

Medal am arweinyddiaeth

30 Medi 2020

Man sat smiling at table

Dyfarnwyd Medal Academi Rheolaeth Prydain (BAM) ar gyfer Arweinyddiaeth i Athro Dadansoddi Sefydliadol ym Mhrifysgol Caerdydd yn eu cynhadledd flynyddol.

Cydnabuwyd Rick Delbridge, o Ysgol Busnes Caerdydd, yng Nghynhadledd Rithwir gyntaf BAM yn y Cwmwl 2020, a gynhaliwyd ar-lein oherwydd cyfyngiadau COVID-19 ledled y DU.

Mae'r wobr yn un o dair a gyflwynwyd yn y digwyddiad blynyddol ac mae'n cydnabod arweinyddiaeth barhaus a rhagorol ynghyd â chyfraniad gan aelod o BAM i'r gymuned academaidd.

Rick Delbridge with BAM medal for leadership

Wrth gyflwyno'r wobr, cyfeiriodd yr Athro Nic Beech, Llywydd BAM, at 'gyflawniadau ymchwil eithriadol yr Athro Delbridge, ei waith ar raglen ddatblygu BAM ar gyfer cyfarwyddwyr ymchwil gyda'r Gymdeithas Siartredig Ysgolion Busnes, a'i waith yn cysylltu’r gymuned BAM â chymuned ehangach y gwyddorau cymdeithasol a Sefydliadau Ymchwil y DU'.

Mae'r olaf yn cynnwys aelodaeth o Fwrdd yr Ymgyrch dros y Gwyddorau Cymdeithasol, Rhwydwaith Cynghori Strategol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Phanel Cynghori Rhyngddisgyblaethol y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.

Yn ystod ei yrfa academaidd ddisglair dros 30 mlynedd ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r Athro Delbridge wedi gwasanaethu fel Arweinydd Academaidd Parc Ymchwil arfaethedig y Gwyddorau Cymdeithasol, Deon Cyswllt Ysgol Busnes Caerdydd ar gyfer Ymchwil, a Deon Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesedd, ac wedi cynnal record cyhoeddi ymchwil ragorol.

“Mae BAM yn gymuned wych o ysgolheigion rheolaeth sy'n gwneud llawer iawn i gefnogi academyddion mewn Ysgolion Busnes. Rwyf i'n hynod o falch fod fy nghyfraniadau i'r gymuned honno wedi'u cydnabod gan fy nghymheiriaid fel hyn.”

Yr Athro Rick Delbridge Professor of Organizational Analysis

Ychwanegodd yr Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: “Hyd y gwn i, dyma'r tro cyntaf i fedal BAM gael ei dyfarnu i gydweithiwr o'r Ysgol Busnes. Felly llongyfarchiadau mawr i Rick gan bawb yn yr Ysgol!

“Mae'r enwebiad yn adlewyrchu arweinyddiaeth Rick a'i gefnogaeth barhaus i feithrin gallu o fewn yr Academi, a hefyd ei ymdrechion helaeth i eirioli dros Fusnes a Rheolaeth a'u hyrwyddo mewn cymunedau gwyddorau cymdeithasol ehangach.”

Yr Athro Rachel Ashworth Deon Ysgol Busnes Caerdydd

Yn ei gynhadledd rithwir gyntaf, penderfynodd BAM beidio ag ail-greu eu cyfarfod wyneb yn wyneb. Yn lle hynny, aed ati i arloesi, gan bwysleisio cydweithio a rhyngddisgyblaeth.

Rhagor o wybodaeth am y Gynhadledd Rithwir yn y Cwmwl.

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.