Ewch i’r prif gynnwys

Adroddiad am fynegi casineb ar-lein wedi’i lansio

26 Tachwedd 2019

HateLab logo

Mae adroddiad newydd am natur, graddfa ac effaith camdriniaeth ar-lein wedi’i lansio gan Brifysgol Caerdydd ar y cyd â chwmni cyfreithiol blaengar, Mishcon de Reya.

Mae adroddiad Hatred Behind the Screen yn galw am reoleiddiadau llymach ar y we a dyletswydd gofal statudol - a orfodir gan reolydd annibynnol - er mwyn gwneud i gwmnïau technolegol mawr gymryd mwy o gyfrifoldeb am ddiogelwch eu defnyddwyr a mynd i’r afael â chynnwys neu weithgarwch sy’n peri niwed ar eu gwasanaethau.

Mae’r adroddiad yn esbonio sut mae nifer yr achosion o fynegi casineb ar-lein wedi cynyddu dros y ddwy flwyddyn ddiweddaf a sut mae digwyddiadau penodol, fel ymosodiadau terfysgaeth, etholiadau cyffredinol, a refferendwm Brexit yn gallu sbarduno’r casineb a fynegir ar-lein.

Mae’n disgrifio sut mae’r cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau “rhyngol” eraill yn galluogi casineb a fynegir i gael ei ledaenu er y caiff ei gysgodi rhag atebolrwydd cyfreithiol oherwydd fe’u hystyrir yn “blatfformau ac nid yn gyhoeddwyr”.

Cafodd yr adroddiad ei lunio ar y cyd gan yr Athro Matthew Williams, o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, y mae ei waith gyda LabordyGwrthGasineb wedi parhau i gynnig gwybodaeth hanfodol am gamdriniaeth ar-lein.

Mae'r LabordyGwrthGasineb yn ganolfan fyd-eang ar gyfer data a gwybodaeth am fynegi casineb a throseddau casineb. Drwy ddefnyddio dulliau gwyddor data, gan gynnwys ffurfiau moesegol ar ddeallusrwydd artiffisial (AI), cafodd y fenter ei sefydlu er mwyn mesur ac atal problemau casineb ar-lein ac all-lein.

Mae'r Dangosfwrdd Mynegi Casineb Ar-lein wedi'i ddatblygu gan academyddion gyda phartneriaid polisi er mwyn achub y blaen ar achosion o droseddau casineb ar y strydoedd. Mae wedi'i sefydlu ag arian gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn ogystal ag Adran Cyfiawnder yr Unol Daleithiau. Mae wedi derbyn £1.7 miliwn o gyllid dros bum prosiect parhaus.

Does dim amheuaeth bod mynegi casineb ar-lein ar gynnydd, yn peri niwed i’w dioddefwyr, ac nad oes mecanwaith clir yn ei le i fynd i’r afael ag e. Mewn ymateb i hyn, rydym yn gofyn am ddull cydlynol, gyda mewnbwn gan wleidyddion, academyddion, cyfreithwyr a’r dioddefwyr eu hunain, ynghyd â mwy o ymgysylltiad gan y cyhoedd ehangach.

Yr Athro Matthew Williams Senior Lecturer

“Yn y cyfamser, yng Nghaerdydd, rydym wedi sefydlu dull o olrhain casineb a fynegir ar-lein. Drwy adnabod tueddiadau a gallu monitro’r broblem yn glir, mae gennym y siawns orau o ganfod gwreiddiau’r broblem a phennu’r atebion mwyaf effeithiol ar eu cyfer. Nid ydym ond megis dechrau deall, er enghraifft, y rôl gadarnhaol y gall gwrth-fynegiant (unrhyw ymateb uniongyrchol neu gyffredinol i fynegiant casineb neu niweidiol er mwyn ei danseilio) ei chael.”

Meddai James Libson, Partner Gweithredol Mishcon de Reya: “Mae’r adroddiad hwn yn mynd i’r afael â mater sy’n bwysig dros ben i’r cwmni. Gall mynegi casineb ar-lein gael goblygiadau dwys ar ddioddefwyr a chymdeithas yn ehangach, ac rydym yn cydnabod cyfyngiadau presennol ar y gyfraith fel offeryn i fynd i’r afael ag e.

“Un o gonglfeini ein gwaith ym Mishcon de Reya yw helpu ein cleientiaid i ymladd yn erbyn camdriniaeth ar-lein. Rydym yn cefnogi’r galw cynyddol yn y DU a thu hwnt am reoleiddiadau llymach ar y we er mwyn mynd i’r afael â chynnwys anghyfreithlon a diffinio beth yw hyn yn fwy clir. Mae’n bosibl rheoleiddio casineb a fynegir ar-lein heb beryglu rhyddid i fynegi, a byddwn yn cyflwyno ein safbwynt i adolygiad cynhwysfawr Comisiwn y Gyfraith ynghylch deddfwriaeth troseddau casineb.”