Ewch i’r prif gynnwys

Hyfforddi arbenigwyr data'r sector cyhoeddus

16 Mehefin 2020

Graph stock graphic

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cydweithio â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) i gyflwyno ystod o gyrsiau datblygiad proffesiynol i weithwyr yn y sector cyhoeddus.

Nod y cyrsiau yw meithrin gallu gwyddor data ym mhob rhan o'r llywodraeth drwy sicrhau bod gan weision sifil y gyfres allweddol o sgiliau sydd ei hangen ar ddadansoddwr data modern y llywodraeth.

Y Brifysgol fydd y sefydliad diweddaraf i gynnig cymhwyster MSc mewn Dadansoddi Data i’r Llywodraeth (MDataGov), gan ymuno â phedair prifysgol arall ledled y DU.

Mae dros 100 o weithwyr y sector cyhoeddus yn cymryd rhan yn y rhaglen bob blwyddyn, sydd eisoes wedi bod yn hynod llwyddiannus o ran cynyddu adnoddau gwyddorau data'r Llywodraeth

Bydd y rhaglen MSc sy'n para blwyddyn yn dechrau yn 2020/21. Mae’n cynnwys pedwar modiwl craidd am Sylfeini Gwyddorau Data, Ystadegau'r Llywodraeth, Sylfeini Arolygon a Rhaglennu Ystadegol. Ar ben hynny, mae'r MSc yn cynnwys ystod o fodiwlau dewisol gan gynnwys Cyfres Amser a Darogan, Dysgu Peirianyddol Cymhwysol, Cyfrifiadura Gwasgaredig a Chwmwl, a Delweddu Data, ymysg rhai eraill.

Mae'r modiwlau craidd hyn ar gael i'w hastudio ar eu pen eu hunain, gan roi hyblygrwydd i'r dysgwr astudio ar lefel ôl-raddedig ochr yn ochr â rheoli ymrwymiadau gwaith a bywyd presennol.

Bydd y cwrs yn rhan o Academi Gwyddor Data (DSA) Prifysgol Caerdydd, a sefydlwyd ym mis Hydref 2019, i gefnogi addysg y genhedlaeth nesaf o arbenigwyr ym meysydd Gwyddorau Data, Deallusrwydd Artiffisial a Seiber-ddiogelwch.

Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd sy'n rhedeg DSA, ar y cyd â'r Ysgol Mathemateg, ac mae'n seiliedig ar fodel Academi Meddalwedd Cenedlaethol y Brifysgol, lle mae myfyrwyr yn cael profiad go iawn o weithio ar brosiectau tîm sy'n canolbwyntio ar gleientiaid.

Lansiwyd y DSA yn sgîl y galw cynyddol yn y diwydiant am raddedigion hynod fedrus sy'n deall sut i drin data, ac adroddiadau'n nodi bod galw am raddedigion meistr a PhD medrus sydd â'r "profiad ymarferol ychwanegol" er mwyn diwallu anghenion y diwydiant.

Y rhaglen newydd hon yw'r datblygiad diweddaraf i ddeillio o bartneriaeth strategol rhwng Prifysgol Caerdydd a'r ONS yn 2019.

Sefydlwyd y bartneriaeth i annog rhannu cyfleusterau, adnoddau ac arbenigedd, cyd-ddatblygu digwyddiadau a gweithgareddau i hyrwyddo defnydd data fel rhan o wneud penderfyniadau mewn polisi cyhoeddus, ac ymchwil cydweithredol newydd sy’n gwella dealltwriaeth ar bynciau megis heneiddio’n iach, deallusrwydd economaidd ac addysg a sgiliau.

Mae’n adeiladu ar y blynyddoedd o gydweithio agos rhwng Prifysgol Caerdydd a Swyddfa'r Ystadegau Gwladol sydd eisoes wedi gweld Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan mewn datblygu technegau gwyddorau data newydd sydd a’r nod o hysbysu penderfyniadau pwysig y llywodraeth.

Dywedodd yr Athro Paul Harper, Arweinydd Academaidd a Chadeirydd Partneriaeth Strategol y Brifysgol gyda'r ONS: "Rwy'n falch iawn bod y rhaglen newydd hon wedi'i datblygu'n rhan o'n partneriaeth strategol gyda'r ONS.

"Sefydlwyd y bartneriaeth hon yn 2019 i rannu cyfleusterau, adnoddau ac arbenigedd, i gyd-ddatblygu digwyddiadau, rhaglenni a gweithgareddau, ac er mwyn cydweithio ar ymchwil ar heneiddio'n iach, gwyddorau data a gwybodaeth economaidd."a

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol, sy'n blaenoriaethu ymchwil, enw da am addysgu ardderchog a gweithgareddau ymchwil medrus rhyngwladol.