Ewch i’r prif gynnwys

Buddsoddiad sylweddol i fynd i’r afael â materion cynhyrchiant y DU

24 Awst 2020

Productivity puzzle

Mae Prifysgol Caerdydd yn ymuno ag wyth sefydliad arall i helpu i wella cynhyrchiant y DU.

Mae academyddion yn Ysgol Busnes Caerdydd ynghlwm wrth y Sefydliad Cynhyrchiant werth £32 miliwn, fydd yn helpu arweinwyr polisïau a busnes o bob rhan o'r DU i ddeall sut i wella cynhyrchiant a safonau byw, wrth i'r economi ddechrau adfer ar ôl effeithiau COVID-19.

Mae'n cael ei ariannu gan £26 miliwn o'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn ogystal â £6 miliwn gan y prif sefydliad, Ysgol Busnes Alliance Manceinion, a'i sefydliadau partner dros bum mlynedd.

Dywedodd yr Athro Andrew Henley, Ysgol Busnes Caerdydd: "Mae problem cynhyrchiant isel y DU wedi bod yn un o'r heriau mwyaf sylweddol o ran busnes a'r economi dros y degawd diwethaf. Mae hon yn her 'uwchraddio', sydd â nodweddion rhanbarthol amlwg. Yng Nghymru, mae cynhyrchiant isel wedi bod yn rhwystr o ran cau ein bwlch ffyniant ers o leiaf sefydliad y llywodraeth ddatganoledig.

Rwy'n falch iawn y bydd Ysgol Busnes Caerdydd yn cyfrannu at waith Sefydliad Cynhyrchiant newydd y DU, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr a phartneriaid eraill wrth i ni geisio datblygu a chyfathrebu persbectif Cymreig ar gynhyrchiant a lles, a gwneud gwaith newydd i adnabod a rhannu arferion gorau o ran polisïau a strategaethau i'r dyfodol.

Yr Athro Andrew Henley Professor of Entrepreneurship and Economics, Director of Research Engagement and Impact

Er bod cynhyrchiant y DU (cyfanswm cynhyrchiant fesul gweithiwr) wedi codi'n hanesyddol dros amser, mae'n is nawr nag yr oedd ar ddechrau'r argyfwng ariannol yn 2008. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod yr economi wedi tyfu tan i COVID-19 gyrraedd y DU - rhywbeth sy'n cael ei alw'n 'pos cynhyrchiant' Prydain.

Gallai mynd i'r afael â hyn arwain at swyddi gwell, safonau byw uwch a'r wlad yn dod yn gyfoethocach ar sail person.

Ariennir y Sefydliad Cynhyrchiant gan yr ESRC yn rhan o'i fuddsoddiad mwyaf i ymchwil i’r gwyddorau cymdeithasol. Mae ESRC yn rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, sy'n cael ei ariannu'n bennaf gan yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaethau Diwydiannol (BEIS).

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.