Caerdydd yn helpu i sbarduno ‘chwyldro trydan’
13 Mawrth 2020
Mae un o fentrau Prifysgol Caerdydd sy’n cyfuno arbenigedd academaidd â phrofiad diwydiannol yn mynd i gyfrannu at gyflawni cynlluniau llywodraeth y DU ar gyfer ‘chwyldro trydan’.
Mae’r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC), sy’n fenter ar y cyd â’r arweinydd byd-eang ym maes deunyddiau blaenllaw, IQE, wedi ennill £36.7 miliwn mewn rownd o her i ddylunio prosiectau fyddai’n hybu’r DU tuag at dwf carbon sero-net erbyn 2050.
Defnyddir tua £30 miliwn i greu pedair canolfan ragoriaeth Sbarduno’r Chwyldro Trydan (DER) flaenllaw yng Nghasnewydd, Nottingham, Ystrad Clyd a Sunderland – bydd y rhain yn dod ag arloeswyr ym maes y newid yn yr hinsawdd ynghyd i ymchwilio i beiriannau trydan gwyrdd, gan gynnwys awyrennau, llongau a cheir, a’u datblygu.
Bydd Canolfan Arloesedd y Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSAC) yn cydlynu’r Ganolfan DER ar gyfer de Cymru a de-orllewin Lloegr.
Bydd prosiect CSC yn canolbwyntio ar wneud yn siŵr bod deunyddiau a chydrannau lled-ddargludyddion blaenllaw – sy’n floc adeiladu hanfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o dechnolegau trydaneiddio – yn gallu cyrraedd y prynwr terfynol mewn cadwyn gyflenwi’n fwy cyflym ac effeithlon.
Gwnaeth yr Athro Rudolf Allemann, Rhag Is-Ganghellor, Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, groesawu’r fuddugoliaeth.
“Mae gan Brifysgol Caerdydd gryfder dwfn wedi’i hen sefydlu ar draws maes ymchwil Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, ynghyd â pherthynas waith agos ag IQE sy’n rhychwantu bron pedwar degawd. Rydym yn adeiladu Cartref Arloesedd newydd sy’n cynnwys Cyfleuster Ymchwil Drosiadol fydd yn troi arbenigedd ym maes Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn gynhyrchion a phrosesau i’r byd go iawn, fydd yn cyd-fynd â gwaith canolfan ragoriaeth Casnewydd a chlwstwr CS Connected dros y blynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Dr Wyn Meredith, Cyfarwyddwr CSC, y byddai’r wobr yn galluogi CS Connected i fagu mwy o fomentwm.
Gan siarad yn nigwyddiad Cymru yn Llundain a gynhaliwyd gan yr IET, dywedodd Dr Meredith fod ysglodion Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn cael eu datblygu’n rheolaidd yn ne Cymru, cyn cael eu cludo i economïau rhatach i’w pecynnu, ac yna’n cael eu cludo yn ôl i’r DU i’w defnyddio mewn cynhyrchion terfynol.
“Bydd y wobr hon yn helpu CSC i chwarae ei rôl yn CS Connected - gan gynnig model ffowndri cynhwysfawr drwy un pwynt mynediad. Ein nod yw cynnig gofod parodrwydd technolegol llawn sy’n ymgorffori partneriaid o academia a diwydiant i ddatblygu cynhyrchion o gysyniad i gynnyrch heb anfon gwaith allan ar unrhyw gam, fydd yn cyflwyno manteision i economïau Cymru a’r DU.”
Mae consortia buddugol pellach â dolenni i CSC a Chaerdydd yn cynnwys Cogent Power, fydd yn gweithio gyda’r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Microsemi Semiconductor ac Advanced Hall Sensors, ynghyd â Paragraf of Cambridge, fydd yn gweithio gyda CSAC, Rolls-Royce, Semelab ac Aero Stanrew. Bydd Yasa (Rhydychen), API Capacitors (Great Yarmouth) ac Integral Powertrain Limited hefyd yn ymuno â phrosiectau gyda CSAC.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes a Llywydd COP26 Alok Sharma: “Mae’r DU ar flaen y gad o ran datblygu technolegau glanach i’n helpu i gyflawni ein nod o ddim allyriadau erbyn 2050, a bydd gan y canolfannau newydd hyn rôl bwysig yn hyn o beth. Bydd y canolfannau diwydianeiddio gwerth £30 miliwn yn cynnig cartref i ddatblygu cynhyrchion rhithwir, gweithgynhyrchu digidol a thechnegau cydosod blaengar, a allai sbarduno gwelliannau sy’n arwain ar lefel fyd-eang o ran profi a gweithgynhyrchu peiriannau trydan.”