Ewch i’r prif gynnwys

A oes mantais gystadleuol o ddefnyddio technoleg ddigidol i gwmnïau yng Nghymru?

24 Medi 2019

Man presents in Executive Education Suite

Roedd y digwyddiad diweddaraf yng nghyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd ar ddydd Mercher 24 Medi 2019, yn canolbwyntio ar safbwyntiau academyddion, diwydiannwr a llunwyr polisi ar seilwaith digidol BBaChau yng Nghymru.

Edrychodd yr Athro Max Munday, Cyfarwyddwr Uned Ymchwil Economi Cymru (WERU) ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda’r entrepreneur ac eiriolwr newydd dros dechnoleg, Giles Phelps a David Elsmere, Rheolwr y Bartneriaeth yn Cyflymu Cymru i Fusnesau, ar broblemau a chyfleoedd i ddyfodol digidol Cymru.

Agorodd yr Athro Munday y digwyddiad drwy esbonio bod arloesedd a photensial o ran cynhyrchiant ym maes TGCh, ond sut y gall busnesau bach a chanolig a micro-fusnesau wrthsefyll technoleg ddigidol.

“Mae’r sefydliadau hyn yn aml yn ystyried bod y risgiau cysylltiedig yn fwy na’r manteision,” meddai.

Amlinellodd yr Athro Munday sut mae ef a’i dîm o ymchwilwyr yn WERU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu sylfaen dystiolaeth sy’n ceisio archwilio a deall y defnydd o dechnoleg ddigidol mewn BbaChau yng Nghymru dros amser.

“Cyn belled ag y bo modd, mae’r Arolwg Aeddfedrwydd Digidol yn hydredol. Rydym yn ceisio edrych ar yr hyn sy’n newid mewn gwirionedd dros amser. Felly, er enghraifft: A oes tystiolaeth bod mwy o gwmnïau’n defnyddio cymwysiadau sy’n gysylltiedig â’r cwmwl? A oes tystiolaeth bod mwy o gwmnïau’n ymwneud ag e-werthiannau?”

Yr Athro Max Munday Director of Welsh Economy Research Unit

“Dyma’r math o gwestiynau y mae DMS yn ceisio eu hateb,” ychwanegodd.

Yn olaf ar y rhestr

Giles Phelps oedd nesaf, ac roedd ei drafodaeth yn canolbwyntio ar seilwaith, buddsoddiad a sgiliau. Esboniodd sut roedd seilwaith dibynadwy ar y cyd â chyfleoedd i ddatblygu sylfaen sgiliau digidol yng Nghymru yn hollbwysig wrth helpu busnesau i dyfu.

Fodd bynnag, mae diffyg gwasanaethau ffibr llawn yn y DU ac yn fwy penodol yng Nghymru wedi difetha’r cyfleoedd hyn. Ymhellach, mae diffyg cystadleuaeth a rhwystrau megis fforddfreintiau a threth yn golygu nad yw dyfodol digidol Cymru’n ddeniadol i fuddsoddwyr preifat.

“Pryd bynnag yr af i Lundain a chwrdd â buddsoddwyr, maen nhw’n dweud: Pam dylem ni fuddsoddi? Pam dylem ni adeiladu seilwaith yng Nghymru? Ac oherwydd y diffyg hwnnw a’r problemau o ran busnesau’n gwrthod defnyddio’r dechnoleg hon, yna ymddengys nad yw Cymru o ddifrif amdano. Dyna pam mai ni fydd yr olaf ar y rhestr yn ôl pob tebyg.”

Giles Phelps Entrepreneur ac eiriolwr newydd dros dechnoleg

Cefnogi llwyddiant busnesau

Daeth David Elsmere â’r digwyddid i ben drwy esbonio sut mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn gweithio fel rhan o Lywodraeth Cymru i gefnogi llwyddiant busnesau wrth fabwysiadau a defnyddio technoleg ddigidol.

Trwy gyfres o astudiaethau achos, amlinellodd Mr Elsmere sut mae’r rhaglen cyfnewid gwybodaeth am ddim hon o fudd i fusnesau, drwy ddangos iddynt sut y gall technoleg:

  • leihau costau drwy fuddsoddi mewn strategaethau arbed amser yn y tymor hir.
  • arbed amser drwy symleiddio prosesau mewnol.
  • cynyddu elw drwy ddenu a chadw cwsmeriaid.
  • gwella sefydlogrwydd drwy roi hwb i sgiliau staff a phrosesau gwaith.

Pwysleisiodd: “Mae’r holl dechnoleg hon yn galluogi, nid yw’n ddiwedd ynddo’i hun.”

“Gallwn helpu drwy addysgu busnesau drwy ddangos iddynt yr hyn y gallant ei wneud a sut y gallant wneud hynny, am gost gymharol isel. Mae llawer o'r dechnoleg hon yn gostau refeniw erbyn hyn, yn hytrach na chostau cyfalaf. Felly, pam na fyddech yn talu?”

David Elsmere Rheolwr y Bartneriaeth yn Cyflymu Cymru i Fusnesau

Daeth y sesiwn hysbysu i ben gyda sesiwn holi ac ateb lle rhoddodd yr Athro Munday, Mr Phelps a Mr Elsmere eu safbwyntiau am ofynion landlordiaid, addysg a gwerth y cynnyrch.

Rhwydwaith yw'r gyfres Sesiynau Hysbysu Brecwast Addysg Weithredol sy'n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil diweddaraf a datblygiadau allweddol gan bartneriaid diwydiannol.

Os nad oeddech yn gallu dod, edrychwch ar ein ffrwd fyw o’r digwyddiad.

Rhannu’r stori hon

Ebostiwch ni os hoffech gael eich hysbysu pan fydd yr arolwg yn fyw.