Ewch i’r prif gynnwys

Darganfyddiad o gell T newydd yn cynyddu’r gobeithion o therapi canser ‘cyffredinol’

20 Ionawr 2020

Professor Andrew Sewell with Research Fellow Garry Dolton in a lab
Yr Athro Andrew Sewell gyda'r Cymrawd Ymchwil Garry Dolton

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi darganfod math newydd o gelloedd T sy’n lladd sy’n cynnig gobaith am therapi canser “cyffredinol”.

Therapïau celloedd T ar gyfer canser - lle mae celloedd imiwnedd yn cael eu tynnu, eu haddasu a’u dychwelyd i waed cleifion er mwyn chwilio am gelloedd canser a’u dinistrio - yw’r paradeim diweddaraf i drin canser.

Mae’r therapi a ddefnyddir fwyaf, o’r enw CAR-T, yn cael ei bersonoli i bob claf, ond dim ond rhai mathau o ganser a dargedir ganddo, ac nid yw wedi bod yn llwyddiannus ar gyfer tiwmorau solet, sef y rhan helaeth o ganserau.

Mae ymchwilwyr o Gaerdydd bellach wedi darganfod celloedd T sydd â math newydd o dderbynnydd cell T (TCR) sy’n adnabod ac yn lladd y rhan fwyaf o fathau o ganser dynol, gan anwybyddu celloedd iach.

Mae’r derbynnydd hwn yn adnabod moleciwl a geir ar arwyneb ystod eang o gelloedd canser, yn ogystal ag yn llawer o gelloedd normal y corff. Ond yn syfrdanol, mae’n gallu gwahaniaethu rhwng celloedd iach a chelloedd canseraidd, gan ladd y rhai diwethaf yn unig.

Dywedodd yr ymchwilwyr fod hyn yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu imiwnotherapïau ar gyfer pob canser a phob person, nad oeddem yn credu bod y rhain yn bosibl o’r blaen.

Sut mae’r derbynnydd cell T newydd hwn yn gweithio?

Mae celloedd T confensiynol yn sganio arwyneb celloedd eraill i ddod o hyd i anomaleddau a chael gwared ar gelloedd canseraidd - sy’n mynegi proteinau annormal - gan anwybyddu celloedd sy’n arddangos proteinau “normal” yn unig.

Mae’r system sganio’n adnabod rhannau bach o broteinau celloedd sydd ynghlwm wrth foleciwlau arwyneb-celloedd o’r enw antigen lewcocyt dynol (HLA), sy’n galluogi celloedd T sy’n lladd i weld beth sy’n digwydd o fewn celloedd drwy sganio eu harwynebau.

Mae HLA yn amrywio’n eang rhwng unigolion. Yn flaenorol, mae hyn wedi atal gwyddonwyr rhag creu triniaeth sengl sy’n seiliedig ar gelloedd T sy’n targedu’r rhan fwyaf o ganserau mewn pawb.

Ond mae astudiaeth Caerdydd, a gyhoeddwyd heddiw yn Nature Immunology, yn disgrifio derbynnydd cell T unigryw sy’n gallu adnabod sawl math o ganser ag un moleciwl tebyg i HLA, o’r enw MR1.

Yn wahanol i HLA, nid yw MR1 yn amrywio mewn poblogaethau dynol - sy’n golygu ei fod yn darged newydd deniadol ar gyfer imiwnotherapïau.

Beth wnaeth yr ymchwilwyr ei ddangos?

Dangoswyd bod celloedd T, sydd â’r derbynnydd cell T newydd, yn lladd celloedd canser yr ysgyfaint, y croen, y colon, y fron, yr esgyrn, y prostad, yr ofarïau, yr arennau a gwddf y groth, gan anwybyddu celloedd iach.

I brofi potensial therapiwtig y celloedd hyn in vivo, chwistrellodd yr ymchwilwyr gelloedd T sy’n gallu adnabod MR1 i mewn i lygod sydd â chanser dynol ynghyd â system imiwnedd ddynol.
Dangosodd hyn ganlyniadau “calonogol” o ran clirio canser. Dywedodd yr ymchwilwyr fod hyn yn debyg i therapi CAR-T a gymeradwywyd gan y GIG mewn modelau anifail tebyg.

Ymhellach, roedd y grŵp o Gaerdydd yn gallu dangos y gallai celloedd T sy’n perthyn i gleifion melanoma, a addasir i fynegi’r derbynnydd cell T newydd hwn, ddinistrio celloedd canser y claf ei hun, ond ar ben hynny, celloedd canser cleifion eraill yn y labordy, ni waeth beth fo math HLA’r cleifion.

Stock image of t cells attacking cancer
Celloedd-T yn ymosod ar ganser (delwedd o gyflenwad)

Meddai’r Athro Andrew Sewell, prif awdur yr astudiaeth ac arbenigwr mewn celloedd T o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd ei bod hi’n “anarferol iawn” dod o hyd i dderbynnydd cell T sy’n benodol i ystod mor eang o ganserau, a bod hyn yn cynyddu gobeithion o therapi canser “cyffredinol”.

“Gobeithiwn y gallai’r derbynnydd cell T newydd hwn gynnig dull gwahanol o dargedu a dinistrio ystod eang o ganserau ym mhob unigolyn,” meddai.

“Dim ond mewn lleiafrif o gleifion sydd â lleiafrif o ganserau y gellir defnyddio therapïau presennol sy’n seiliedig ar dderbynyddion cell T.

“Mae targedu canser â chelloedd T cyfyngedig eu MR1 yn ffin gyffrous newydd - mae’n codi gobeithion o driniaeth “gyffredinol” i ganser; un math o gell T allai ddinistrio llawer o wahanol fathau o ganser ar draws y boblogaeth.

“Nid oedd neb yn credu bod hyn yn bosibl o’r blaen.”

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae arbrofion ar y gweill i bennu’r mecanwaith moleciwlaidd penodol a ddefnyddir gan dderbynnydd cell T newydd i wahaniaethu rhwng celloedd iach a chanseraidd.

Mae’r ymchwilwyr yn credu y gallai weithio drwy synhwyro newidiadau mewn metabolaeth celloedd, gan achosi i ryngolion metabolaidd gwahanol gael eu mynegi ar arwyneb celloedd canser gan MR1.

Gobaith y grŵp o Gaerdydd yw rhagbrofi’r dull newydd hwn mewn cleifion tua diwedd y flwyddyn hon ar ôl profion diogelwch pellach.

Meddai’r Athro Sewell mai un agwedd hanfodol ar y profion diogelwch hyn oedd gwneud yn siŵr bod celloedd T sy’n lladd a addasir â’r derbynnydd cell T newydd yn adnabod celloedd canser yn unig.

“Fodd bynnag, bydd llawer o rwystrau i’w goresgyn os yw’r profion hyn yn llwyddiannus. Wedi hynny, gobeithiwn y byddai modd defnyddio hyn ar gyfer cleifion ymhen ychydig flynyddoedd,” meddai.

Graphic showing how t-cells work
Celloedd-T yn ymosod ar ganser

Dywedodd yr Athro Oliver Ottmann, Pennaeth Haematoleg Prifysgol Caerdydd, y mae ei adran yn cynnig therapi CAR-T: “Mae potensial enfawr i’r math newydd hwn o therapi cell T oresgyn cyfyngiadau presennol CAR-T, sydd wedi bod yn cael trafferth adnabod targedau addas a diogel ar gyfer mwy nag ychydig o fathau o ganser.”

Meddai’r Athro Awen Gallimore, o Isadran Haint ac Imiwnedd y Brifysgol sydd hefyd yn arweinydd imiwnedd canser i Ganolfan Ymchwil Canser Cymru: “Os yw’r canfyddiad newydd trawsffurfiol hwn yn dal dŵr, bydd yn gosod y sylfeini ar gyfer meddygaeth cell T ‘gyffredinol’, gan leihau’r gost enfawr sy’n gysylltiedig ag adnabod, cynhyrchu a gweithgynhyrchu celloedd T personol.

“Dyma gam gwirioneddol gyffrous ac enfawr efallai tuag at wneud imiwnotherapi canser yn fwy hygyrch.”

Ariannwyd y gwaith gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Wellcome Trust a Tenovus.

Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Rydyn ni’n ariannu ymchwil sy’n anelu at wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Mae’r astudiaeth hon yn ddatblygiad sylweddol yn y frwydr yn erbyn canser, ac mae ganddi’r potensial i drawsnewid triniaeth miloedd o gleifion.”

https://youtu.be/YQnzhSsnnDU

Rhannu’r stori hon

Mae ein themâu rhyngddisgyblaethol yn amrywio o ymchwiliad labordy i ymarfer clinigol, mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.