Ewch i’r prif gynnwys

Hwb ariannol ar gyfer firysau 'clyfar' sy'n lladd canser

1 Tachwedd 2019

Dr Alan Parker
Dr Alan Parker

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael bron i £1.4m o gyllid gan Ymchwil Canser y DU i gefnogi datblygiad firysau sy'n lladd canser.

Mae firysau "oncolytig" yn cael eu hystyried yn eang fel y driniaeth ddiweddaraf o bwys sy’n torri tir newydd wrth drin canser.

Maent yn dinistrio celloedd canser heb effeithio ar gelloedd iach.

Dywedodd Dr Alan Parker, o Ysgol Meddygaeth y Brifysgol, y byddai'r arian yn helpu i symud yr ymchwil ymlaen "o'r labordy i erchwyn y gwely".

"Mae firysau sydd wedi'u hailraglennu yn cael eu hail-greu degau o filoedd o weithiau o fewn celloedd wedi'u heintio, gan eu llenwi â'r firws cyn byrstio'r gell, sy'n rhyddhau miloedd yn rhagor o gopïau o firysau therapiwtig. Mae'r firysau yma wedyn yn heintio'r celloedd tiwmor cyfagos, gan ailadrodd ac ehangu'r broses", meddai.

"Nid yw firysau wedi esblygu i heintio a lladd celloedd canser - yn anffodus maent yn heintio celloedd iach, gan ein gwneud yn sâl yn y broses. Mae ein hymchwil wedi canolbwyntio ar greu 'firysau clyfar' sy'n gallu gwahaniaethu rhwng celloedd canser a chelloedd iach.

"Ein her nesaf yw addasu'r firws i'w wneud hyd yn oed yn gryfach a chyflwyno hyn i dreialon clinigol. Bydd yr arian hwn gan Ymchwil Canser y DU yn cyflymu'r broses hon ac yn ein helpu i gyflwyno'r therapïau posibl newydd cyffrous hyn i gleifion canser yn gynt."

Mis Mai diwethaf, cyhoeddodd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd eu bod wedi hyfforddi firws i ganfod a dinistrio celloedd canser yr ofari yn llwyddiannus.

Dywedodd Dr Alex Pemberton, pennaeth cyllid darganfyddiadau therapiwtig Ymchwil Canser y DU: "Mae ailraglennu firysau i dargedu celloedd canser yn faes ymchwil canser cyffrous ac mae ganddo'r potensial o drin canser yr ofari a'r fron, a chanserau eraill sy'n anoddach eu trin fel canser pancreatig ac oesoffagaidd.

"Mae'r prosiect hwn ar flaen y gad o ran ymchwil sy'n defnyddio firysau i drin canser, ac mae'n gam tuag at ddatblygu triniaethau posibl sy'n achub bywydau. Gallai hyn newid rhagolygon ar gyfer canserau anodd eu trin; maes sydd heb weld gwelliannau ers degawdau."

Rhannu’r stori hon

Mae ein themâu rhyngddisgyblaethol yn amrywio o ymchwiliad labordy i ymarfer clinigol, mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.