Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabod cymorth i fusnesau bach

7 Rhagfyr 2017

Executive Education facilities

Mae cymorth Prifysgol Caerdydd i fusnesau bach drwy ymchwil, arloesedd ac entrepreneuriaeth myfyriwr wedi'i gydnabod gan Siarter y Busnesau Bach .

Mae Gwobr fawreddog Siarter y Busnesau Bach, a gyflwynwyd i Ysgol Busnes Caerdydd, yn nod barcud cenedlaethol. Mae'n cydnabod ysgolion busnes sy'n dangos rhagoriaeth wrth gefnogi menter myfyrwyr, ymgysylltiad â’r economi leol, a chymorth busnes.

Yn un o 36 o ysgolion yn unig ar draws y DU ac Iwerddon i dderbyn y marc rhagoriaeth, mae Caerdydd yn ychwanegu ei harbenigedd unigryw i rwydwaith Siarter y Busnesau Bach drwy rannu gwybodaeth, syniadau a datblygu arfer gorau ym maes ymgysylltu â busnes, menter, ac entrepreneuriaeth.

"Mae ein hymrwymiad i ddarparu cymorth i fusnesau bach yn gonglfaen o’n strategaeth gwerth cyhoeddus unigryw. Felly, rydym yn ymfalchïo’n fawr yn y ffaith bod Siarter y Busnesau Bach wedi cydnabod ein gwaith."

Yr Athro Martin Kitchener Athro Rheolaeth a Pholisi’r Sector Cyhoeddus

Mae'r wobr yn cynnwys proses ymgeisio ac ymweliad safle lle bu'r Ysgol yn arddangos ei chefnogaeth ar gyfer twf busnesau bach, gan gynnwys ei rôl yn cynorthwyo cwmnïau gweithgynhyrchu bach drwy 2020 ASTUTE, ei darpariaeth Addysg Weithredol a’i rhan ym Mhrosiect Porth Cymunedol Grangetown.

Mae ymgysylltu ehangach â rhanddeiliaid drwy bartneriaethau, rhwydweithiau mewnol ac allanol a chyrff cynrychioliadol ategol gyda dadansoddiad polisi ac ymchwil wedi cyfrannu ymhellach at y mesur hwn.

Cafodd aelodau panel Siarter y Busnesau Bach gyfle i gwrdd ag aelodau cymuned myfyrwyr yr Ysgol.

Clywodd y panel am sut mae myfyrwyr yn ymgysylltu â Busnesau Bach a Chanolig a mentrau cymdeithasol drwy leoliadau ac interniaethau integredig a'r cyfleoedd a ddarperir gan Dîm Menter a Dechrau Busnes Prifysgol Caerdydd. Dysgon nhw hefyd am gefnogaeth amlwg yr Ysgol ar gyfer Tîm Cymdeithas Enactus ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda'i ffocws ar gefnogi cymunedau drwy fentrau cymdeithasol.

Ychwanegodd yr Athro Kitchener: "Mae rhedeg busnes bach neu ddatblygu menter fasnachol neu gymdeithasol newydd yn ymrwymiad sylweddol sy'n cyflwyno set unigryw o heriau a gofynion.

"Felly, rydym yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth wedi'i dargedu a chyfleoedd datblygu, sydd ar gael i gymuned y busnesau bach, trwy ein gweithgareddau addysgu, ymchwil ac ymgysylltu."

Dywedodd Anne Kiem, Cyfarwyddwr Gweithredol Siarter y Busnesau Bach a Phrif Weithredwr Cymdeithas Siartredig Ysgolion Busnes: "Rydym yn falch iawn bod Ysgol Busnes Caerdydd wedi ymuno â nifer cynyddol o ysgolion busnes wrth ennill Gwobr Siarter y Busnesau Bach..."

"Mae eu heffaith gadarnhaol ar fusnesau a myfyrwyr yn ogystal â sut mae’n ymgysylltu â mentrau cymdeithasol eisoes wedi darparu gwelliannau cymdeithasol yn y rhanbarth, ac mae’n cael ei ddathlu’n briodol."

Anne Kiem Phrif Weithredwr Cymdeithas, Siartredig Ysgolion Busnes

Mae Siarter y Busnesau Bach yn cysylltu busnesau bach trwy ei wefan, man canolog sy'n galluogi’r 36 ysgol busnes sydd wedi ennill y wobr i roi cyngor a chymorth busnes.

Mae'r wobr yn ychwanegu at lwyddiant yr ysgol o ran cael cymeradwyaeth a sêl bendith gan aseswyr rhyngwladol a chyrff achredu o bwys, gan gynnwys y Gymdeithas er Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol Rhyngwladol. Mae llawi na 5% o ysgolion busnes y byd wedi ennill y gymeradwyaeth hon sy’n cydnabod rhagoriaeth ysgol busnes.

Rhannu’r stori hon

Rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn ymgorffori ein strategaeth gwerth cyhoeddus ar draws ein hymchwil, ein dysgu a'n llywodraethu.