Ewch i’r prif gynnwys

Syniadau myfyrwyr dros gynaliadwyedd yn ennill gwobrau arian

19 Rhagfyr 2019

Miles Budden and Tom Kelross, Pocket Trees, with winner Callum Hughes
Miles Budden a Tom Kelross, Pocket Trees, gyda'r enillydd Callum Hughes

Mae ‘oergell glyfar’, sef ap sy’n lleihau gwastraff bwyd archfarchnadoedd, a system sy’n defnyddio arian mân i blannu coed, ymhlith enillwyr her newydd i fyfyrwyr a graddedigion Prifysgol Caerdydd dros gynaliadwyedd.

Cafodd SYNIAD ei greu i helpu myfyrwyr arloesol i fagu eu syniadau a’u hyder drwy ddatblygu syniadau sy’n herio’r arferol.

Yn y gystadleuaeth - gyda chefnogaeth Prifysgolion Santander - dyfarnwyd gwobrau am syniadau ar draws pedair thema: bwyd a deiet, defnyddio deunyddiau, trafnidiaeth a symudedd, ac aerdymheru.

Fe enillodd Callum Hughes, 28, sy’n fyfyriwr BSc Cyfrifiadureg yn ei flwyddyn olaf gyda Diogelwch a Fforenseg, £1,250 am ei syniad ar gyfer Rhestr Bwyd Oergell Glyfar er mwyn lleihau gwastraff bwyd.

“Am gystadleuaeth wych! Rydw i mor falch bod y Brifysgol yn herio ei myfyrwyr i gynnig syniadau arloesol sy’n cael effaith go iawn ar gymdeithas,” meddai Callum, fydd yn defnyddio ei enillion i ddatblygu ei syniad.

“Dyma beth rwy’n ei garu, ac rydw i mor falch bod fy syniad wedi cael cymeradwyaeth o’r fath. Diolch i bawb a gymerodd ran.”

Gweithiodd Menter a Dechrau Busnes Prifysgol Caerdydd gyda Chanolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol y Brifysgol i herio myfyrwyr i rannu eu syniadau.

At hynny, cafodd dau a ddaeth yn agos i'r brif wobrau o £250 yr un.

Mae Monika Kurnick, myfyriwr BSc Rheoli Busnes (Inter Management) yn ei hail flwyddyn yn gobeithio datblygu ap o'r enw Foodito.  Mae’r ap yn galluogi archfarchnadoedd mawr i restru ar

blatfform unigol yr eitemau y mae gormod o stoc ohonynt. Mae’n rhoi gwybod i gwsmeriaid am ostyngiadau mewn amser real er mwyn i archfarchnadoedd wastraffu llai o fwyd a lleihau faint mae cwsmeriaid yn ei wario ar fwyd.

Enillodd Tom Kelross (BSc Cyfrifiadureg) a Miles Budden (Blwyddyn Olaf BSc Cyfrifiadureg) £250 am eu syniad, Pocket Trees. Byddai ei syniad yn galluogi pobl i ddefnyddio taliadau wedi'u talgrynnu i fyny i blannu coed sy'n helpu i wrthbwyso ôl-troed carbon y defnyddiwr wrth dreulio nwyddau. Arian mân fydd yn creu newid mawr.

Yr Athro Lorraine Whitmarsh, cyfarwyddwr CAST, wnaeth bennu’r briff a chadeirio’r panel beirniadu.

“Pleser mawr oedd gennyf gymryd rhan a beirniadu cystadleuaeth SYNIAD. Roedd y syniadau a gyflwynwyd yn greadigol ac yn amrywiol dros ben. Aeth pob cynnig i’r afael a’n pedwar maes o flaenoriaeth, a dechreuon nhw ystyried sut gallwn wireddu dyfodol carbon-isel”

Ynghylch enillwyr y gystadleuaeth, dywedodd Rheolwr Menter, Rhys Pearce-Palmer, “Roedd y creadigrwydd a’r sgiliau cyflwyno a ddangoswyd gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ardderchog. Braint yw cael helpu ein myfyrwyr i ddod yn unigolion mwy mentrus. Bydd tîm Menter a Dechrau Busnes yn parhau i gynnig cefnogaeth gyda datblygu eu syniadau’n fentrau hyfyw i’r holl gyfranogwyr.”

Mae Menter a Dechrau Busnes yn rhan o adran Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Caerdydd. Mae'n cynnig gweithdai, cystadlaethau a sesiynau sgiliau er mwyn helpu myfyrwyr i roi syniadau a datblygiadau arloesol ar waith yn y byd go iawn.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth wythnos cyn i Brifysgol Caerdydd ddatgan Argyfwng Hinsoddol ddydd Gwener 30 Tachwedd.

Cyllid Grant Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru a ariannodd SYNIAD. Yn ddiweddar, cafodd Prifysgolion a Cholegau Cymru y cyfle i wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru “er mwyn datblygu a meithrin pobl ifanc sy’n hunanddigonol, entrepreneuriol, a fydd yn cyfrannu’n gadarnhaol at lwyddiannau economaidd a chymdeithasol”.

Fe gyflwynodd Adran Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Caerdydd gais llwyddiannus i ymgymryd â’r mentrau canlynol: Meithrin Cymunedau o Entrepreneuriaid, Blaenoriaethau Rhanbarthol a Chydweithio fydd yn alinio â sectorau sydd o flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a restrir yn y Cynllun Gweithredu Economaidd, a Menter a Thwf.

Wedi eich ysbrydoli? Ymunwch â Menter a Dechrau Busnes, Prifysgol Caerdydd!

Oes gennych ddyheadau entrepreneuraidd ac esiamplau sy’n eich ysbrydoli? Gall tîm Menter a Dechrau Busnes Prifysgol Caerdydd eich helpu i wireddu eich potensial llawn ym myd busnes ac entrepreneuriaeth. Hanfod menter yw meddwl yn greadigol, dod o hyd i gyfleoedd, gwneud i bethau ddigwydd, a datblygu sgiliau am oes. Nid yw'n ymwneud â busnes yn unig; mae'n ymwneud â’ch helpu chi i ddefnyddio’r holl sgiliau sydd gennych. Dysgwch ragor am weithdai, cystadlaethau a sesiynau i’ch helpu i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth, neu ebostiwch enterprise@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.