Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigedd Caerdydd yn hysbysu adroddiad am gam-drin plant

19 Chwefror 2020

Jonathan Shepherd
Professor Jonathan Shepherd

Mae arbenigedd Prifysgol Caerdydd yn sail i gasgliad cenedlaethol diweddar o ystadegau cam-drin plant a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Rhoddodd dau academydd o’r Grŵp Ymchwil i Drais (VRG) ddata a mewnwelediad i’r casgliad cyntaf o’i fath – Cam-drin plant yng Nghymru a Lloegr – sy’n dwyn ynghyd ystadegau ac ymchwil o amrywiaeth o wahanol ffynonellau data ar draws y llywodraeth a’r sector gwirfoddol.

Cydweithiodd yr Athro Jonathan Shepherd a Dr Vas Sivarajasingam â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i helpu i lunio’r casgliad.

Meddai’r Athro Shepherd: “Rydym wrth ein boddau bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cydnabod pwysigrwydd ein gwaith ar ymchwil i drais. Mae’r adroddiad yn dibynnu’n drwm ar ddata cenedlaethol cadw gwyliadwriaeth ar drais VRG, a gasglwyd dros y degawd diwethaf. Y data hyn yw’r unig fesur yng Nghymru a Lloegr o’r niwed corfforol y mae plant wedi’i gael.

“Cyd-olygodd Dr Vas Sivarajasingam a minnau yr adroddiad ystadegol cyntaf. Mae’r casgliad yn garreg filltir bwysig fel allbwn wedi’i gyd-gynhyrchu cyntaf partneriaeth strategol newydd rhwng y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Phrifysgol Caerdydd.”

Mae Prifysgol Caerdydd a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd yn cydweithio ar amrywiaeth o brosiectau ar draws meysydd o ddiddordeb ar y cyd ac arwyddon nhw bartneriaeth strategol yr haf diwethaf.

Mae'r manteision yn cynnwys sgiliau gwyddorau data newydd drwy gynllun ysgol haf, swydd academaidd uwch newydd a chyrsiau Meistr a PhD ychwanegol.

Mae’r bartneriaeth, y gyntaf o’i bath i Brifysgol Caerdydd, yn canolbwyntio ar ddata a gwyddorau data, rhywbeth sydd wedi’i flaenoriaethu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Bargen Ddinesig Prifddinas Caerdydd.

Mae’r cydweithredu’n adeiladu ar flynyddoedd o gydweithio agos sydd wedi gweld Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan mewn datblygu technegau gwyddorau data newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol sydd a’r nod o hysbysu penderfyniadau pwysig y llywodraeth.

Mae’r Grŵp Ymchwilio i Drais wedi helpu i roi camau ymarferol ar waith i leihau trais ar lefel fyd-eang. Drwy gyfrwng ymchwil ymarferol ynglŷn â thrais, mae academyddion blaenllaw, sy’n cydweithio â phartneriaid a sefydliadau allanol, wedi helpu i ddeall, monitro a lliniaru achosion ymddygiad treisgar.

Rhannu’r stori hon

Dysgwch sut mae ein hymchwil arloesol yn cael effaith yn fyd-eang.