Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd dysgu newydd ar gyfer Prosiect Treftadaeth CAER

4 Medi 2018

Oliver Davis

Mae Prifysgol Caerdydd wedi atgyfnerthu ei hymrwymiad i brosiect treftadaeth gyda chyfres o gyfleoedd addysgol newydd, mewn cymuned yn ne Cymru sy'n wynebu heriau cymdeithasol ac economaidd.

Mae Prosiect Treftadaeth Trelái a Chaerau (CAER) yn brosiect cydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd, sefydliad datblygu cymunedol Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE) a thrigolion ac ysgolion lleol. Mae'r prosiect yn seiliedig o amgylch un o safleoedd archeolegol pwysicaf, ond mwyaf anhysbys Caerdydd, Bryngaer Oes Haearn Caerau. Mae'n cynnwys pobl leol o bob oed yn creu gwybodaeth newydd am eu hanes a rennir, wrth helpu i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd sylweddol sy'n wynebu cymunedau ar hyn o bryd.

Drwy gytundeb cyllideb pum mlynedd newydd, o 2019 ymlaen, bydd disgyblion ysgol ac oedolion o'r gymuned yn gallu cyflwyno cais am nifer o ysgoloriaethau yn y Brifysgol. Bydd disgyblion o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn gallu cyflwyno cais am ysgoloriaethau ar gyfer pedair gradd, a bydd wyth ysgoloriaeth i oedolion sy'n dysgu er mwyn darparu cyfleoedd datblygu hygyrch i raddau trwy fenter Prifysgol Caerdydd Llwybr at Radd.

Yn ddiweddar, penodwyd Dr Oliver Davis, o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, yn gyfarwyddwr ac archeolegydd y prosiect, am gyfnod o bum mlynedd. Bydd yn gyfrifol am greu cyfleoedd bywyd newydd i bobl leol drwy archwilio treftadaeth. Bydd yn cydweithio'n agos â grwpiau cymunedol ac ysgolion o'r ardal, yn ogystal â gwneud cais am ragor o arian i wella seilwaith bryngaer Caerau a’r dehongliad o’r lleoliad.

CAER site

Mae'r prosiect eisoes wedi mynd ymlaen i'r ail gam yn y broses o wneud cais am arian Loteri Treftadaeth. Os bydd y cais yn llwyddiannus, caiff yr arian ei ddefnyddio i ddatblygu'r ardal yn atyniad cwbl weithredol dan reolaeth y gymuned. Mae'r cynlluniau yn cynnwys ailddatblygu hen Neuadd Efengylu ar Church Road yn ganolfan treftadaeth gymunedol, creu rhwydwaith o lwybrau o amgylch bryngaer Caerau ac atgyfnerthu adfeilion Eglwys y Santes Fair.

Bydd y bartneriaeth agos sy'n meithrin gydag Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd hefyd yn gweld ystafell Dreftadaeth CAER yn eu hysgol newydd sydd werth £30m ac sy'n agor yn 2019. Mae hyn yn galluogi cynnal ymchwil prifysgol a gweithgareddau dysgu yn uniongyrchol mewn lleoliad ystafell ddosbarth ysgol uwchradd, a thrwy hynny yn diddymu'r rhwystrau rhag symud ymlaen i addysg uwch. Bydd Dr Davis yn gweithio'n agos gydag ysgolion cynradd lleol i ddatblygu gwersi sy'n cyflwyno cyfoeth o hanes ac archaeoleg yr ardal leol.

Dywedodd Dr Davis, a gyd-sefydlodd y prosiect Treftadaeth CAER yn 2011: "Rydym mewn cyfnod cyffrous iawn ac wedi dod yn bell ers y dyddiau cynnar. Dylai'r gymuned fod yn falch o'r hyn mae wedi ei gyflawni hyd yma. Drwy ein hymrwymiad ag ysgolion a'r gymuned ehangach, rydym eisoes yn dangos sut gall y broses ymchwil helpu i ddarparu cyfleoedd dysgu a llwybrau sy'n arwain pobl i'r brifysgol a thu hwnt.

Mae buddsoddiad y Brifysgol yn y prosiect yn dilyn chwe blynedd o bartneriaeth adeiladu lwyddiannus a mentrau arloesol archeolegol a hanesyddol sydd wedi ennill nifer o wobrau'r DU, gan gynnwys yng Ngwobrau Times Higher Education 2017 yn ddiweddar pan enillodd y categori 'Cyfraniad Rhagorol i'r Gymuned'.

Dywedodd Dave Horton, Rheolwr Datblygu ACE: "Mae gan gymuned Caerau a Threlái lawer o elfennau o'i phlaid, yn enwedig ymdeimlad sylweddol o falchder lleol ac ysbryd cymunedol ynghyd â safleoedd treftadaeth rhyfeddol a hanes cysylltiedig. Mae prosiect Treftadaeth CAER wedi bod yn hynod lwyddiannus yn uno'r ddau ffactor hyn i greu cyfleoedd newydd ac i roi treftadaeth yng nghanol datblygiad cymuned leol.

"Mae partneriaeth ACE gyda Phrifysgol Caerdydd yn parhau i ddwyn ffrwyth ac wedi arwain at y cynlluniau cyffrous hyn ar gyfer y dyfodol.  Mae ymrwymiad y Brifysgol i ariannu swydd Cyfarwyddwr ac Archeolegydd y Prosiect am bum mlynedd, ynghyd â buddsoddiad sylweddol dros ben mewn ysgoloriaethau ar gyfer oedolion a phobl ifanc lleol, yn dod â ni gam yn nes at wireddu breuddwydion, a bydd yn sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer dysgu yn lleol yn parhau i fod yn ganolog i'r prosiect."

Yn rhan o'i chenhadaeth ddinesig, mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau i hybu cydlyniad cymdeithasol a gwella lefelau iechyd, cyfoeth a lles.

Bydd rhagor o wybodaeth am yr ysgoloriaethau yn cael eu cyhoeddi yn yr Hydref. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect CAER, ewch i: https://caerheritageproject.com/

Rhannu’r stori hon