Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd ym myd gwyddoniaeth yn galluogi pobl ifanc i ymchwilio i'w treftadaeth ar ôl gwneud cais llwyddiannus am gyllid

10 Rhagfyr 2019

Dr David Wyatt with pupils from Cardiff West Community High School
Dr David Wyatt gyda disgyblion o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd. Diolch am y llun: Darren Britton, Gwasanaeth Newyddion Cymru

Mae cannoedd o bobl ifanc o ardal sy'n wynebu heriau cymdeithasol ac economaidd ar fin dechrau ar daith o ddarganfyddiadau gwyddonol i'r gorffennol.

Mae'r Curiosity Club, menter newydd gan Brosiect Ailddarganfod Treftadaeth Caerau a Threlái (CAER), wedi bod yn bosibl o ganlyniad i £120,000 o gyllid gan Plant mewn Angen. Bydd dros 300 o bobl ifanc rhwng 10 ac 18 mlwydd oed yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau wythnosol sy'n seiliedig ar wyddoniaeth fydd yn taflu goleuni ar eu hardal leol.

Mae Prosiect CAER yn brosiect cydweithredol rhwng sefydliad datblygu cymunedol ACE - Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, Prifysgol Caerdydd a thrigolion ac ysgolion lleol. Mae'r prosiect yn seiliedig o amgylch un o safleoedd archeolegol pwysicaf, ond mwyaf anhysbys Caerdydd, sef Bryngaer Oes Haearn Caerau.

Gan ddechrau ym mis Ionawr, bydd y Curiosity Club yn cynnal dau weithgaredd allgyrsiol yr wythnos yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd. Yn nes ymlaen yn y flwyddyn, bydd y sesiynau yn symud i Ganolfan Dreftadaeth y Fryngaer Gudd, sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd. Cynigir sesiynau ar Sadyrnau, yn ogystal â digwyddiadau diwrnod o hyd yn ystod gwyliau'r ysgol.

Bydd dau weithiwr ieuenctid penodol yn cyflwyno'r prosiect, a gynhelir dros gyfnod o dair blynedd.

Dywedodd cyd-gyfarwyddwr Prosiect Treftadaeth CAER, Dr Oliver Davis, o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn hynod gyffrous am brosiect Curiosity fydd yn galluogi pobl ifanc i ystyried beth mae ymchwil gwyddonol yn ei olygu, a chael y cyfle i brofi enghreifftiau bywyd go iawn o'r effaith mae'n gallu ei chael.

Rydym eisoes yn gwybod bod gan y bobl ifanc yma botensial gwych. Rydym yn gobeithio y bydd rhoi'r cyfle iddynt ymchwilio i'w treftadaeth leol drwy arbrofion ymarferol yn rhoi'r hyder iddynt fynd ar drywydd eu diddordebau a dangos iddynt eu bod yn gallu llwyddo os ydynt yn canolbwyntio eu hymdrechion.

Dr Oliver Davis Senior Lecturer, CAER Heritage Project Co-director (Study Leave 2022/3 (Semester 1))

Ar y cyd ag academyddion Prifysgol Caerdydd ac arbenigwyr treftadaeth, bydd pobl ifanc yn ymdrin â sawl maes ymchwil gan gynnwys:

Beth oedd pobl yn ei greu: Caiff arteffactau archeolegol a ganfuwyd ym mryngaer Caerau eu dadansoddi. Bydd pobl ifanc yn cael y cyfle wedi hynny i ddysgu sut mae deunyddiau yn dirywio a sut i'w diogelu. Byddant hefyd yn gallu arbrofi gyda thechnegau megis castio metel – ond gan ddefnyddio deunydd mwy diogel – siocled toddedig – i ail-greu arteffactau.

Beth oedd pobl yn ei fwyta: Caiff gweddillion planhigion ac esgyrn o'r fryngaer eu hastudio drwy ddefnyddio dadansoddiad isotop sefydlog – techneg sy'n datgelu cyfansoddiad cemegol fydd yn cynnig cliwiau am y bwyd oedd pobl yn ei fwyta. Defnyddir yr un broses ar wallt pobl ifanc. Bydd y data dienw yn creu'r map dietegol cyntaf erioed o'r gymuned, sy'n deillio o bobl o’r gorffennol a'r presennol.

Amgylcheddau sy'n newid: Caiff paill o wahanol gyfnodau eu dadansoddi er mwyn helpu'r grŵp i ddeall newid yn yr hinsawdd a'r effaith ddynol ar eu hamgylchedd lleol.

Kimberley Jones, CAER Development Officer, with pupils from Cardiff West Community School
Kimberley Jones, Swyddog Datblygu CAER, gyda disgyblion o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd. Diolch am y llun: Darren Britton, Gwasanaeth Newyddion Cymru

Dywedodd Swyddog Datblygu CAER Kimberley Jones: "Nod y prosiect yw dod â phobl ifanc ynghyd mewn man lle caiff cariad at ddysgu ei feithrin, ac fe'u hanogir i ystyried, herio a thrafod syniadau.

Mae'r prosiect yn adeiladu ar ystod o gyrsiau sy'n seiliedig ar y dyniaethau sydd eisoes wedi'u cynnal yn y gymuned. Mae'n cyd-fynd â'r gwaith rydym yn ei wneud i ymgorffori Prosiect CAER o fewn cwricwla ysgolion lleol, drwy sesiynau a gynhelir ar ôl ysgol, ar benwythnos ac yn ystod gwyliau ysgol.

Kimberley Jones

"Mae'r prosiect yn adeiladu ar ystod o gyrsiau sy'n seiliedig ar y dyniaethau sydd eisoes wedi'u cynnal yn y gymuned. Mae'n cyd-fynd â'r gwaith rydym yn ei wneud i ymgorffori Prosiect CAER o fewn cwricwla ysgolion lleol, drwy sesiynau a gynhelir ar ôl ysgol, ar benwythnos ac yn ystod gwyliau ysgol."

Roedd Jamie Hayes, 17, sydd wedi gwirfoddoli gyda phrosiect Treftadaeth CAER ers cryn amser, yn aelod o’r panel cyfweld ar gyfer y gweithwyr ieuenctid. Roedd Cyfarwyddwr ACE, John Hallett, Ymddiriedolwr ACE, Marian Dixey, a Swyddog Datblygu CAER, Kimberley Jones, ar y panel hefyd.

Meddai: “Rydw i wrth fy modd fy mod yn gysylltiedig â Threftadaeth CAER. Fe soniodd fy mam amdano flynyddoedd maith yn ôl ac rydw i wedi chwarae rhan ers hynny. Roedd bod yn rhan o’r panel cyfweld yn brofiad gwych. Erbyn hyn, rydw i’n gwybod beth i’w ddisgwyl pan fydda i’n cael cyfweliadau am swyddi yn dyfodol, ac rydw i’n gwybod bod fy nghyfraniad at y prosiect wedi bod yn werthfawr.

Ychwanegodd: “Mae’r Curiosity Club yn mynd i fod yn llawer o hwyl i bawb sy’n mynd i fod yn rhan ohono. Rydw i’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y gweithgareddau.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.