Ewch i’r prif gynnwys

Effaith cyfyngiadau symud COVID-19 i’w weld fwyaf ar yr hunangyflogedig

24 Ebrill 2020

Four portraits of males and females

Mae ymchwil newydd wedi amlygu sut y gallai'r mesurau i gyfyngu ar symudiadau o ganlyniad i'r pandemig COVID-19 gynyddu anghydraddoldeb cymdeithasol mewn cyflogaeth ym Mhrydain.

Mae'r canfyddiadau'n dangos mai'r hunangyflogedig fydd yn teimlo’r effaith mwyaf yn y sectorau risg, gyda'r effaith yn gryfach ar fenywod na dynion.

Ym Mhapur Insight y Ganolfan Ymchwil i Fentrau (ERC) gan yr Athro Andrew Henley o Ysgol Busnes Caerdydd a Dr Darja Reuschke o Ysgol Daearyddiaeth a Gwyddor Amgylcheddol Prifysgol Southampton, nodir y grwpiau o weithwyr sy'n fwyaf tebygol o ddioddef ergyd yn sgil cau busnesau a'r mesurau pellhau cymdeithasol.

Mae'r astudiaeth yn datblygu rhagolygon blaenorol ar effeithiau'r cyfyngiadau symud ar gyflogaeth drwy gynnwys yr hunangyflogedig ac edrych ar yr amrywiadau rhanbarthol o ran effaith yr argyfwng.

Sectorau 'risg'

Yn ddiweddar adroddodd y Sefydliad Astudiaethau Ariannol mai'r sectorau personol a domestig sy'n canolbwyntio ar y cwsmer sy'n dioddef fwyaf yn sgil y cyfyngiadau symud, yn cynnwys adwerthu nad yw'n fwyd nac yn fferyllol; llety a bwyd; gofal plant a rhan helaeth o'r sector celfyddydau a hamdden.

Mae pobl hunangyflogedig yn fwyaf tebygol o weithio yn y sectorau 'risg' hyn. Gan ddefnyddio Arolwg Chwarterol Gweithlu'r DU - y data cyflogaeth mwyaf diweddar ar gyfer y DU - mae'r astudiaeth newydd hon yn dangos fel a ganlyn:

  • Bod risg y bydd ychydig dros filiwn o weithwyr hunangyflogedig y wlad (22%) yn ddioddef effaith y cyfyngiadau symud.
  • Bod yn agos i draean o fenywod hunangyflogedig yn wynebu risg, a bod y gyfradd risg uchel ymhlith menywod ifanc rhwng 16-29 oed a'r rheini rhwng 30-44 oed sy'n fwy tebygol o fod â theuluoedd a morgais yn peri pryder penodol.
  • Yn y gweithlu'n gyffredinol, bod pobl ifanc (16-29 oed) yn fwy tebygol o weithio mewn sectorau 'risg' na gweithwyr hŷn.
  • Fodd bynnag mae'r hunangyflogedig ym mhob grŵp oedran (rhwng 16-64 oed) yn fwy tebygol o deimlo effaith yr argyfwng.

Canfu'r ymchwilwyr arwyddocâd ar sail lefelau addysg hefyd, gyda'r rheini oedd â gradd yn teimlo'r effaith leiaf. Caiff pobl sydd â gradd eu gwarchod fwy o lawer rhag risg cyflogaeth o'u cymharu â chymwysterau addysg eraill ac mae'r bwlch yn enfawr o'i gymharu â'r rheini sydd â chymwysterau isel neu ddim cymwysterau o gwbl, sy'n teimlo'r effaith fwyaf. Mae meddu ar radd yn gysylltiedig â gwaith sgiliau uchel sydd hefyd yn caniatáu i bobl weithio gartref.

Anghydraddoldeb gofodol

Ymhellach, mae'r astudiaeth yn dangos gwahaniaethau rhanbarthol yn nifrifoldeb yr argyfwng cyflogaeth, gyda Llundain a'r Alban â risg sylweddol uwch na rhanbarthau eraill. Mae'r effaith yn uwch ar gyflogeion yn Llundain yn benodol o'i gymharu â rhanbarthau eraill.

Fodd bynnag, i'r hunangyflogedig mae'r patrwm rhanbarthol yn wahanol. Mae'r hunangyflogedig yn debygol o deimlo’r ergyd fwyaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr - a bydd yn sylweddol is yn Llundain a’r De-ddwyrain. Mae anghydraddoldeb gofodol mewn potensial entrepreneuraidd felly'n debygol o gael ei atgyfnerthu.

Dywedodd Dr Reuschke: “Mae'r astudiaeth hon yn tynnu sylw at y warchodaeth mae'r gallu i weithio gartref yn ei roi i gyflogeion. Dylai'r canfyddiadau annog cyflogwyr i gymryd camau pellach ar ôl yr argyfwng i hyrwyddo'r trefniant gweithio hyblyg hwn yn y dyfodol gan nad oes modd iddynt ddibynnu bob amser ar gymorth y Llywodraeth os yw eu gweithwyr yn methu â chyflawni eu rolau gartref...”

“Mae angen i lunwyr polisïau dalu sylw'n benodol i weithwyr ifanc a'r hunangyflogedig yn yr argyfwng presennol. Bydd yn arbennig o bwysig rhoi cymorth cyflogaeth a gyrfa i bobl ifanc. Bydd y sector Addysg Uwch a datblygu cyfleoedd ar gyfer caffael sgiliau uwch yn allweddol wrth baratoi at argyfyngau yn y dyfodol.”

Dr Darja Reuschke Ysgol Daearyddiaeth a Gwyddor Amgylcheddol Prifysgol Southampton

Ychwanegodd yr Athro Henley: “Dyw'r amcangyfrifon hyn o bwy, ymhlith yr hunangyflogedig, sydd â'r risg mwyaf yn yr argyfwng hwn, ddim yn ddarllen rhwydd. Maen nhw'n awgrymu bod risg sylweddol uwch y bydd menywod hunangyflogedig a'r rheini sydd â lefelau is o gyrhaeddiad addysgol yn colli eu bywoliaeth...”

“Yn gyffredinol mae ychydig dros filiwn o weithwyr hunangyflogedig yn wynebu'r risg uchaf, sy'n cyfateb bron yn union i'r twf mewn hunangyflogaeth rydym ni wedi'i weld yn y DU dros y degawd diwethaf. Os bydd argyfwng iechyd cyhoeddus COVID-19 yn arwain at gau'r busnesau bach ac unig fasnachwr sy'n eiddo i'r bobl hyn yn barhaol, byddai hynny'n gwymp sylweddol mewn gweithgaredd entrepreneuraidd.”

Yr Athro Andrew Henley Professor of Entrepreneurship and Economics, Director of Research Engagement and Impact

“Mae cyflwyno Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth y Llywodraeth yn gyflym ac yn effeithiol yn hanfodol i ddiogelu gweithgaredd entrepreneuraidd ar draws yr economi.”

Cyhoeddwyd y papur Insight COVID-19 and self-employment in the UK gan yr ERC ar 21 Ebrill 2020.

Rhannu’r stori hon

Sicrhau diogelwch a lles ein staff a’n myfyrwyr yw ein blaenoriaeth.