Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan ymchwil flaenllaw ar Gymdeithas Sifil yn dathlu Agoriad Swyddogol

3 Chwefror 2015

Wales Institute of Social & Economic Research, Data & Methods (WISERD)

Bydd Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) yn dathlu lansiad ei Ganolfan Ymchwil flaenllaw WISERD ar Gymdeithas Sifil ar ddydd Iau 5 Chwefror, 2015. Mae WISERD wedi derbyn cyllid o fwy na £10 miliwn i sefydlu canolfan ymchwil genedlaethol a fydd yn ymgymryd â rhaglen ymchwil bellgyrhaeddol arloesol o ymchwil, dros bum mlynedd, sy'n berthnasol i bolisïau sy'n mynd i'r afael â'r Gymdeithas Sifil yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae'r cyllid hwn yn cynnwys £7 miliwn gan Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a £3 miliwn arall gan Brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe. Mae Cymdeithas Sifil WISERD yn fenter gydweithredol, ac mae'n cynnwys ymchwilwyr o ddeuddeg Prifysgol yn y DU ac ystod o bartneriaid rhyngwladol.

Bydd rhaglen y Ganolfan yn archwilio cyfres o themâu sy'n berthnasol i bolisïau ac arfer sy'n effeithio ar y gymdeithas sifil ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Bydd y rhain yn cynnwys: addysg, gwirfoddoli, lles, heneiddio, llywodraethu ac amrywiaeth.

Caiff y lansiad ei gynnal yng Nghanolfan Celfyddydau'r Gate yn y Rhath, Caerdydd a bydd rhai o academyddion, rhanddeiliaid cyhoeddus a pholisi, a sefydliadau cymdeithas sifil mwyaf blaenllaw'r byd yn bresennol. Mae'r siaradwyr yn cynnwys: Ruth Marks (MBE), Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC); Rhodri Morgan, cyn Brif Weinidog Cymru; a Saskia Sassen, sef Athro Robert S. Lynd Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Columbia a chyd-gadeirydd y Pwyllgor ar Feddwl Byd-eang.

Mae'r Ganolfan wedi ymrwymo i ymgymryd ag ymchwil ar y gymdeithas sifil er mwyn bod o fudd i'r gymdeithas sifil a bydd yn gweithio'n agos gydag ystod o sefydliadau gan gynnwys: Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Age Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a Chyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru.

Dywedodd Dr Rosie Plummer, sef Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru:  "Mae'r Ganolfan hon yn ddatblygiad aruthrol ac rydym yn frwdfrydig am gefnogi ei hymchwil werthfawr a chydweithio gyda hi.  Bydd deall potensial a chymhellion gwirfoddolwyr hŷn, a goresgyn unrhyw rwystrau i'w hymglymiad gyda ni, yn hynod fuddiol.  Ar adeg pan fo'r boblogaeth yn heneiddio, teuluoedd yn atomeiddio a phryder am y gyfran uchel o bobl ifanc (yn enwedig mewn ardaloedd gwledig) nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, mae gan brosiectau fel hyn botensial buddiol sy'n arwyddocaol ac yn bwysig ar raddfa eang."

Gan adleisio cefnogaeth Dr Plummer, dywedodd Bryan Collis, sef uwch-Swyddog Ymchwil gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru  (CGGC): "Mae Canolfan y Gymdeithas Sifil yn cynrychioli'r buddsoddiad mwyaf mewn ymchwil i wirfoddoli, cymunedau a gweithgarwch gwirfoddol yng Nghymru y gallaf ei gofio. Rwy'n gobeithio y bydd yn arwain at ddealltwriaeth well o'r ffordd mae cymunedau Cymru'n gweithio ac yn newid, fel y gallwn ni, pobl Cymru, adeiladu cymunedau sy'n gryfach ac yn fwy gwydn. Bydd hynny'n hanfodol wrth i ni wynebu heriau'r dyfodol. Weithiau, caiff profiad y Cymry ei golli mewn ymchwil sy'n seiliedig ar y DU, felly rwy'n edrych ymlaen at waith sy'n cymharu ein profiad a'n sefyllfa gydag ardaloedd eraill y DU a'r tu hwnt."

Croesawodd Cyfarwyddwr WISERD, sef yr Athro Ian Rees Jones y fenter, gan nodi: "Mae Cymdeithas Sifil WISERD wedi'i hadeiladu o gwmpas y partneriaethau hir sefydledig rhwng academyddion, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a sefydliadau'r gymdeithas sifil a gafodd eu datblygu gan WISERD dros y saith mlynedd diwethaf. Nod y Ganolfan fydd arwain ein dealltwriaeth o natur gyfnewidiol y gymdeithas sifil yng nghyd-destun llywodraeth ddatganoledig a phrosesau o newid cymdeithasol ac economaidd dwys. Oherwydd ei maint a'i llywodraeth ddatganoledig, mae Cymru'n cynnig cyd-destun unigryw ar gyfer astudio'r materion hyn. Bydd y ganolfan yn adeiladu ar rwydweithiau ymchwilwyr presennol, y mae ganddynt ystod eang o arbenigedd a sgiliau, i ymgymryd ag ymchwil ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol. Dyma gyfle gwirioneddol unigryw a chyffrous i ymgymryd ag ymchwil cydweithredol ac amlddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar nodweddion cyfoes y gymdeithas sifil."

Rhannu’r stori hon