Ewch i’r prif gynnwys

Technoleg newydd i fonitro casineb ar-lein yn erbyn Pwyliaid

6 Awst 2019

Person using laptop

Mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â throsedd casineb gwrth-Bwylaidd yn y cyfnod cyn Brexit.

Mae ymchwilwyr yn y LabordyGwrthGasineb, ym Mhrifysgol Caerdydd, yn gweithio â Labordy Samurai, labordy Deallusrwydd Artiffisial o Wlad Pwyl, i fonitro cynnwys ymosodol ar y cyfryngau cymdeithasol a nodi unrhyw gysylltiadau â digwyddiadau all-lein.

Gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yn y flwyddyn ar ôl y bleidlais Brexit - cynnydd o 57% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.  Yn 2017/18, cofnodwyd 94,098 o droseddau casineb gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr - cynnydd o 17% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Mae mwy na 900,000 o bobl o Wlad Pwyl yn byw yn y DU, sy’n golygu mai nhw yw’r grŵp lleiafrifol mwyaf. Mae astudiaethau peilot a gynhaliwyd gan Labordy Samurai yn dangos bod gan hyd at 5% o’r deunydd sydd wedi’i gyhoeddi am y grŵp hwn ar gyfryngau cymdeithasol y DU ystyr negyddol neu sarhaus.

Mae’r LabordyGwrthGasineb yn ganolfan fyd-eang ar gyfer data a gwybodaeth am fynegi casineb a throseddau casineb. Gan ddefnyddio dulliau gwyddor data, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial (AI) moesegol, cafodd y fenter ei sefydlu er mwyn mesur ac atal casineb ar-lein ac all-lein. Mae’r Dangosfwrdd Mynegi Casineb Ar-lein wedi’i ddatblygu gan academyddion gyda phartneriaid polisi er mwyn achub y blaen ar achosion o droseddau casineb ar y strydoedd.

Meddai’r Athro Matthew Williams, Cyfarwyddwr y LabordyGwrthGasineb ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rydym yn gwybod bod refferendwm yr UE yn 2016 wedi ysgogi ymchwydd mewn mynegiadau o gasineb ar-lein a bod hyn yn cyd-fynd â chynnydd sylweddol mewn troseddau casineb all-lein. Wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd defnyddio’r dulliau deallusrwydd artiffisial mwyaf datblygedig yn hanfodol i helpu’r awdurdodau i adnabod arwyddion rhybuddio a rhoi sicrwydd a diogelwch i’r gymuned o Bwyliaid sy’n byw yma.”

Mae’r algorithmau Deallusrwydd Artiffisial a ddatblygwyd gan Labordy Samurai yn gallu gwahaniaethu rhwng ymddygiad ymosodol ar y we â sylwadau diniwed. Maen nhw hefyd yn gallu nodi mathau penodol o ymddygiad ymosodol. Mae’r nodweddion hyn yn arbennig o bwysig pan fydd angen nodi adegau pan mae cynnwys o’r fath yn cynyddu ar yr un pryd â digwyddiadau all-lein.

Dywedodd Michał Wroczyński, Prif Weithredwr Labordy Samurai: “Yn gyntaf fe wnaethom nodi 8 categori iaith ymosodol sydd wedi’u defnyddio tuag at drigolion y DU sy’n dod o dras Bwylaidd, gan ddechrau â sarhadau a gofyn iddynt fynd adref, i achosion o fygwth bywyd a chymalau.

“Nid yw iaith ymosodol o reidrwydd yn cyfeirio at y tarddiad. Mae’r rhan fwyaf ohono yn eiriau sarhaus a allai gael ei dargedu at unrhyw genedl. Mae digwyddiadau o’r fath yn cynrychioli tua 40% o’r holl achosion.

Mae tua 15% yn gysylltiedig yn agos â Gwlad Pwyl. Mae’r rhain yn ddatganiadau sarhaus yn bennaf sydd wedi’u gwneud am Bwyliaid a Gwlad Pwyl, yn ogystal ag ymadroddion sydd wedi’u fformiwleiddio i fod yn negyddol i ddatganiadau sy’n gysylltiedig â’n gwlad a’n pobl. Dim ond dau i dri y chant o achosion sy’n cyfeirio at ein hanes.

Michał Wroczyński

Dywedodd Gniewosz Leliwa, Cyfarwyddwr Ymchwil Deallusrwydd Artiffisial Labordy Samurai: “Mae’n rhaid i ni fod yn fanwl iawn a gweithio gyda dealltwriaeth gref o’r iaith. Mae allweddeiriau yn sicr yn annigonol. Mae’n bosib i rywun wneud bygythiad y gellir ei gosbi heb ddefnyddio un gair nodweddiadol. “Yn yr un modd, nid yw defnydd o fwlgariaeth yn gysylltiedig â neges ymosodol bob tro. Mae ein system yn gallu deall y cyd-destun ac yn gallu gwahaniaethu rhwng bygythiad go iawn a thrafodaeth gyffredin.”

Mae’r LabordyGwrthGasineb, rhan o Labordy Gwyddorau Data Cymdeithasolrhwng Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg y Brifysgol, wedi’i sefydlu gyda chyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn ogystal ag Adran Cyfiawnder yr Unol Daleithiau. Mae wedi cael  cyfanswm o £1,726,841 o gyllid dros bum prosiect parhaus .

Ychwanegodd yr Athro Williams: “Rydym yn gyffrous iawn i weithio gyda Labordy Samurai. Mae eu dull arloesol wedi cael canlyniadau cywir iawn wrth chwilio am seiberfwlio ac ymddygiad ymosodol ar y we. Rydym am gael llwyddiant tebyg wrth chwilio am ymddygiad ymosodol tuag at leiafrifoedd.

“O ystyried cefndir Pwylaidd Labordy Samurai, gobeithiwn gael gwybodaeth newydd a dealltwriaeth fwy manwl o’r broblem. Bydd y dechnoleg y maent yn ei datblygu yn ffurfio rhan bwysig o’n Dangosfwrdd Ar-lein.