Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun cymorth iechyd meddwl i feddygon yn cael ei estyn i bob gweithiwr gofal iechyd rheng flaen yng Nghymru

16 Ebrill 2020

Nurse

Bydd cynllun cymorth iechyd meddwl rhad ac am ddim i feddygon yn cael ei estyn i bob gweithiwr gofal iechyd rheng flaen yng Nghymru i gefnogi staff y GIG sy’n mynd i’r afael â phandemig y Coronafeirws.

Bydd Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru, sydd wedi’i sefydlu a’i gynnal gan Brifysgol Caerdydd, yn cynnig lefel “ddigynsail” o gefnogaeth a chyngor i’r holl weithwyr gofal iechyd, gan gynnwys meddygon, nyrsys, myfyrwyr meddygol/gofal iechyd, parafeddygon, therapyddion, deintyddion a gwirfoddolwyr meddygol.

Bydd staff GIG Cymru’n gallu galw llinell gymorth gyfrinachol a gynhelir gan weithwyr gofal iechyd, cael sesiynau cwnsela wyneb-yn-wyneb, a chael adnoddau hunangymorth dan arweiniad ac ar-lein.

Cafodd yr estyniad ei gyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, a addawodd £1 miliwn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gyflogi seiciatryddion a chynghorwyr meddygol ychwanegol, cynnal sesiynau cwnsela a gweithredu ymyriadau pellach ar gyfer anhwylder pryder ôl-drawmatig.

Sefydlodd yr Athro Debbie Cohen, cyfarwyddwr Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol, y gwasanaeth hwn wyth mlynedd yn ôl â chyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y 10,000 o feddygon sy’n gweithio yng Nghymru.

Mae’r athro emeritws yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi bod yn gweithio gyda GIG Lloegr i estyn y model i 60,000 o staff gofal iechyd.

“Mae hon yn adeg hynod anodd i weithwyr gofal iechyd sydd ar reng flaen y frwydr yn erbyn COVID-19, felly rydym yn ehangu ein cynllun cymorth i’n meddygon fel bod pawb yn gallu cael yr un gefnogaeth seicolegol, ni waeth beth fo’u rôl yn GIG Cymru neu’u lleoliad yng Nghymru,” meddai’r Athro Cohen.

“Efallai byddant yn teimlo’n euog am beidio â gallu mynd i mewn i’r gwaith tra bod pobl eraill yn gallu, neu’n profi trawma o’r hyn y maent yn ei weld bob dydd ar y rheng flaen. Mae’n gwbl hanfodol bod y gweithwyr hyn yn cael man cyfrinachol lle maent yn teimlo y gallan nhw siarad â chymheiriaid a chael cefnogaeth mewn modd sy’n addas iddynt.

“Nid oes ffiniau i’r feirws hwn, felly mae’n rhaid i ni roi cefnogaeth sydd heb ffiniau chwaith. Dyma hanfod yr hyn rydym am ei gyflawni.”

Nid oes ffiniau i’r feirws hwn, felly mae’n rhaid i ni roi cefnogaeth sydd heb ffiniau chwaith. Dyma hanfod yr hyn rydym am ei gyflawni.

Professor Debbie Cohen

Mae’r cynllun hefyd yn galw am feddygon sydd wedi ymddeol a staff gofal iechyd eraill sydd am helpu drwy gynnal y llinell gymorth rad ac am ddim.

“Hoffem ni glywed gan staff gofal iechyd sydd, am unrhyw reswm, yn methu dychwelyd i’r gwaith ond sydd am gefnogi’r GIG yn ystod y pandemig hwn. Mae cynnig cymorth gan gymheiriaid yn hollol amhrisiadwy,” dywedodd yr Athro Cohen.

Mae academyddion uwch o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn gwirfoddoli i gefnogi’r gwasanaeth hefyd.

Dywedodd Mr Gething: “Mae COVID-19 yn her ddigynsail. Mae staff ein GIG ar reng flaen yr ymateb, yn achub bywydau cleifion ac yn gofalu amdanynt yn safleoedd y GIG ar draws Cymru.

“Wrth iddynt fynd i’r afael â thon gynyddol o gleifion a gwaith i atal lledaeniad y clefyd ac amddiffyn y rheiny sydd fwyaf mewn perygl, mae’n hanfodol y gwnawn ein gorau glas i ofalu amdanyn nhw hefyd.

“Bydd y £1 miliwn yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw yn helpu gwasanaeth Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol yng Nghymru i ehangu, fel y gallan nhw ateb y galw ychwanegol gan staff y GIG.”

Bydd y gwasanaeth ar gael rhwng 9am a 5pm drwy ffonio 0800 058 2738 neu ebostio HHPCOVID19@caerdydd.ac.uk.

Gellir defnyddio’r un cyfeiriad ebost i ofyn am wybodaeth bellach am sut i wirfoddoli i gynnal y llinell gymorth rad ac am ddim.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.