Ewch i’r prif gynnwys

Cam cyntaf wrth ddatblygu brechlynnau ar ffurf tabledi

12 Mawrth 2018

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi creu brechlyn synthetig, anfiolegol cynta’r byd.

Gallai’r brechlyn anfiolegol yn erbyn y ffliw, y gellir ei gymryd drwy’r geg, esgor ar chwyldro yn y modd y rhoddir brechlynnau.

Nid oes angen i’r math newydd o frechlyn – sy’n sefydlog ar dymheredd ystafell – y gellir ei roi ar ffurf tabled, gael ei gadw mewn oergell. Dyma broses sy’n gallu cyfrif am y rhan fwyaf o’r gost o drosglwyddo nifer o frechlynnau presennol.

Gellir cludo brechlynnau nad yw’n rhaid eu cadw mewn oergell yn haws, ac maen nhw’n fwy addas ar gyfer gwledydd sy’n datblygu lle gall cadw pethau’n oer fod yn dalcen caled.

Yn ôl yr Athro Andrew Sewell o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, a arweiniodd yr astudiaeth: “Mae llawer o fanteision i frechlynnau y gellir eu cymryd drwy’r geg. Nid yn unig y byddai hynny’n newyddion gwych i bobl sy’n ofni nodwyddau, ond gellir eu cadw a’u cludo’n haws hefyd. Mae hyn yn eu gwneud dipyn yn fwy addas i’w defnyddio mewn lleoedd anghysbell lle gall y ffordd bresennol o drosglwyddo brechlynnau beri problem.”

Fel y brechlyn synthetig a sefydlog cyntaf, defnyddiwyd dull hynod newydd o'i baratoi drwy ddefnyddio 'delweddau drych' o'r moleciwlau protein sy'n strwythuro bywyd.

Fel arfer, mae brechlynnau safonol yn gweithio drwy gyflwyno ffurf ddiogel o germ, neu ran diniwed o'r germ hwnnw (proteinau, yn aml) i'n cyrff. Mae'r proteinau estron hyn yn ysgogi ein celloedd imiwnedd sy'n eu cofio, ac wedyn yn ymosod yn ffyrnicach os ydyn nhw’n dod ar eu traws eto. Pe bydden nhw’n cael eu bwyta, byddai germau neu broteinau cyffredin yn cael eu treulio fel arfer. Mae'r gwaith newydd yn dangos y gall ffurfiau 'delwedd drych' sefydlog o broteinau o'r fath hefyd sbarduno ymateb imiwn sy'n gwarchod. Ni all y moleciwlau 'delwedd drych' hyn gael eu treulio gan daro ar y posibilrwydd y gellir cyflenwi brechlynnau anfiolegol ar ffurf tabledi.

Eglurodd yr Athro Sewell: "Moleciwlau llaw chwith yw'r moleciwlau carbon sy'n ffurfio'r holl broteinau ar y Ddaear, ond maent hefyd yn meddu ar ffurfiau llaw dde anfiolegol, sy'n ddelweddau drych. Er bod y naill ffurf a'r llall o'r molecylau hynny'n edrych yr un fath ar yr olwg gyntaf, delweddau drych ydyn nhw mewn gwirionedd ac, yn union fel ein llaw dde a’n llaw chwith, nid oes modd gosod un ar ben y llall. Gellir treulio'r ffurfiau llaw chwith, biolegol o broteinau'n rhwydd ac nid ydynt yn para'n hir o ran eu natur. Mae ffurfiau annaturiol, llaw dde'r molecylau hyn gymaint yn fwy sefydlog.

"Mae’r ffaith ein bod yn gallu dangos bod modd defnyddio molecylau annaturiol – fel y molecylau delwedd drych hyn – yn llwyddiannus ar gyfer brechlynnau, yn awgrymu bod modd ddefnyddio 'cyffuriau' molecylaidd annaturiol, sefydlog eraill fel brechlynnau yn y dyfodol.

Mae'r gwaith newydd hwn yn darparu prawf o gysyniad mewn labordy. Bydd angen llawer mwy o ymchwil i ddatblygu dulliau o'r fath ar gyfer y boblogaeth gyfan a chlefydau eraill, a bydd yn cymryd sawl blwyddyn cyn y gellir profi brechlyn anfiolegol ymhlith pobl yn ôl pob tebyg.

Dywedodd Divya Shah, o dîm Heintiau ac Imiwnobioleg Wellcome: "Mae hon yn astudiaeth gyntaf hynod gyffrous o brawf o gysyniad a allai gynnig llwybr posibl i wneud brechlynnau thermosefydlog ac i’w llyncu. Gallai hyn leihau'r gost a chynyddu hygyrchedd ar draws y byd, ond mae angen llawer mwy o ymchwil i droi’r canfyddiadau’n frechlynnau go iawn."

Ariannwyd yr Ymchwil gan Wellcome a BBSRC, a chaiff ei chyhoeddi yn y Journal of Clinical Investigation.

Rhannu’r stori hon

Mae ein themâu rhyngddisgyblaethol yn amrywio o ymchwiliad labordy i ymarfer clinigol, mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.