Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Eagle yn lansio ymgyrch ariannu torfol mewn ymgais i barhau i weithio yn ystod y pandemig

18 Medi 2020

Sophie-lee Williams with a golden eagle
Sophie-lee Williams

Mae prosiect i ailgyflwyno eryr i rannau o Gymru wedi lansio ymgyrch ariannu torfol er mwyn ei helpu i barhau â’u gwaith yn ystod y pandemig. 

Mae Ailgyflwyno Eryrod yng Nghymru (ERW), a gefnogir gan Brifysgol Caerdydd, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru a Sefydliad Bywyd Gwyllt Roy Dennis, yn gobeithio adfer eryr aur a/neu gynffonwen i gefn gwlad Cymru. Nid ydynt wedi bodoli yma ers canol y 19eg ganrif. 

Mae pandemig y coronafeirws wedi gadael ERW heb gyllid – ac mae'r prosiect bellach yn ceisio cefnogaeth y cyhoedd er mwyn helpu i sicrhau fod ei ymdrechion i ailgyflwyno’r adar ysglyfaethus eiconig i'r gwyllt yn parhau. 

Dywedodd Sophie-lee Williams, 28, sy’n rheoli’r Prosiect Ailgyflwyno Eryrod yng Nghymru[GH1] ym Mhrifysgol Caerdydd: "Cawsom drafodaethau am gytundebau ariannu gyda sawl cefnogwr amlwg cyn y pandemig ond cyn gynted ag y cyflwynwyd y cyfnod clo daeth yn amlwg na fyddai'r arian hwn ar gael mwyach. 

"Nes bydd y llywodraeth a chronfeydd cadwraeth yn ailagor, rydym yn gofyn am gymorth a chefnogaeth y cyhoedd i barhau â'n gwaith arloesol i ddod â'r rhywogaethau diwylliannol ac eiconig hyn yn ôl i Gymru." 

Mae adfer rhywogaethau yn waith cymhleth dros ben ac mae'n cynnwys llawer o wahanol agweddau – o astudiaethau dichonoldeb helaeth ac ymchwil drylwyr i nodi'r cynefinoedd gorau ac ardaloedd rhyddhau addas yng Nghymru, hyd at ymgynghori cyhoeddus helaeth ar raddfa eang â chymunedau a rhanddeiliaid. Mae'n rhaid i'r gwaith gydymffurfio â phrosesau trwyddedu llym a bennir gan yr Undeb Rhyngwladol ar gyfer Gwarchod Natur (IUCN) a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC). 

Yn fwyaf diweddar, mapiodd ERW ddosbarthiad hanesyddol y ddwy rywogaeth yng Nghymru – sy'n rhagofyniad hanfodol ar gyfer eu hailgyflwyno.  

Yn ôl arbenigwyr bywyd gwyllt, prosiect ERW sydd â'r cyfle mwyaf realistig, o adfer y ddau eryr brodorol yn llwyddiannus, o gymharu â nifer o brosiectau eraill. Disgrifiodd arbenigwyr ymdrechion ERW fel rhai rhagorol, hynod broffesiynol a threfnus. 

Nod ERW yw codi hyd at £50,000 i helpu i ariannu ymchwilydd amser llawn ar gyfer y prosiect.  

"Rydym yn gobeithio y bydd yr apêl hon yn helpu i alluogi ein prosiect i barhau i symud ymlaen hyd yn oed yn ystod ansicrwydd y pandemig," meddai Sophie-lee. 

"Rydym eisoes wedi gwneud tair blynedd o waith caled - ond mae llawer mwy i'w wneud o hyd er mwyn bodloni gofynion cyn y gwelwn yr eryr yn hedfan yn yr awyr yng Nghymru unwaith eto. 

"Bydd unrhyw rodd fawr neu fach yn ein helpu i barhau i gasglu'r dystiolaeth hollbwysig sydd ei hangen arnom i adfer y rhywogaethau ysblennydd hyn i Gymru. Po fwyaf y codwn codi, mwyaf diogel fydd prosiect ERW yn ystod y pandemig." 

Bydd cyllid yn galluogi ERW i gychwyn a chwblhau'r gofynion IUCN canlynol:

  • Ymgysylltu’n helaeth â'r cyhoedd, y gymuned a rhanddeiliaid;
  • Asesiadau risg ecolegol;
  • Argaeledd ysglyfaeth ac asesiadau dwysedd
  • Dewis y safleoedd rhyddhau gorau ar gyfer y ddau eryr yng Nghymru;
  • Grŵp llywio prosiect i lywio camau nesaf y gwaith hwn;
  • Y cynlluniau ymarferol a'r dulliau trawsleoli sy'n arwain at adfer eryr

Mae dolen i'r ymgyrch cyllid torfol gael yma.

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol enw da ar lefel ryngwladol am ei haddysgu a’i hymchwil, ac mae’n cynnig rhai o’r cwricwla biowyddorau gorau yn y DU sy’n cael ei arwain gan ymchwil