Ewch i’r prif gynnwys

Ymgais cregyn crancod i daclo COVID-19

15 Medi 2020

Crab Shells, Rhossili
Crab shells, Rhossili

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn gweithio'n agos gyda chwmni o ogledd Cymru i bennu a oes modd defnyddio deunyddiau sy'n deillio o gregyn crancod gwastraff i daclo COVID-19.

Mae arbenigwyr feiroleg o Ysgol Meddygaeth Caerdydd yn gweithio gyda chwmni Pennotec o Bwllheli, i werthuso nodweddion gwrthfeirysol Chitosan - y cemegyn sy'n deillio o gregyn crancod.

Gyda chefnogaeth rhaglen Accelerate drwy Gyflymydd Arloesedd Clinigol Caerdydd, bydd y bartneriaeth yn profi a all deunyddiau gwrth-ficrobaidd naturiol helpu i leihau'r risgiau o halogiad gan feirysau.

Dywedodd Andrew Cuthbert, Uwch-gymrawd Arloesedd o Gyflymydd Arloesedd Clinigol Caerdydd, "Ein nod fel canolfan feithrin yw magu partneriaethau sy'n cefnogi datblygiad a thwf y clwstwr BBaChau llewyrchus yng Nghymru, yn benodol yn y sector "technoleg feddygol". Mae Pennotec yn enghraifft wych o gwmni hynod arloesol sy'n torri tir newydd, ac rydym yn falch o weithio gyda nhw ar ddatblygu dulliau clinigol newydd o ddefnyddio Chitosan."

Dywedodd Dr Jonathan Hughes, RhG Pennotec: "Rydym yn gyffrous iawn ynglŷn â defnyddio chitosan mewn ffordd newydd, ac yn edrych ymlaen at gael gweithio gyda Chaerdydd a Bangor. Mae deunyddiau meddygol yn faes newydd i ni, ond bydd gallu defnyddio cyfleusterau labordy hynod arbenigol ac arbenigedd profi drwy Gyflymydd Arloesedd Caerdydd yn ein galluogi i ddatblygu deunyddiau naturiol o wastraff sydd â manteision o ran iechyd, cymdeithas a'r amgylchedd."

Ar hyn o bryd, mae Pennotec yn gweithio gyda Chanolfan BioGyfansoddiau Prifysgol Bangor i ddatblygu gorchudd unigryw sydd â nodweddion difa feirysau hirdymor, ar ôl ymateb i alwad cyllid Innovate UK: 'Arloesedd Busnes mewn ymateb i darfu byd-eang'.

Nod y cwmni yw creu gorchuddion ar gyfer cyfarpar diogelu personol (PPE) a dyfeisiau meddygol, a allai atal lledaeniad y coronafeirws drwy ladd unrhyw feirws sy'n dod i gyswllt â'r deunyddiau wedi'u gorchuddio.

Wedi'i ariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop, Swyddfa Gyllid Ewropeaidd Cymru, grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, prifysgolion, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a'r byrddau iechyd, nod Accelerate yw creu manteision iechyd hirdymor a gwerth economaidd i Gymru.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.