Canolfan ymchwil genedlaethol yn ennill cyllid mawr
3 Medi 2019
Mae canolfan ymchwil genedlaethol wedi ennill £6.3 miliwn er mwyn parhau ei astudiaethau ynghylch y gymdeithas sifil.
Mae’r Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn un o bedair canolfan ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yn y DU sydd wedi llwyddo yng nghystadleuaeth hynod gystadleuol Canolfannau’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Dyma’r trydydd dyfarniad o gyllid sylweddol yn y deng mlynedd ers i WISERD gael ei sefydlu.
Bydd ymchwilwyr yng Nghanolfan Cymdeithas Sifil newydd WISERD yn ymgymryd â rhaglen bum mlynedd uchelgeisiol. Drwy gynhyrchu tystiolaeth empirig newydd a dadansoddiadau, eu nod fydd mynd i’r afael â nifer o’r prif heriau sy’n wynebu cymdeithas, fel anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd, polareiddio ac ymddieithrio gwleidyddol, mudo ac amlddiwylliannaeth, deinameg newidiol gwaith a’r economi ‘gig’, ac effaith arloesiadau technolegol newydd.
Bydd WISERD yn manteisio ar arbenigedd ac arloesedd ar draws ei brifysgolion partner yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe. Bydd partneriaethau â phrifysgolion eraill yn y DU a ledled y byd hefyd yn chwarae rôl bwysig. Bydd meysydd allweddol o sgiliau a gwybodaeth yn cynnwys ymchwil gymharol ryngwladol, dylunio a dadansoddi ymchwil arhydol, ymchwil ethnograffig ac arsylwi, astudiaethau achos estynedig a dulliau ymchwil cyfranogol. Bydd seilwaith data ac integreiddio data hefyd yn ffocws yn y rhaglen newydd.
Meddai’r Prif Ymchwilydd a Chyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Ian Rees Jones: “Mae hon yn garreg filltir bwysig i WISERD. Un o’n prif gryfderau yw’r gallu i gynnal ymchwil gyda phartneriaid cymdeithas sifil, fel elusennau a’n cymunedau lleol. Mae’r wobr hon yn rhoi’r cyfle i ni gryfhau’r partneriaethau a’r rhwydweithiau hyn ymhellach, yn y DU ac yn rhyngwladol, a chynnig rhaglen cyfnewid gwybodaeth gyffrous a hygyrch dros y pum mlynedd nesaf. Rydym ni hefyd yn edrych ymlaen at barhau i ehangu capasiti ymchwil y gwyddorau cymdeithasol a meithrin cenhedlaeth newydd o arweinwyr ymchwil y dyfodol.”
Meddai’r Athro Jennifer Rubin, Cadeirydd Gweithredol ESRC: “Rydym ni wrth ein boddau’n cyhoeddi’r cyllid ar gyfer y pedair canolfan hyn, sy’n dangos ehangder rhagoriaeth y gwyddorau cymdeithasol yn y DU. Mae’n galonogol gweld y canolfannau ESRC presennol yn parhau i adeiladu ar gorff dirfawr o waith.”
Meddai Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesedd y DU, yr Athro Syr Mark Walport: “Mae’r pedair canolfan hyn yn cynrychioli buddsoddiadau sylweddol ar draws tirwedd ymchwil y gwyddorau cymdeithasol. Byddant yn chwarae rhan bwysig o ran cynnal safle rhyngwladol y DU ar flaen y gad gydag ymchwil y gwyddorau cymdeithasol.”
Bydd Canolfan Cymdeithas Sifil newydd WISERD yn dechrau arni ym mis Hydref eleni ac yn parhau hyd 2024.