Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau NUE 2020

23 Ebrill 2020

Group of students at awards ceremony
Daniel, Will, Kate and Sioned’s successes in winning, being highly commended and being shortlisted marks bumper year at NUE Awards 2020

Mae myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu llwyddiant mewn lleoliadau gwaith ac interniaethau yn y Gwobrau Cyflogadwyedd Israddedig Cenedlaethol (NUE) yn Llundain.

Enillodd Daniel Hengstenberg, myfyriwr israddedig trydedd flwyddyn yn astudio BSc Rheoli Busnes, y wobr Intern Gorau, a chipiodd ei gyd-fyfyriwr William Partridge wobr Cyfraniad Gorau gan Fyfyriwr i Gyflogwr Bach i Ganolig.

Canmolwyd y ddau enillydd, sy’n astudio yn Ysgol Busnes Caerdydd, am eu cyfraniadau rhagorol i’r cwmnïau lle’r oedden nhw wedi bod yn gweithio.

Man receiving award at ceremony
Daniel Hengstenberg, Best Intern at NUE 2020

Dywedodd Daniel, a gwblhaodd ei Leoliad Gwaith Integredig fel Rheolwr Cyfrif Cyflenwyr gyda'r arbenigwyr e-gaffael Mercateo UK: “Rhoddodd y Wobr NUE ymdeimlad gwych o gyflawniad i fi. Cael cydnabyddiaeth allanol am yr ymdrech a'r gwaith rwyf i wedi'i wneud yn ystod fy interniaeth. Mae wedi talu ffordd ac rwy'n falch o hynny...”

“Yr hyn a fwynheais i fwyaf am y profiad hwn oedd bod yn rhan o dîm bach. Roedd gen i lawer o gyfrifoldeb ac roeddwn i'n gallu gweld yr effaith gadarnhaol a gafodd fy ngwaith ar y cwmni.”

Daniel Hengstenberg Myfyriwr israddedig trydedd flwyddyn yn astudio BSc Rheoli Busnes

Mae Daniel, oedd yn gyfrifol yn uniongyrchol am dwf arlwy cynhyrchion y busnes, wedi derbyn lleoliad gwaith blwyddyn o hyd, a bydd yn ailymuno â Mercateo yr haf hwn.

“Byddwn i'n argymell i unrhyw fyfyriwr ymgymryd ag interniaeth neu leoliad gwaith fel rhan o'u gradd. Mae'n gyfle i chi roi'r wybodaeth ddamcaniaethol rydych chi wedi'i dysgu yn y brifysgol ar waith a datblygu sgiliau fydd yn gymorth i'ch gyrfa yn y dyfodol, gan eich paratoi at fywyd y tu hwnt i'r brifysgol,” ychwanegodd.

William yw enillydd cyntaf erioed y Wobr Cyfraniad Gorau gan Fyfyriwr i BBaCh, categori a gyflwynwyd eleni gan RMP Enterprise i wobrwyo myfyrwyr sydd wedi cael effaith ar fusnes bach.

Wrth edrych yn ôl ar ei Flwyddyn ar Leoliad Proffesiynol gyda'r cwmni arddangos sy'n tyfu gyflymaf yn Ewrop, Prysm Group, dywedodd William: “Roedd Gwobrau NUE yn ddigwyddiad rhyfeddol gyda bwyd gwych, diodydd, siaradwyr a chyfleoedd i rwydweithio. Roedd yn golygu llawer i fi i gael y cyfle i ddathlu fy nghyflawniad a fy ngwaith caled gyda Daniel, Katherine a Sioned a Thîm y Parth Cyfleoedd.”

Man collects award at ceremony
William Partridge, Best Student Contribution to a Small to Medium-sized Employer at NUE 2020

Dywedodd Christian Yandell, Rheolwr Gyfarwyddwr Prysm Group: “Parhaodd Will â'i daith ar i fyny, gan gyflawni targedau gwerthiant yn ddigon cyson i'w nodi ar gyfer hyrwyddiadau. Dyw cynnydd fel hyn drwy'r busnes ddim wedi'i weld erioed a dylid cydnabod ei lwyddiant - rhagorol!"

“Allwn i ddim argymell mynd ar flwyddyn ar leoliad neu interniaeth fwy. Nid yn unig mae'n gyfle gwych i dreulio amser yn astudio ac anelu’n uchel, ond bydd y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiadau a gefais yn gweithio gyda Prysm Group yn aros gyda fi am byth.”

William Partridge Myfyriwr israddedig trydedd flwyddyn yn astudio BSc Rheoli Busnes

Effaith wirioneddol a mesuradwy

Cafodd Katharine Kirkup, myfyriwr blwyddyn olaf BScEcon Economeg gydnabyddiaeth hefyd am ei llwyddiannau yn y gweithle.

Er na ddaeth i'r brig yn y categori Myfyriwr Lleoliad Gwaith Gorau, fe'i canmolwyd yn uchel gan RMP Enterprise, sy'n tystio i'w heffaith wirioneddol a mesuradwy ar leoliad.

Woman receiving award at ceremony
Katharine Kirkup was highly commended in the Best Placement Student category at NUE 2020

Cwblhaodd Katharine ei Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol fel Economegydd Myfyriwr yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Dywedodd: “Cefais brofiad gwirioneddol ymarferol oedd yn cynnig cipolwg da ar y gwasanaeth sifil yn ogystal â gyrfa fel economegydd...”

“Roedd cynifer o gyfleoedd i wella fy sgiliau ac mae'r profiad wedi cynyddu fy hyder yn aruthrol. Gwnes i waith roeddwn i'n falch ohono, ac felly roedd yn wych gweld bod yr effaith a gefais yn ystod y lleoliad gwaith yn cael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau NUE.”

Katharine Kirkup Myfyriwr blwyddyn olaf BScEcon Economeg

“Rwy'n bendant yn fwy hyderus yn ymgeisio am swyddi lefel gradd gyda'r profiad hwn ar fy CV.”

NUE Awards official film

Mae Gwobrau NUE yn eu hunfed flwyddyn ar ddeg, ac yn dathlu llwyddiannau rhagorol cyflogwyr, myfyrwyr a phrifysgolion mewn profiad gwaith israddedig ar draws y DU.

Eleni, cyrhaeddodd pedwar o fyfyrwyr israddedig Ysgol Busnes Caerdydd y rhestr fer a dyma'r nifer uchaf o fyfyrwyr yr Ysgol i gyrraedd y rhestr fer hyd yma.  Gyda chynifer o fyfyrwyr ar y rhestr fer, roedd Ysgol Busnes Caerdydd yn cyfrif am bedwar o blith y 15 a enwebwyd am wobrau lleoliad gwaith yn y digwyddiad cenedlaethol.

“Gwaith rhagorol, a llwyddiant pwysig”

Dywedodd yr Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: “Ar ran pawb yn yr Ysgol, hoffwn gynnig llongyfarchiadau gwresog i'n henillwyr a'n henwebeion yn y Gwobrau NUE...”

“Mae cael sylw ar lwyfan cenedlaethol am y cyfraniadau unigol rydych chi wedi'u gwneud i'ch sefydliadau'n gyflawniad gwych. Mae gwneud y fath wahaniaeth mawr mewn cyfnod byr iawn yn eithriadol ac yn dyst i'ch gwaith caled a'ch ymroddiad. Gobeithio y bydd y profiad hwn a'r ymdeimlad o gyflawniad yn aros gyda chi wrth i chi fynd o nerth i nerth yn eich gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Yr Athro Rachel Ashworth Deon Ysgol Busnes Caerdydd

“Diolch hefyd i Alex Hicks, ein Rheolwr Lleoliadau Gwaith, a'i dîm am eu holl waith a chefnogaeth i'r rheini oedd ar leoliad eleni a phob blwyddyn. Heb eich cefnogaeth chi, ni fyddai'r llwyddiannau hyn yn bosibl!”

Ychwanegodd yr Athro Damian Walford Davies, Rhag Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: “Roeddwn wrth fy modd ac yn falch i glywed am lwyddiannau Daniel, Will, Kate a Sioned - yn ennill, yn cael canmoliaeth uchel a bod ar y rhestr fer - yn y Gwobrau Cyflogadwyedd Cenedlaethol i Israddedigion. Gwaith rhagorol, a llwyddiant pwysig...”

“Llongyfarchiadau a diolch hefyd i Alex Hicks, Rheolwr Lleoliadau Gwaith Ysgol Busnes Caerdydd am gefnogi'r myfyrwyr a'r rheini sy'n gweithio gyda nhw mor effeithiol.”

Yr Athro Damian Walford Davies Y Dirprwy Is-Ganghellor

Cardiff Business School placements

Mae llwyddiant fel hyn wedi gweld gwasanaethau Cyfnewid a Chyflogadwyedd, Lleoliadau a Gyrfaoedd penodol Ysgol Busnes Caerdydd yn symud i gartref newydd yn dilyn buddsoddiad o £180,000 yn Y Parth Cyfleoedd ar lawr gwaelod Adeilad Aberconwy.

Cysylltwch ag Alex Hicks, Rheolwr Lleoliadau Gwaith Ysgol Busnes Caerdydd am ragor o wybodaeth am yr amrywiaeth o gyfleoedd i gael profiad gwaith wrth astudio ar gyfer eich gradd gyntaf.

Alex Hicks

Alex Hicks

Placement Manager

Email
hicksa2@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6565

Rhannu’r stori hon

Find out more about the ways in which your organisation can work with our students, including placements and live projects.