Ewch i’r prif gynnwys

Dau draean o bobl yn cefnogi cyfyngu ar hedfan i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd

18 Medi 2019

People walking towards plane

Mae eisiau lefel ‘uchel’ neu ‘uchel iawn’ o frys er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn ôl mwy na thri o bob pum person.

Hefyd, mae dau draean o bobl yn cefnogi cyfyngu ar deithio mewn awyrennau er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ac mae ychydig dros hanner o blaid lleihau’r maint o gig yn ein deietau.

Dyma ganlyniadau arolwg YouGov a gomisiynwyd gan ganolfan ymchwil newydd sbon yn y DU. Sefydlwyd y Ganolfan i ymchwilio i newidiadau cymdeithasol ac ymddygiadol sydd eu hangen ar gyfer cymdeithas garbon-isel a chynaliadwy.

Dan arweiniad gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd, bydd y Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol (CAST) yn ystyried ffyrdd y gall pobl weithredu’n uniongyrchol i leihau eu hallyriadau carbon eu hun, yn ogystal â dylanwadu pobl eraill, penderfyniadau sefydliadol a pholisïau.

Mae’r ganolfan £5 miliwn a ariennir gan ESRC yn fenter ar y cyd rhwng Prifysgolion Caerdydd, Manceinion, Caerefrog ac East Anglia, ynghyd â’r elusen Climate Outreach.

Mae’r Ganolfan yn cael ei lansio heddiw mewn digwyddiad arbennig ym Mhrifysgol Caerdydd, a’i nod yw bod yn hyb byd-eang ar gyfer deall y newidiadau dwys sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, gan ganolbwyntio ar bedwar maes: bwyd a deiet; trafnidiaeth a symudedd; treulio nwyddau; a gwresogi ac oeri.

I gyd-fynd â’r lansiad, mae canfyddiadau newydd wedi’u rhyddhau o ymchwil a gynhaliwyd ym mis Awst 2019, fu’n asesu sut mae’r cyhoedd yn canfod y newid yn yr hinsawdd yn y DU.

Cafodd cyfanswm o 2,018 o bobl eu harolygu, a datgelodd hyn fod y rhan fwyaf o ymatebwyr yn cydnabod bod y newid yn yr hinsawdd yn argyfwng.

  • Dywedodd mwy na thri o bob pum person (62%) fod angen lefel ‘uchel’ neu ‘uchel iawn’ o frys er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
  • Roedd y mwyafrif (61%) o blaid datganiad ‘argyfwng hinsoddol’ Senedd y DU, gyda dim ond 11% yn erbyn hyn.
  • Roedd dau draean o bobl (67%) yn teimlo y dylem gyfyngu ar hedfan er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, tra mai dim ond 22% oedd yn teimlo bod hyn yn ddiangen.
  • Roedd ychydig dros hanner o’r ymatebwyr (53%) o’r farn y dylem leihau faint o gig sydd yn ein deietau i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, tra bod 37% yn teimlo bod hyn yn ddiangen.

Meddai’r Athro Lorraine Whitmarsh, Cyfarwyddwr y Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol: “Mae lansio CAST yn gyffrous iawn i ni. Nod y Ganolfan fydd rhoi pobl wrth galon y trawsnewidiadau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, a cheisio dod o hyd i ffyrdd gwell o fyw, yn ogystal â ffyrdd mwy carbon isel a chynaliadwy o fyw.

“Bydd Prifysgol Caerdydd, ynghyd â’n partneriaid ym Mhrifysgolion Manceinion, East Anglia a Chaerefrog, ac elusen Climate Outreach, yn gweithio gydag ystod o bartneriaid preifat, cyhoeddus a thrydydd sector, i ddeall sut i drawsnewid ffyrdd o fyw, sefydliadau a strwythurau cymdeithasol er mwyn gwireddu dyfodol carbon-isel.

“Mae canfyddiadau newydd ein harolwg yn amlinellu’n glir mai’r rhan fwyaf o bobl sy’n teimlo bod hyn yn fater pwysig, ac yn fodlon gwneud newidiadau sylweddol i’w ffyrdd o fyw i helpu i fynd i’r afael ag e. Mae newid arferion bwyta a theithio ymysg y pethau mwyaf effeithiol y gall unigolion eu gwneud i leihau eu hôl-troed carbon – mae’n galonogol iawn bod cefnogaeth y tu ôl i wneud y newidiadau hyn ymysg y cyhoedd.”

Meddai’r Athro Jennifer Rubin, Cadeirydd Gweithredol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol: “Dyma Ganolfan hynod bwysig i’w hariannu achos mae’n canolbwyntio’n gryf ar ddatblygu a phrofi dulliau effeithiol o gyfathrebu’r newid yn yr hinsawdd a’i effeithiau. Er bod dirfawr angen mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, mae ymchwilwyr yn gwybod mai prin y mae pobl yn ei drafod bob dydd. Mae hyn yn golygu bod cyfleoedd am drafodaethau ystyrlon ac ymatebion ymarferol mewn bywyd bob dydd yn cael eu colli.”
Yn lansiad y Ganolfan, rhannodd siaradwyr o Brifysgol Caerdydd a Chyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Cymru eu barn ynghylch sut gall pobl fyw’n wahanol mewn ffyrdd sy’n diwallu’r dirfawr angen am leihadau cyflym a phellgyrhaeddol mewn allyriadau.
Daeth y digwyddiad i ben gyda seremoni wobrwyo ar gyfer enillwyr Cystadleuaeth Ffotograffiaeth y Ganolfan i Bobl Ifanc.

Rhannu’r stori hon

Putting people at the heart of the transformations required to tackle climate change.