Ewch i’r prif gynnwys

‘Newid mwyaf hyd yma’ o ran agweddau’r cyhoedd ym Mhrydain am risgiau’r newid yn yr hinsawdd

3 Mawrth 2020

Wind turbine

Mae Prydeinwyr o’r farn mai’r newid yn yr hinsawdd fydd un o’r problemau mwyaf pwysig sy’n wynebu’r wlad yn ystod yr ugain mlynedd nesaf, yn ôl ymchwil a arweiniwyd gan Brifysgol Caerdydd.

Awgrymodd arolwg eang a oedd yn archwilio agweddau cymdeithasol at risgiau ac effeithiau’r newid yn yr hinsawdd fod y broblem bellach yn ail ar ôl Brexit i’r cyhoedd ym Mhrydain.

Gwnaeth yr arolwg, a gynhaliwyd gan dîm o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Climate Outreach, hefyd dynnu sylw at bryder cynyddol ymhlith y cyhoedd ynghylch stormydd, llifogydd ac effeithiau tywydd poeth yn benodol. Awgrymodd hefyd fod cefnogaeth gref dros bolisïau i fynd i’r afael â’r rhain.

“Dyma newid rhyfeddol ym marn y cyhoedd ym Mhrydain – y newid mwyaf a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai’r Athro Nick Pidgeon, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, a fu’n arwain y prosiect.

“Gyda pholisi hinsawdd yn mynd i gyfnod tyngedfennol – wrth i’r DU baratoi i gynnal uwchgynhadledd hinsawdd y Cenhedloedd Unedig – ac wrth i gynifer o ardaloedd ddod dros lifogydd y gaeaf – mae canlyniadau'r arolwg hwn yn cynnig tystiolaeth gref o newid mewn canfyddiadau ymhlith y cyhoedd ym Mhrydain tuag at fwy o bryder dros beryglon hinsoddol a'u heffeithiau.

“Mae llawer o bobl yn dechrau poeni digon i fynnu camau gweithredu eang gan y llywodraeth o ran yr argyfwng hinsawdd.
Cynhaliwyd yr astudiaeth, yn seiliedig ar 1,401 o ymatebwyr a oedd yn cynrychioli’r wlad, ym mis Hydref 2019. Dyma’r hyn a ddaeth i’r amlwg:

Credoau

  • Dywedodd chwarter (23%) mai’r newid yn yr hinsawdd oedd y mater mwyaf dybryd y mae Prydain yn ei wynebu yn ystod y ddau ddegawd nesaf, yn ail yn unig i Brexit (25%). Yn 2016, roedd y ffigwr hwn yn 2% (yn safle 13) mewn ymateb i gwestiwn union yr un fath
  • Mae pryder o ran yr hinsawdd wedi dyblu ers 2016, gyda 40% yn dweud eu bod erbyn hyn yn “bryderus iawn neu’n hynod bryderus”
  • Nododd traean o'r ymatebwyr eu bod yn teimlo pryder, ofn a dicter “yn fawr iawn neu dipyn” wrth feddwl am y newid yn yr hinsawdd
  • Roedd y nifer a oedd yn amau’r newid yn yr hinsawdd yn isel – roedd tua dwy ran o dair (64%) eisoes yn teimlo effeithiau’r newid yn yr hinsawdd (o’i gymharu â 41% yn 2010)

O ran effeithiau’r hinsawdd

  • Stormydd a llifogydd yw’r risgiau canfyddedig mwyaf. Maent yn peri cryn bryder a thybir y bydd y rhain yn cynyddu yn y dyfodol
  • Roedd ymchwydd rhyfeddol o uchel mewn pryderon ynghylch risgiau gwres – roedd 72% o'r farn bod tywydd poeth iawn bellach yn broblem ddifrifol i'r DU (o'i gymharu â 23% yn 2013)
  • Roedd sgil-effeithiau eraill oherwydd tywydd eithafol megis effeithiau ar gyflenwadau bwyd ac effeithiau iechyd hefyd yn bryder uchel i’r rhan fwyaf o ymatebwyr
  • Mae’r rhan fwyaf yn credu bod y newid yn yr hinsawdd wedi chwarae rhan yn y tywydd eithafol diweddar yn Ewrop a ledled y byd

Cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer camau er budd yr hinsawdd

  • Roedd cefnogaeth gref iawn dros ystod eang o bolisïau i’w mabwysiadu, er enghraifft, gwario ar amddiffynfeydd llifogydd neu reoliadau adeiladau llymach
  • Roedd 75% o’r rhai hynny a ofynnwyd yn cefnogi defnyddio arian cyhoeddus nawr i baratoi’r DU, ac roedd diogelu iechyd, grwpiau bregus a’r gwasanaethau brys rhag effeithiau’r hinsawdd yn flaenoriaethau allweddol (ond roedd llai o bryder am ddiogelu adeiladau hanesyddol neu dwf economaidd)
  • Roedd cefnogaeth ar gyfer cymryd camau gweithredu personol, megis defnyddio llai o wres yn ystod y gaeaf, teithio gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, hedfan llai a bwyta llai o gig
  • Ond roedd nifer o ymatebwyr yn erbyn camau megis cynyddu biliau trydan i leihau defnydd
Survey question
Cwesiwn 1 yr arolwg: Beth yn eich barn chi yw’r mater pwysicaf sy’n wynebu’r DU yn yr 20 mlynedd nesaf?

Mae Grŵp Deall Risgiau Prifysgol Caerdydd wedi bod yn astudio canfyddiadau am yr hinsawdd ers 2002, ac roedd newidiadau blaenorol mewn agweddau rhwng arolygon (gyda chwestiynau union yr un fath) yn “gymharol gymedrol” dros nifer o flynyddoedd.

“Mae’r cynnydd sydyn presennol mewn ymwybyddiaeth o ran risgiau yn wyriad go iawn o’r duedd honno,” meddai’r Athro Pidgeon, “ac mae’n debyg bod hyn oherwydd digwyddiadau tywydd garw diweddar, protestiadau eang am yr hinsawdd a mwy o sylw yn y cyfryngau.”

Mae’r ymchwil yn rhan o Raglen Gwytnwch Hinsawdd y DU, partneriaeth ryngddisgyblaethol gwerth £18.7m. Fe’i hariennir gan Ymchwil ac Arloesedd y DU ac fe’i harweinir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a’r Swyddfa Dywydd yn rhan o Gronfa’r Blaenoriaethau Strategol.

Meddai Dr Kate Lonsdale, cyd-hyrwyddwr Rhaglen Gwytnwch Hinsawdd y DU: “Mae’r farn wyddonol yn ei gwneud yn gynyddol glir bod risgiau’r hinsawdd yn cynyddu o ran eu tebygolrwydd a’u difrifoldeb.

“Erbyn hyn mae gennym dystiolaeth fel bod modd i bobl ym Mhrydain weld bod y risgiau hyn yn berthnasol i’w bywydau hefyd yn hytrach na rhywbeth fydd yn digwydd yn y dyfodol ac mewn mannau eraill.”