Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan ymchwil genedlaethol yn lansio cynllun ar gyfer y pum mlynedd nesaf

2 Mawrth 2020

Sally Power, Ian Rees Jones, Mark Drakeford and Alison Park
Sally Power, Ian Rees Jones, Mark Drakeford and Alison Park

Mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) wedi lansio ei gynllun pum mlynedd ar gyfer ymchwil cymdeithas sifil.

Mae academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd ymhlith y rhai fydd yn archwilio anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd, mudo ac amlddiwylliannaeth, yr economi sylfaenol, deinameg newidiol gwaith, hawliau anifeiliaid a Deallusrwydd Artiffisial.

Mae’r Ganolfan Cymdeithas Sifil newydd wedi’i sefydlu o ganlyniad i £6.3m o gyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), rhan o Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig.

Mewn digwyddiad lansio diweddar yn y Senedd, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: “Mae llwyddiant WISERD yn tystio i’w ddull o gydweithio â phrifysgolion ac elusennau ar draws Cymru, Ewrop a’r byd.  Ni fu ffeithiau erioed yn bwysicach, a bydd meddu ar ganolbwynt gwybodaeth o’r radd flaenaf fydd yn ein cynorthwyo ni yn y Llywodraeth i wneud y penderfyniadau cywir yn ein helpu i greu Cymru well i ninnau ac i genedlaethau’r dyfodol.”

Bydd nifer o brosiectau ymchwil rhyngddisgyblaeth yn cael eu cynnal o dan bedair thema:

Bydd Ffiniau Eithrio ac Ehangu Dinesig yn archwilio cymdeithas sifil mewn perthynas â hunaniaeth; ffiniau a mudo; hawliau plant a phobl ifanc; a chysylltiadau dynol a heb fod yn ddynol.

Bydd Polareiddio, Llymder a Diffyg Dinesig yn edrych ar hygyrchedd mannau cyhoeddus ac adnoddau, cysylltiadau pŵer a sut mae systemau nawdd yn caniatáu mynediad i safbwyntiau elitaidd; sut mae gwleidyddiaeth boblyddol yn cael ei meithrin; ac economïau cymysg lles sy’n bodoli yn y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt.

Mae Gwleidyddiaeth Ddadleuol Elw Dinesig yn canolbwyntio ar rôl dinasyddion ac arbenigwyr mewn dadleuon ynghylch gwyddoniaeth a’r amgylchedd; marchnadoli cyfiawnder cymdeithasol wrth bontio ym maes ynni; y newid yn ffurfiau llywodraethiant ac arwahaniaeth; a rôl newidiol benywod ym myd gwaith ac yn y gymdeithas.

Mae Adnoddau Perthnasol, Arloesi Cymdeithasol a Thrwsio Sifil yn ystyried strategaethau seiliedig ar le ar gyfer datblygu cynaliadwy, yr economi sylfaenol, ac arwyddocâd yr economi ‘gigiau’ mewn marchnadoedd llafur lleol.

Bydd Labordy Data Addysg WISERD, sydd newydd ei sefydlu, hefyd yn cael ei ddatblygu yn ystod y pum mlynedd nesaf.  Bydd yn helpu i gefnogi sector addysg Cymru i gyflawni nodau Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl - cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-2021.

Lab Data Addysg WISERD yw’r unig labordy data mewn prifysgol yn y Deyrnas Unedig, a bydd yn crynhoi’r holl ddata gweinyddol ar blant mewn ysgolion ac yn cysylltu hyn â ffynonellau data eraill, megis asiantaethau’r llywodraeth a sefydliadau allanol.  Bydd hyn yn caniatáu i ymchwilwyr addysg gyflawni dadansoddiadau lefel uwch o feysydd megis perfformiad disgyblion ac ysgolion, effaith sefyll TGAU yn gynnar, a phatrymau a rhagfynegyddion gwaharddiadau o’r ysgol.

Dywedodd yr Athro Ian Rees Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Cymdeithas Sifil, sy’n rhan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rydw i wrth fy modd bod cyllid pellach wedi cael ei ddyfarnu i ni o raglen hynod gystadleuol.  Bydd y gwaith ymchwil yn caniatáu i ni roi sylw i sut mae dinasyddiaeth a hawliau cysylltiedig yn feysydd newidiol a dadleuol mewn byd sy’n newid yn gyflym.

Mae’n gyfle euraid i WISERD dyfu fel canolfan greadigol a chartref i arweinwyr ymchwil ryngwladol, a chyflwyno gwaith ymchwil rhyngddisgyblaeth arloesol sy’n seiliedig ar ddiwylliant o ryddid meddwl a syniadau.

Yr Athro Ian Jones Professor of Sociological Research

Dywedodd yr Athro Sally Power, Cyfarwyddwr WISERD, sy’n rhan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r digwyddiad hwn yn cydnabod cyflawniad neilltuol gan fy nghydweithwyr a chefnogaeth a chyfranogiad aruthrol gan ein rhanddeiliaid, yr ydym ni’n ddiolchgar iawn amdanynt.

“Rydym yn arbennig o ddiolchgar i Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru, am gynnal y digwyddiad hwn a siarad ynddo. Carem ddiolch hefyd i Alison Park, Cyfarwyddwr Ymchwil yn y Cyngor Ymchwil Economaidd a chymdeithasol, nid yn unig am ymuno â ni i ddathlu ein gwaith, ond hefyd am ei chyfraniad i sicrhau bod y Cyngor yn parhau i gefnogi gwaith ardderchog, annibynnol, sy’n cael effaith ym maes y gwyddorau cymdeithasol.”

Mae WISERD yn drefniant cydweithio rhwng pum prifysgol yng Nghymru (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe).  Bydd y rhaglen ymchwil newydd hefyd yn cynnwys cyd-ymchwilwyr ar draws prifysgolion yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop, gyda chydweithwyr rhyngwladol yn Awstralia, Tsieina, India ac UDA.

Cydnabyddir yn ddiolchgar gefnogaeth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.