Ewch i’r prif gynnwys

Astudio amlieithrwydd ac amlhunaniaethau yng Nghymru

19 Rhagfyr 2019

Image of three PhD students in a lecture theatre
Kaisa Pankakoski, Elin Arfon a Eira Jepson

Yn ddiweddar, cynhaliodd Prifysgol Caerdydd gynhadledd undydd i astudio amlieithrwydd ac amlhunaniaethau yng Nghymru.

Bu’r gynhadledd ddydd Mercher 6ed Rhagfyr ac aeth iddi gynulleidfa amryfal o ymchwilwyr ac ymarferwyr megis academyddion, athrawon ieithoedd, llunwyr polisïau a chynrychiolwyr llywodraeth leol. Tri ymchwilydd ôl-raddedig a’i threfnodd – Elin Arfon (Ysgol yr Ieithoedd Modern), Eira Jepson (Ysgol yr Ieithoedd Modern) a Kaisa Pankakoski (Ysgol y Gymraeg) – sy’n ymwneud ag ymchwil i ieithoedd a phynciau ieithyddol.

Esboniodd Elin Arfon pam roedd angen cynhadledd ynghylch amlieithrwydd: “Roedden ni’n gryf o’r farn bod angen gwneud rhagor i bontio’r bwlch rhwng ymchwil i faterion dwyieithrwydd ac amlieithrwydd yng Nghymru a bod cyfleoedd i gydweithio’n agosach a dysgu oddi wrth ein gilydd. Ein nod oedd tynnu sylw at arferion da, annog pobl i rwydweithio a hwyluso syniadau newydd a phartneriaethau newydd i ystyried ieithoedd mewn modd mwy cyfun.”

Yr Athro Kate Griffiths (Pennaeth Ysgol yr Ieithoedd Modern) a’r Athro Dylan Foster Evans (Pennaeth Ysgol y Gymraeg) agorodd y rhaglen gynhwysfawr gyffrous o areithwyr a gweithdai. Ar ôl cyflwyniad byr gan Elin, Eira a Kaisa am strwythur a nodau’r dydd, croesawyd yr areithydd cyweirnod cyntaf, yr Athro Mererid Hopwood (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant), awdur o fri a chyn Brifardd Plant Cymru. Prif fyrdwn araith yr Athro Hopwood oedd dysgu amlieithog yng Nghymru ac, wedyn, daeth i’r llwyfan y Dr Cassie Smith-Christmas (Prifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway) a ofynnodd, What do we mean when we talk about ‘intergenerational language transmission’?

Y trydydd areithydd cyweirnod oedd yr Athro Tess Fitzpatrick (Prifysgol Abertawe) a soniodd am y prif ffactorau sy’n rhwystro neu’n hwyluso amlieithrwydd.

Dyma sesiynau eraill y dydd:

  • Panel ymchwil ôl-raddedigion: agweddau ar amlieithrwydd yn y deyrnas hon gyda’r Dr Jonathan Morris (Ysgol y Gymraeg - cadeirydd), y Dr Anna Havinga (Prifysgol Bryste) a’r Dr Lucy Rayfield (Prifysgol Caerwysg).
  • Gweithdy ar rôl addysg uwch ynghylch hybu dwyieithrwydd ac amlieithrwydd trwy brosiectau estyn braich.
  • Gweithdy ar lythrennedd amlieithog yn yr ysgol: cofleidio amlieithrwydd yn y cwrícwlwm newydd.
  • Gweithdy ar symud y maes yn ei flaen: materion methodolegol a dadansoddol yn yr ymchwil i bolisïau ieithoedd teuluoedd.

Yr Athro Claire Gorrara (Ysgol yr Ieithoedd Modern) lywiodd sesiwn olaf y dydd i ystyried y camau nesaf ynghylch ymchwil amlieithog a dwyieithog yng Nghymru. Sbardunodd drafodaeth fywiog am lwybrau, syniadau a mentrau newydd i’w harchwilio a’u datblygu - rhywbeth mae Elin, Eira a Kaisa yn awyddus i fwrw ymlaen ag e.

Meddai Eira Jepson: “Roedd yr ymgysylltu’n ardderchog drwy gydol y dydd ac mae’r cyfraniadau am yr hyn y gallwn ni ei wneud nesaf wedi rhoi rhywbeth i gnoi cil arno. Rhai o’r syniadau mwyaf poblogaidd oedd cynnal cynhadledd ryngwladol i ledaenu’r arferion gorau ymhlith gwledydd Ewrop, creu cronfa agored o brosiectau amlieithrwydd a datblygu rhagor o gyfleoedd i academyddion a phroffesiynolion rwydweithio.”

Ychwanegodd Kaisa Pankakoski: “Mae llawer i’w ystyried ond rydyn ni am fanteisio ar frwdfrydedd y gynhadledd a chynnig cyfleoedd i ymchwilwyr ac ymarferwyr amlieithrwydd Cymru gydweithio’n agosach. Er y bydd angen peth amser i sefydlu’r mentrau newydd, mae rhai prosiectau cyffrous ar y gweill eisoes ym maes amlieithrwydd - yn bennaf oll, dechrau cylch ymchwil i amlieithrwydd fis Ionawr 2020.”

Mae modd dilyn hynt y gynhadledd trwy gyfrwng #MultilingualCymru (Twitter).

Rhannu’r stori hon

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc penodol yn drwyadl.