Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant Cwmnïau Deilliannol: Caerdydd gyda'r tri gorau yn y DU

15 Tachwedd 2019

Site entrance at innovation campus

Gosodwyd Prifysgol Caerdydd yn y trydydd safle mewn rhestr newydd sy'n mesur pa mor dda yw prifysgolion y DU yn trosi eu hymchwil yn gwmnïau llwyddiannus.

Mae'r adroddiad 'Research to Riches’ yn amlygu sefydliadau'r yn y DU sydd orau o ran creu cwmnïau deilliannol.

Dim ond Prifysgol Queens, Belfast a Phrifysgol Caergrawnt oedd yn well na Chaerdydd ar y rhestr, a grëwyd gan Octopus Ventures, un o gronfeydd cyfalaf menter mwyaf Ewrop.

Roedd yr astudiaeth yn mesur effeithiolrwydd prifysgolion y DU o ran cynhyrchu eiddo deallusol, creu cwmnïau deilliannol a llwyddiant wrth adael cwmnïau deilliannol, o'i gymharu â chyfanswm yr arian nawdd a gawsant.

Yn ôl Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, "mae arloesedd yn ein gwaed ac mae gan Gaerdydd draddodiad hir a balch o fasnacheiddio ymchwil. Mae'r adroddiad yn nodi'n union y cydberthyniad rhwng mynediad at ariannu cynnar ar gyfer datblygu syniadau prawf o gysyniad a phrototeipiau, a goroesiad cwmnïau deilliannol yn y tymor hir."

Mae hwn yn faes rydym yn rhagori ynddo. Bydd ein buddsoddiad yng Nghampws Arloesedd Caerdydd – sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd – yn ein helpu i gynnal llwyddiant cwmnïau deilliannol yn y dyfodol drwy helpu academyddion i bontio'r bwlch rhwng ymchwil gynnar a'r cam masnachol.

Yr Athro Colin Riordan

Bydd y Campws yn gartref i Arloesedd Canolog, canolfan o'r radd flaenaf sy'n cynnwys unedau masnachol, lle mewn labordai i gwmnïau deilliannol a busnesau newydd, a chanolfan ddelweddu. Bydd yn gartref i arloesedd yn y Brifysgol ac yn cyd-leoli academyddion, myfyrwyr a staff entrepreneuriaidd ochr yn ochr â busnes a chymdeithas i greu, profi a magu mentrau newydd. Mae disgwyl iddo agor yn 2021.

Yn ôl Dr David Bembo, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd ym Mhrifysgol Caerdydd, "mae ein safle ar y rhestr yn cadarnhau ein hymrwymiad i drosi ymchwil o'r radd flaenaf yn llwyddiant masnachol a buddiannau i gymdeithas. Mae Caerdydd yn gyfrifol am 92% o'r incwm a gynhyrchir gan brifysgolion Cymru o ganlyniad i fasnacheiddio eiddo deallusol drwy reoli bron i 90 o deuluoedd patent a dros 1,300 o gytundebau trwyddedu gweithredol. Mae'r portffolio hwn yn ychwanegu gwerth i ystod eang o fusnesau, gan gynyddu pa mor gystadleuol ydynt, ac yn sail i incwm ymchwil trosiannol i’r Brifysgol o tua £10 miliwn y flwyddyn."

Yn ôl y canfyddiadau, y DU yw'r drydedd orau ar draws y byd o ran nifer y graddau PhD y mae'n eu cynhyrchu (ar ôl UDA a'r Almaen), a'r drydedd orau o ran cyhoeddi papurau academaidd (ar ôl UDA a Tsieina). Mae ei phrif brifysgolion ymchwil gystal â'r prifysgolion tebyg yn UDA, o ran cynhyrchu ymchwil o safon.

At hynny, mae'r adroddiad yn amlygu meysydd ar gyfer gwelliant i'r DU ac yn awgrymu ystod o fesurau yn cynnwys cynhyrchu mwy o ddatgeliadau a phatentau, gwell cymhelliannau ac alinio er mwyn i academyddion allu masnacheiddio, a mwy o gydweithio rhwng prifysgolion.

Yn ôl Simon King, partner yn Octopus Ventures: "Mae'r DU yn gartref i rai o brifysgolion ymchwil mwyaf blaenllaw'r byd, sydd wedi bod yn gyfrifol am nifer enfawr o gyflawniadau gwyddonol arloesol. At hynny, rydym wedi gweld cyfres o gwmnïau technoleg yn deillio o'r sefydliadau hynny i sefydlu eu hunain ar y llwyfan byd-eang, ond mae'r cyfle gymaint yn uwch, ac rydym o'r farn bod gan y DU'r potensial i gynhyrchu llawer iawn mwy o'r busnesau arloesol hyn."

Mae Prifysgol Caerdydd yn dwyn buddiannau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gymru. Mae'n un o gyflogwyr mwyaf Cymru, gyda 11,200 o swyddi'n cael eu cefnogi gan weithgareddau'r Brifysgol, ac mae ein heffaith gadarnhaol ar economi Cymru wedi codi o £2.04 biliwn yn 2012/13 i £2.37 biliwn yn 2016/17.

https://youtu.be/WVGW6KJaOsM

Rhannu’r stori hon

Rydym yn datblygu’r campws ar hyn o bryd yn rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf ar y campws ers cenhedlaeth - buddsoddiad o £600m yn ein dyfodol.