Ewch i’r prif gynnwys

Pwy ddylai dalu’r bil am gostau trosglwyddo ynni?

31 Ionawr 2019

Energy transition image

Yn ôl astudiaeth gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd, mae’r cyhoedd ym Mhrydain o blaid trosglwyddo i system ynni carbon isel, ac yn barod i ysgwyddo peth o’r gost, ar yr amod bod y cwmnïau ynni a’r llywodraeth yn cymryd cyfran deg o’r cyfrifoldeb.

Bydd mabwysiadu’r technolegau a’r seilwaith newydd sydd eu hangen i drosglwyddo i system ynni carbon isel yn dod â nifer o fanteision - gan gynnwys gwell effeithlonrwydd ynni, costau technoleg is, ac osgoi difrod i’r hinsawdd. Bydd hefyd yn arwain at gostau ychwanegol, gyda’r cyhoedd yn debygol o ddwyn y gost naill ai’n anuniongyrchol trwy dreth neu’n uniongyrchol o filiau ynni.

Ar ran Canolfan Ymchwil Ynni’r DU, bu’r tîm yn arolygu 3,150 o’r cyhoedd ym Mhrydain a chynnal cyfres o grwpiau ffocws. Roedd yr ymchwydd o gefnogaeth ar gyfer newid i’r system ynni yn glir, ond amlygwyd hefyd ddiffyg ymddiriedaeth eang yn y cwmnïau ynni a’r llywodraeth.

Gwelwyd mai cyfrifoldeb cwmnïau ynni a’r llywodraeth yn bennaf yw ariannu’r trosglwyddiad ynni, tra bod llai o gyfrifoldeb ar y cyhoedd. Roedd llawer o ymatebwyr yn meddwl eu bod eisoes yn talu’n sylweddol, tra bod cwmnïau ynni yn cyfrannu llai yn ôl pob golwg. Felly, roedd gofyn i’r cyhoedd ysgwyddo mwy o’r baich ariannol yn cael ei ystyried yn annheg tra bod cwmnïau ynni yn amddiffyn eu helw yn ôl pob golwg.

Pobl yn barod i gyfrannu mwy

Mae’r cyhoedd yn fodlon i rhwng 9 a 13% o’u biliau ynni fynd tuag at gynlluniau amgylcheddol a chymdeithasol. Mae hyn yn uwch na’r 7% fesul bil a adroddwyd gan Ofgem ar adeg yr ymchwil ac a gafodd ei gyflwyno i’r rhai a oedd yn cymryd rhan.  Daeth i’r amlwg fod y parodrwydd i gyfrannu’n ariannol tuag at y trosglwyddiad ynni yn dibynnu ar y ddealltwriaeth fod cwmnïau ynni a’r llywodraeth hefyd yn cyfrannu ac yn dangos ymrwymiad go iawn tuag at newid i’r system ynni. Roedd y rhai a oedd yn deall yr ymddygiad hwn yn well yn dueddol o dderbyn costau uwch ar eu biliau.

51% o’r cyhoedd ym Mhrydain yn cefnogi rheoleiddio uwch, neu wladoli ynni

Roedd ymatebwyr yn amheus o gamau gweithredu a buddsoddiadau gan gwmnïau ynni a’r llywodraeth. Nododd llawer nad oeddent yn ymddiried mewn gwybodaeth a gyhoeddwyd gan gwmnïau ynni, y llywodraeth na’r rheoleiddiwr. Roedd y diffyg ymddiriedaeth yn y cwmnïau ynni yn ymwneud â phryderon ynghylch lefelau a dyraniad elw, gan amlygu’r canfyddiad fod system ynni breifat yn blaenoriaethu elw dros fforddiadwyedd ac ynni carbon isel. Canfuwyd bod 51% o ymatebwyr yn cefnogi rheoleiddio, neu wladoli’r cwmnïau ynni. Er bod lefel isel o ymddiriedaeth yn y llywodraeth, roedd mwy yn ymddiried ynddi na’r cwmnïau ynni. Yn hanfodol, roedd y diffyg ymddiriedaeth yn y llywodraeth yn deillio i raddau helaeth o’r canfyddiad bod cysylltiadau agos rhyngddi a’r diwydiant ynni.

Dywedodd Dr Christina Demski, o’r Ysgol Seicoleg: “Mae Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd yn amcangyfrif y bydd rhaid i 15% o filiau fynd tuag at ardollau erbyn 2030 i gwrdd â thargedau lleihau allyriadau y bumed gyllideb garbon, ond dim ond un o bob pump a holwyd oedd yn credu bod ardollau mor uchel â hyn yn dderbyniol.

“Mae cynyddu’r baich ariannol ar y cyhoedd, a hynny heb fynd i’r afael â’r pryderon am sut y mae costau’n cael eu dyrannu, yn debygol o arwain at fwy o amheuaeth a pheryglu cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer y trosglwyddiad ynni.”

Ychwanegodd yr Athro Nick Pidgeon o’r Ysgol Seicoleg: “Er bod y llywodraeth a’r rheoleiddiwr eisoes yn mynd i’r afael a rhai o’r materion a amlygwyd yn yr ymchwil, amser a ddengys a fydd y newidiadau hyn yn ddigon. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd angen camau gweithredu mwy sylfaenol, er enghraifft ystyried strwythurau llywodraethu amgen, gan gynnwys trefniadau nid-er-elw fel sy’n digwydd gyda rhai gwasanaethau dŵr.”