Ewch i’r prif gynnwys

Ffyrdd o fyw troseddwyr mynych yn ‘gallu eu gwneud yn fwy tebygol o gael y Coronafeirws’

24 Mawrth 2020

Stock image of person in handcuffs

Mae troseddegydd blaenllaw wedi awgrymu bod ffyrdd o fyw “byrbwyll a gor-fentrus” troseddwyr yn golygu eu bod yn fwy tebygol o ddal y Coronafeirws a’i ledaenu.

Wrth weithio gyda throseddegwyr ym Mhrifysgol Caergrawnt, gwelodd yr Athro Jonathan Shephered, sy’n llawfeddyg ac yn droseddegydd ym Mhrifysgol Caerdydd, gysylltiadau clir rhwng ffyrdd o fyw gwrthgymdeithasol ac iechyd gwael.

Mae eu hymchwil, a gyhoeddwyd y mis hwn yn y Journal of the Royal Society of Medicine - rhan o raglen ymchwil dan arweiniad yr Athro Shepherd yn y maes hwn - yn dangos bod troseddwyr yn fwy tebygol o gael problemau iechyd o’u cymharu â’r rhai nad ydynt yn troseddu.

Maent yn cael mwy o salwch, anafiadau ac yn gorfod mynd i’r ysbyty yn amlach; ac mae polisïau sy’n lleihau troseddau yn debygol iawn o wella iechyd, yn ôl yr ymchwil.

Mae’r Athro Shepherd yn credu y gallai’r canfyddiadau fod yn bwysig er mwyn deall y peryglon y mae troseddwyr yn achosi i’w hunain - a’r cyhoedd - yng nghanol pandemig y Coronafeirws.

“Wrth i Brydain ddod o dan warchae’r Coronafeirws, gallai’r rhai sydd yn y carchar a throseddwyr cyson fod yn fwy tebygol na phobl eraill o ledaenu’r feirws,” yn ôl yr Athro Shepherd.

“Yn aml, mae troseddu yn rhan o gyfres o anhwylderau cymdeithasol, o gamddefnyddio sylweddau ac alcohol i driwantiaeth a thrais, dwyn a fandaliaeth. Mae hyn yn adlewyrchu ffactorau megis ymddygiad byrbwyll, parodrwydd i gymryd risgiau a rhianta gwael sy’n cynyddu’r risg o iechyd gwael a throseddu.

Yng nghyd-destun y Coronafeirws, mae’r nodweddion hyn yn golygu eu bod yn llai tebygol o ddilyn canllawiau ynghylch golli dwylo a chadw pellter call oddi wrth bobl eraill.

Mae eu ffyrdd o fyw hefyd yn golygu eu bod yn fwy tebygol o ddal y Coronafeirws a’i rannu ag eraill. Mae hyn yn bryder o bwys mewn pandemig.

Yr Athro Jonathan Shepherd Athro Emeritws mewn Llawfeddygaeth y Geg, y Genau a'r Wyneb

Mae’r Athro Shepherd yn rhan o Grŵp Ymchwilio i Drais Prifysgol Caerdydd ac roedd y cyntaf i fesur trais ar lefel genedlaethol drwy ddefnyddio data a gesglir mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yng Nghymru a Lloegr. Mae’r grŵp, sy’n rhan o Sefydliad Ymchwil Troseddu a Diogelwch y Brifysgol, yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol awdurdodol am batrymau trais cenedlaethol.

“Mae’n anodd dweud pa effaith fydd y Coronafeirws yn ei chael ar droseddu, ond gallai goruchwylio troseddwyr a draws y system gyfiawnder ac yn y gymuned fod yn gam hollbwysig dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf er mwyn diogelu dinasyddion,” meddai’r Athro Shepherd.

Yn ei ymchwil diweddaraf, edrychodd yr Athro Shepherd ar y cysylltiadau rhwng troseddu a deilliannau iechyd.

Fe ddadansoddodd ddata am anafiadau a salwch ymhlith 411 o ddynion sydd wedi’u dilyn ers iddynt fod yn 8 oed ym 1962. Roedd hyn yn rhan o Astudiaeth Hydredol Caergrawnt mewn Datblygu Ymddygiad Tramgwyddus oedd yn ceisio deall sut mae ymddygiad troseddol yn datblygu o oedran cynnar.

Daeth i’r amlwg bod mwy o achosion o salwch, gorfod mynd i’r ysbyty ac anafiadau ar gyfer pob math o droseddwr erbyn iddynt fod yn 48 oed, boed yn droseddwyr drwy gydol eu bywydau neu wedi dechrau troseddu yn ddiweddarach.

Mae’r ymchwil hon yn awgrymu bod ymyriadau cynnar, fel addysg cyn-ysgol, cefnogaeth gynnar i deuluoedd a hyfforddiant sgiliau plant, yn debygol o leihau salwch ac anafiadau yn ogystal â throseddu, ychwanegodd yr Athro Shepherd.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn monitro'r sefyllfa'n ofalus er mwyn sicrhau diogelwch a lles ein staff a myfyrwyr.