Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth newydd am y meini tramgwydd sy’n wynebu cyfreithwyr anabl

24 Ionawr 2020

Mind the gap train station sign

Mae pobl anabl ym maes y gyfraith yn wynebu agweddau ac arferion sy’n rhwystro ymdrechion i ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus, yn ôl astudiaeth.

Mae’r ymchwil gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd yn defnyddio adborth cylchoedd trafod, cyfweliadau a holiaduron ymhlith cyfreithwyr, bargyfreithwyr, hyfforddeion a gweithwyr cyfreithiol ledled y deyrnas. Comisiynwyd gan DRILL (Disability Research on Independent Living and Learning), rhaglen ymchwil £5 miliwn mae pobl anabl yn ei harwain. Cydweithiodd ymchwilwyr ag Adran Anableddau Cymdeithas y Gyfraith, hefyd.

Mae’r canfyddiadau’n datgelu bod llawer o’r rhai a gymerodd ran – ym mhob rhan o faes y gyfraith – yn tueddu i guddio eu hanableddau wrth ymgeisio am leoedd hyfforddi neu swyddi. Maen nhw’n wynebu atgasedd ac anffafrio yn y gwaith, hefyd – gan gynnwys wrth ofyn am yr ‘addasiadau rhesymol’ mae gyda nhw hawl i’w mynnu yn eu gweithleoedd yn ôl y gyfraith.

Roedd dros hanner (54%) y cyfreithwyr a staff cyfreithiol anabl a gymerodd ran yn yr astudiaeth o’r farn bod eu gobeithion o ran gyrfa a dyrchafu yn waeth na rhai eu cydweithwyr heb anableddau. Anaml y bydd 40% yn rhoi gwybod i’w cyflogwyr neu ddarpar gyflogwyr eu bod yn anabl. Dim ond 8.5% o’r ymatebwyr oedd yn anabl pan ddechreuon nhw eu hyfforddiant a ddatgelodd eu hanableddau yn eu ceisiadau.

Mae academyddion yn dweud na fydd llawer o broffesiynolion cyfreithiol yn gofyn am yr addasiadau rhesymol mae hawl gyda nhw i’w mynnu yn ôl y gyfraith o achos pryder am yr ymateb tebygol.

Meddai’r Athro Debbie Foster, Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae rôl hanfodol i reolwyr a goruchwylwyr ynglŷn â phroses yr addasiadau rhesymol a rheoli absenoldeb trwy salwch, yr hyn sydd i’w gyflawni a dyrchafu.  Gwelon ni, fodd bynnag, fod ansawdd perthynas rheolwyr â gweithwyr anabl yn dibynnu yn aml ar ‘ewyllys da’, ‘lwc’ neu bersonoliaeth yn hytrach na dealltwriaeth dda a hyfforddiant proffesiynol.”

Ychwanegodd Sue Bott (DRILL): “Mae’n amlwg bod hynny’n sefyllfa anfoddhaol yn 2020 – bron chwarter canrif ar ôl i Ddeddf Anffafrio yn ôl Anableddau gyflwyno’r hawl i fynnu addasiadau rhesymol yn y gwaith.”

Dywedodd rhyw 60% o gyfreithwyr a gweithwyr cyfreithiol fod gweithleoedd anhygyrch yn cyfyngu ar eu cyfleoedd gyrfaol a dywedodd 85% y gallai trefniadau gweithio anhyblyg ac oriau hir gynyddu poen a blinder sy’n ymwneud â’u hanableddau.

Cwynodd nifer o’r rhai a gymerodd ran nad oedd asiantaethau cyflogi wedi cyflwyno ceisiadau am addasiadau rhesymol neu nodi unrhyw faterion hygyrchedd ar gyfer cyfweliadau.

Yn aml, bydd allgau neu anffafrio yn y gweithle cyfreithiol yn anfwriadol – fe ddaw o ganlyniad i godau ymddwyn, defodau a thybiaethau sydd ar waith ers y dyddiau pan nad oedd llawer o bobl anabl yn gweithio yn y proffesiwn.

Dr Natasha Hirst Cardiff Business School

Meddai’r Dr Natasha Hirst, Ysgol Busnes Caerdydd: “Yn aml, bydd allgau neu anffafrio yn y gweithle cyfreithiol yn anfwriadol – fe ddaw o ganlyniad i godau ymddwyn, defodau a thybiaethau sydd ar waith ers y dyddiau pan nad oedd llawer o bobl anabl yn gweithio yn y proffesiwn.”

Soniodd y Dr Hirst am y pwyslais ar oriau hir a rhwydweithio – yn arbennig ymhlith bargyfreithwyr – yn enghraifft o fethu ag addasu yn ôl anghenion cydweithwyr anabl. Mae’r ymchwil yn awgrymu y gallai fod yn ‘amhosibl i bobl anabl gyrraedd statws partner’ o achos meini prawf anhyblyg hefyd, hyd yn oed yn y cwmnïau mwyaf cefnogol.

Prif argymhellion adroddiad Legally Disabled?: The career experiences of disabled people working in the legal profession:

  • Neilltuo rhai lleoedd hyfforddi mewn cwmnïau a siambrau cyfreithiol ar gyfer ymgeiswyr anabl.
  • Mae angen i gyflogwyr adlunio rolau ac arferion gweithio – gan gynnwys gweithio’n hyblyg a gweithio o hirbell.
  • Dylai’r proffesiwn bennu safonau sy’n mynnu i gyflogwyr ac asiantaethau roi gwybodaeth am hygyrchedd a sut mae gofyn am addasiadau yn ystod y recriwtio a’r cyflogi. Gan gynnwys gweithdrefnau cwyno eglur.
  • Dylai’r gyfraith anelu at fod y proffesiwn cyntaf i gyflwyno adroddiadau am gyflogau llai pobl anabl.
  • Mae angen hyfforddi staff a rheolwyr ynghylch ymwybyddiaeth o anableddau a rhoi gwybodaeth am reoli pobl anabl ar gael iddyn nhw.
  • Mae angen mynd i’r afael ag achosion o gam-drin ac erlid pobl anabl yn y gwaith trwy bolisi na fydd yn goddef ymddygiad o’r fath.
  • Dylai’r proffesiwn ofalu y bydd pobl anabl yn cael eu cynrychioli’n ddigonol pan fo polisïau ar y gweill ac y byddan nhw’n cael eu hystyried trwy gyfrwng rhwydweithiau’r anabl wrth lunio arferion newydd.

Meddai Rhian Davies, Anableddau Cymru: “Rhaid i gyflogwyr ymddiried mewn pobl anabl, gwrando arnyn nhw a defnyddio eu dychmygion i geisio meddwl fel y rhan fwyaf o bobl anabl yn eu bywydau beunyddiol. Dylen nhw gefnogi rhwydweithiau’r anabl – yn eu cwmnïau eu hunain lle bo gweithwyr anabl – ac ar draws y proffesiwn. Mae’n amlwg bod angen i broffesiynolion cyfreithiol anabl weld rhagor o’u tebyg ar frig y proffesiwn, hefyd.”

Mae’r adroddiad ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.