Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn bartner i brosiect Lled-ddargludyddion Cyfansawdd £1.3m

19 Awst 2019

Cardiff compound semiconductor

Mae un o fentrau Prifysgol Caerdydd i ddatblygu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CS) yn bartner i brosiect £1.3m Llywodraeth Cymru i arloesi technolegau CS newydd.

Bydd y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC), gyda chefnogaeth IQE, sef gweithgynhyrchydd ysglodion CS yng Nghaerdydd ac ar draws y byd, yn bartner i amrywiaeth o sefydliadau Cymru, er mwyn darganfod defnyddiau newydd ar gyfer dyfeisiau CS - o gerbydau diyrrwr i ynni glân, symudedd yn y dyfodol, Deallusrwydd Artiffisial, biosynwyryddion, synwyryddion i’w gwisgo a phecynnau blaenllaw.

Ariennir prosiect ASSET (Technoleg Ysgythru Lled-ddargludyddion yn Benodol i’r Diben) yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a rhaglen Arbenigedd Clyfar Llywodraeth Cymru.

Mae’n brosiect diwydiannol a gynhelir ar y cyd â phartneriaid ar draws de Cymru, gan gynnwys SPTS Technologies, IQE, CSC, Biovici, BioMEMS, Prifysgolion Abertawe a Chaerdydd ynghyd ag Integrated Compound Semiconductors Ltd. ym Manceinion.

Dywedodd Dr Wyn Meredith, Cyfarwyddwr CSC: “Mae diwydiant lled-ddargludyddion de Cymru’n cyflogi dros 1,400 o bobl tra medrus yn y rhanbarth a bydd yn tyfu’n gyflym dros y 5 mlynedd nesaf gyda datblygiad 5G, AI a thueddiadau mawr eraill y farchnad. Bydd ASSET yn cefnogi’r datblygiadau hyn drwy ddatblygu amrywiaeth o brosesau ac arbenigedd lled-ddargludyddion blaengar er mwyn datrys heriau technegol a diwydiannol.”

Mae partneriaid diwydiannol ASSET yn cynnig technolegau sydd ar flaen y gad ac ym mron holl ffonau clyfar y byd.  Drwy ddatblygu amrywiaeth o dechnolegau proses lled-ddargludyddion newydd, bydd ASSET yn datblygu’r technolegau hyn ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a deunyddiau lled-ddargludyddion y genhedlaeth nesaf, er mwyn gwasanaethu defnyddiau newydd sy’n codi ym meysydd synhwyro modurol, 5G, ffotoneg a gofal iechyd.

Mae prosiect ASSET yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludyddion Integreiddiol (CISM) £90 miliwn - cyfleuster lled-ddargludyddion blaengar newydd i’w adeiladu yn Abertawe.

Meddai’r Athro Owen Guy, Pennaeth Cemeg Prifysgol Abertawe ac arweinydd y prosiect: “Mae prosiect ASSET yn enghraifft arall o Glwstwr Lled-ddargludyddion De Cymru’n gweithio ynghyd i gyflwyno technoleg flaengar ar lefel fyd-eang a hybu twf economaidd i Gymru.”

Dywedodd Kevin Crofton, Llywydd SPTS Technologies: “Mae prosiect ASSET yn rhoi’r gallu i weithio gyda’r gadwyn gyflenwi a gweithgynhyrchu helaeth yn y rhanbarth i ehangu ein galluoedd ymhellach a manteisio ar gyfleoedd newydd a chyffrous yn y farchnad sydd ohoni.”

Yn ôl yr Athro Peter Smowton, Rheolwr Gyfarwyddwr Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd: “Edrychwn ymlaen at gydweithio â holl bartneriaid ASSET i droi ymchwil yn dechnolegau gweithgynhyrchu newydd all sbarduno brand clwstwr CS Connected a denu swyddi tra medrus â chyflogau da i dde Cymru.”

Rhannu’r stori hon

The institute provides cutting-edge facilities to help researchers and industry work together.