Ewch i’r prif gynnwys

Y myfyrwyr meddygol sy'n ymuno â'r llinell flaen yn y frwydr yn erbyn coronafeirws

28 Ebrill 2020

Eli Wyatt
Eli Wyatt

Mae dros 1,000 o fyfyrwyr meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi gwirfoddoli i helpu yn y frwydr yn erbyn coronafeirws drwy gefnogi GIG Cymru.

Mae llawer yn gweithio ar y llinell flaen mewn wardiau Covid-19 mewn ysbytai ar draws Cymru, tra bo eraill mewn meddygfeydd neu'n cefnogi ymdrechion drwy addysg feddygol.

Yma mae pedwar myfyriwr o Ysgol Meddygaeth y Brifysgol yn disgrifio yn eu geiriau eu hunain sut deimlad yw ymgymryd â her brwydro pandemig - cyn iddyn nhw raddio hyd yn oed.

Faris Hussain
Faris Hussain

Mae'r myfyriwr blwyddyn olaf Faris Hussain, 24, a anwyd yng Nghaerdydd ac a fagwyd yng Nghwmbrân, yn gweithio yn Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd:

'Mae bod yn rhan o'r ymdrech i ymdrin â'r argyfwng hwn yn ysbrydoli'

"Rwyf i'n gweithio fel rhan o dîm ar ward meddygaeth gyffredinol. Ar hyn o bryd mae wedi'i dynodi'n ward Covid, sy'n golygu ein bod yn gofalu am gleifion sydd wedi profi'n gadarnhaol am Covid-19 ond hefyd cleifion gyda chlefydau a heintiau eraill.

"Mae'n fraint cael bod yn rhan o ymdrech y GIG i helpu cynifer o bobl ag y gallwn drwy'r argyfwng. Y rhan fach rwyf i'n ei chwarae yw'r peth lleiaf y gallaf i ei wneud yn y cyfnod digynsail hwn. Mae sawl agwedd ar fywyd wedi eu hatal oherwydd y pandemig - a wyddon ni ddim pa mor hir fydd pethau'n parhau fel hyn, na beth ddaw yn y dyfodol. Ond mae gweithio gyda staff y GIG i helpu i frwydro'r argyfwng yn ysbrydoli.

"Gwirfoddolais i am fy mod yn credu bod gen i gyfrifoldeb i helpu mewn unrhyw ffordd y gallaf i tra bod angen yn y GIG. Er fy mod ar gam cynnar iawn yn fy ngyrfa feddygol, gobeithio y gallwn ni wneud gwahaniaeth drwy liniaru'r pwysau ar ysbytai a chefnogi staff y GIG.

"Mae'r Ysgol Meddygaeth wedi bod yn wych yn ein paratoi ni i fod yn feddygon iau ac er bod yr amgylchiadau hyn heb os yn heriol, rwy'n teimlo'n barod i ymdopi a helpu gyda'r ffordd mae'r GIG yn ymdrin â'r heriau hyn."

Emily Lloyd
Emily Lloyd

Mae'r myfyriwr blwyddyn olaf Emily Lloyd, 24, o Drewyddel yng ngogledd sir Penfro, yn gweithio yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin:

'Rwy'n nerfus ond yn bennaf yn falch i allu helpu yn y gymuned lle cefais fy magu'

"A minnau'n hanu o bentref bach, rwy'n falch i allu dod yn ôl i'r gorllewin i helpu yn y gymuned lle cefais fy magu. Mae fy rôl yn cynnwys cynorthwyo meddygon iau ar y ward feddygol gydag unrhyw dasgau sydd angen eu cyflawni a gwneud yn siŵr fod cleifion yn gallu mynd adref mor fuan â phosibl i osgoi unrhyw risg o haint neu ddal coronafeirws.

"Rwy'n falch i allu helpu yn yr ymdrech hwn i guro coronafeirws - ond rhaid i fi gyfaddef fy mod ychydig  yn nerfus hefyd. Rydym ni wedi derbyn cefnogaeth wych gan yr holl staff yn yr Ysgol Meddygaeth ac fe wyddom drwy glicio ebost neu alwad ffôn sydyn, y bydd rhywun yna i'n harwain a'n helpu.

"Rydym ni'n ffodus yma yng ngorllewin Cymru nad ydyn ni wedi gweld yr un nifer o achosion Covid-19 â mannau eraill. Ond mae pryder ymhlith staff yr ysbyty a'r cyhoedd y gallai'r 'don' ein taro yma yn hwyrach. Beth bynnag a ddaw dros y misoedd nesaf, fe fyddaf i'n gwneud popeth y gallaf i helpu.

"Doedd gweithio mewn ysbyty cyn i fi raddio hyd yn oed ddim yn sefyllfa roeddwn i'n disgwyl bod ynddi - ond rwy'n benderfynol o ddysgu cymaint ag y gallaf i ac rwy'n siwr ymhen blynyddoedd y byddaf i'n falch wrth edrych yn ôl ar y ffordd y dechreuodd fy ngyrfa fel meddyg."

Mae'r myfyriwr blwyddyn olaf, Eli Wyatt, 23, o Ynysgynwraidd yn ne Cymru'n gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd yn Sir y Fflint:

'Roedd yn teimlo fel dysgu nofio mewn dŵr dwfn - ond rwyf i nawr yn teimlo’n rhan o dîm o ymladdwyr'

"Bu braidd yn frawychus dechrau ar y wardiau Covid yma yn Ysbyty Glan Clwyd. Ond rhaid i fi ddweud bod y staff mor groesawgar ac rwy'n teimlo'n gartrefol yn barod er fy mod i yma ers llai nag wythnos. Rwyf i wedi mynd o deimlo fy mod i'n dysgu nofio mewn dŵr dwfn i deimlo'n rhan o dîm o ymladdwyr cryf.

"Rwy'n atgoffa fy hun beth bynnag wyf i'n ei deimlo, dyw hynny'n ddim o'i gymharu â beth mae ein cleifion yn ei deimlo wrth frwydro'r clefyd yma ac mae hynny'n fy atgoffa pam y dewisais yr yrfa ryfeddol hon. Rwyf i mor falch i ddechrau gyda'r GIG yn y cyfnod digynsail hwn a byddaf i'n fythol ddiolchgar i Brifysgol Caerdydd am fy nghael i yma."

Tom Beresford
Tom Beresford

Mae Tom Beresford, 23, o Abertawe, sy'n cwblhau gradd addysg feddygol rhwng blwyddyn 4/5 ei astudiaethau meddygaeth, yn gweithio mewn tîm adnoddau e-ddysgu a gynhyrchodd ganllaw hyfforddi PPE a ddefnyddir gan ysgolion meddygaeth Caerdydd ac Abertawe a'r GIG:

'Gobeithio y bydd fy ngwaith yn helpu myfyrwyr meddygaeth a gweithwyr y GIG ar draws Cymru i gadw'n ddiogel'

"Rwy'n gweithio mewn tîm sydd newydd gael ei greu, gyda myfyrwyr eraill ar fy nghwrs, staff academaidd a chlinigol. Fe'i ffurfiwyd yn gynt yn ystod y pandemig oherwydd gwelwyd bod angen brys i ddosbarthu gwybodaeth newydd yn gyflym ar Covid-19 i weithwyr iechyd. Roedd maint y galw a'r angen am bellhau cymdeithasol yn gwneud dulliau addysgu traddodiadol yn anodd iawn felly rydyn ni'n datblygu adnoddau digidol, ac yn eu dosbarthu'n gyflym i'w cwblhau gartref.

"Yn gyffredinol mae'r tîm yn derbyn ceisiadau gan feddygon a gweithwyr iechyd i drosi canllawiau Covid-19 i fformat digidol, a chynnwys asesu o bell ac amlgyfryngau. Un o'r prosiectau rwyf i wedi gweithio arno oedd cynhyrchu e-adnodd ar arweiniad cenedlaethol newydd ar ddadebru gyda staff meddygol brys yn y Brifysgol. Rwyf i hefyd wedi helpu i ddatblygu e-adnoddau hyfforddiant PPE i helpu i ddiogelu myfyrwyr meddygol sy'n gwirfoddoli ar draws Cymru.

"Pan gododd y cyfle hwn, fe neidiais at y cyfle i gymryd rhan. Mae nifer o fy ffrindiau wedi chwerthin wrth ddechrau gweithio yn yr ysbyty a sylweddoli mai fy llais i sydd ar rannau o'r tiwtorial PPE! Mae'n eich sobri pan ydych chi'n sylweddoli, fodd bynnag, y bydd yr adnodd hwn o bosib yn cadw eich ffrindiau'n ddiogel ar y wardiau. Mae gwybod ein bod yn paratoi myfyrwyr meddygaeth - fel Faris, Eli ac Emily - ar draws Cymru, yn rhoi boddhad mawr.

"Mae'r Brifysgol wedi bod yn wych. Rwy'n edrych ymlaen at ailddechrau fy lleoliad clinigol yn y misoedd nesaf ac yn hynod o falch o fy ffrindiau sy'n gweithio ar y llinell flaen."

Dywed Dr Rhian Goodfellow, cyfarwyddwr y rhaglen meddygaeth israddedig, fod 240 o fyfyrwyr blwyddyn olaf yn gwneud gwaith cyflogedig mewn ysbytai yng Nghymru, tra bo 750 o fyfyrwyr o flynyddoedd 1-4 wedi gwirfoddoli mewn amrywiol rolau: 

'Rydyn ni mor falch o'n myfyrwyr - gobeithio y byddan nhw'n edrych yn ôl ar y cyfnod hwn gyda balchder mawr'

"Mae ein myfyrwyr wedi camu i'r adwy ac o'r dechrau wedi gwirfoddoli eu gwasanaeth. Rydyn ni mor falch o bob un ohonyn nhw. Diogelwch y myfyrwyr yw'r peth pwysicaf i ni - mae llawer ohonyn nhw'n mynd i amgylchedd hynod o anodd. Hyd yn oed i feddygon cymwysedig a staff gofal iechyd, byddai pandemig yn frawychus a heriol - ac maen nhw'n mynd allan i'r math hwn o amgylchedd am y tro cyntaf.

“Mae helpu'r GIG a chleifion mewn argyfwng fel hyn yn weithred glodwiw ac yn un o'r rhesymau pam y daethom ni i'r proffesiwn hwn. Gobeithio pan fyddan nhw'n dechrau fel meddygon y bydd ganddyn nhw ymdeimlad o falchder am eu cyfraniad gwirioneddol."

Dywed Jessica Randall, llywydd MedSoc, cymdeithas myfyrwyr y Brifysgol, fod yr ysgol meddygaeth a'i phwyllgor wedi gweithio’n "ddiflino" i gynllunio sut y gallai gwirfoddoli ar draws Cymru weithio:

'Mae'n tystio i'r lefel o ymroddiad, gofal a dewrder sydd gan fyfyrwyr meddygaeth Caerdydd'

"Rydym ni wir yn gwerthfawrogi fod y staff mor agored i'n barn a bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed a'i ystyried yn weithredol. Rwy'n credu ei fod wedi helpu i feithrin perthynas waith agosach rhwng staff a myfyrwyr, un a fydd gobeithio’n parhau yn y dyfodol.

"Pan wnaed yr alwad am wirfoddolwyr, roedd yn anhygoel fod cynifer o fyfyrwyr wedi ateb. Mae wir yn tystio i'r lefel o ymroddiad, gofal a dewrder sydd gan fyfyrwyr meddygaeth Caerdydd. Rwy'n siŵr y bydd GIG Cymru'n ddiolchgar am eu cymorth, ac rwyf i'n sicr yn falch i'w galw'n gyfoedion."