Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect cymunedol £1.65m am ddatgelu safle hanesyddol 'cudd' 6,000 o flynyddoedd oed yng Nghaerdydd

22 Mawrth 2019

Artist impression of CAER Heritage Centre
Image credit: Gillard Associates

Mae cymuned yn ne Cymru ar fin cynnal prosiect adfywio treftadaeth mawr ar ôl cael dyfarniad sylweddol o arian gan y Loteri Genedlaethol.

Mae Prosiect Ailddarganfod Treftadaeth Trelái a Chaerau (CAER) yn brosiect cydweithredol rhwng y sefydliad datblygu cymunedol ACE - Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, Prifysgol Caerdydd a thrigolion ac ysgolion lleol. Mae'r prosiect yn seiliedig o amgylch un o safleoedd archeolegol pwysicaf, ond mwyaf anhysbys Caerdydd, sef Bryngaer Oes Haearn Caerau.

Yn dilyn cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd ACE yn cael £829,000 ar gyfer y prosiect i drawsnewid yr ardal yn atyniad treftadaeth a gynhyrchwyd gan y gymuned, drwy Brosiect y Fryngaer Gudd. Mae Prifysgol Caerdydd yn bartner gweithredol yn y prosiect, fydd yn costio dros £1.6m; cafwyd cefnogaeth sylweddol arall i ACE, First Campus, Tai Wales and West, Cymdeithas Archeolegol Caerdydd a Sefydliad Moondance.

Yn rhan o'r prosiect, bydd cymunedau'n curadu, yn gwarchod ac yn cyflwyno Bryngaer Caerau – heneb fu unwaith yn ganolfan pŵer Caerdydd, gyda hanes sy'n ymestyn 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Gan weithio gyda phartneriaid prosiect sy'n cynnwys Amgueddfa Stori Caerdydd ac Amgueddfa Cymru, ei nod yw denu 50% yn rhagor o ymwelwyr dros y tair blynedd nesaf.

Mae'r canlynol ymhlith y cynlluniau:

  • Ailddatblygu'r hen Neuadd Efengylu ar Church Road yn Ganolfan Dreftadaeth y Fryngaer Gudd, fydd yn gweithredu fel porth i'r heneb. Bydd y man aml-ddefnydd i grwpiau cymunedol yn gweithredu’n hyb ar gyfer rhaglen o archwiliadau archaeolegol a gynhelir gyda’r gymuned. Bydd y bartneriaeth yn galluogi pobl i fagu sgiliau newydd a gwybodaeth newydd am eu hardal leol. Bydd yr adeilad yn gartref i gaffi dros dro, toiledau a man teras ac yn cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau a arweinir gan y gymuned;
  • Cyfres o lwybrau treftadaeth hygyrch ochr yn ochr ag ystod o gynnwys amlgyfrwng a gynhyrchwyd ar y cyd, er mwyn hysbysu pobl am y safle;
  • Dylunio man chwarae’r Bryn Cudd a’i osod ar bwys y ganolfan newydd;
  • Datblygu gerddi, clirio llystyfiant a rheoli coetir er mwyn hwyluso cadwraeth a chynaliadwyedd. Hefyd, cynhelir gwaith i gynnal a chadw adfeilion Eglwys Santes Fair.

Disgwylir i waith ar y ganolfan dreftadaeth a’r ardal o’i hamgylch ddechrau yn yr haf. Ar ben hynny, bydd y prosiect yn cyflwyno rhaglen tair blynedd o ymchwil barhaus a gwaith darganfod treftadaeth fydd yn dod ag arbenigedd Prifysgol Caerdydd i galon y cymunedau hyn, gyda hyfforddiant, cynnydd a chyfleoedd am swyddi i oedolion a disgyblion ysgol. Bydd y prosiect yn gweithio’n agos gydag Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, er mwyn ymgorffori hanes cyfoethog y Fryngaer yn y cwricwla lleol.

Yn y Senedd, llongyfarchodd y Prif Weinidog Mark Drakeford brosiect CAER ar ei gais llwyddiannus am gyllid, ynghyd â’i gysylltiadau ag Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.  Meddai: “Bydd y gwaith archaeolegol a gynhelir ar y safle arbennig hwnnw yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc nad ydynt wedi cael llawer ohonynt hyd yn hyn.”

Crowd on CAER hillfort site

Dywedodd Kimberley Jones, Swyddog Datblygu Bryngaer Gudd ACE: “Mae ACE am feithrin cymunedau bywiog, teg a gwydn i bawb, lle gall pobl fod yn falch o’u hunain, ei gilydd a’u hardal leol.  Mae prosiect y Fryngaer Gudd yn rhoi’r weledigaeth hon ar waith. Mae pobl a disgyblion ysgol lleol wedi bod ar flaen y gad o ran cyd-ddatblygu a chyd-gynhyrchu cynlluniau cyffrous ar sail ysbrydoliaeth o fryngaer anhygoel Caerau.

“Bydd prosiect y Fryngaer Gudd yn cyflwyno amrywiaeth helaeth o gyfleoedd i bobl leol gymryd rhan ar bob lefel. Byddant yn rhan o gydweithrediad, yn magu sgiliau a hyder, ac yn chwalu rhwystrau. Mae Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn agor drysau ei hysgol newydd sbon ymhen llai na phythefnos, ac ni allai amseru’r prosiect fod yn well. Mae’r Fryngaer Gudd wedi’i ymgorffori yn y cwricwlwm. Mae Ystafell CAER yn yr ysgol ac mae Prifysgol Caerdydd wedi noddi ysgoloriaethau ar gyfer nifer o ddisgyblion.

Rydym wrth ein boddau yn gweld Trelái a Chaerau’n cael cydnabyddiaeth am eu hasedau, eu talentau a’u hysbryd cymunedol. Mae’r llwyddiant i gael dyfarniad gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn perthyn i’r gymuned gyfan.

Kimberley Jones

Dywedodd Dr Dave Wyatt o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd, a helpodd i sefydlu’r prosiect wyth mlynedd yn ôl: “Mae’r grant hwn yn benllanw ar flynyddoedd o waith caled ac ymdrechion anhygoel gan bobl leol i ddarganfod ac arddangos eu treftadaeth. Mae Caerau a Threlái yn gymunedau gwych, yn llawn talent heb ei gyffwrdd, sydd â threftadaeth sy’n adrodd hanes Cymru ers y Neolithig.

“Rydym eisiau i bobl o Gymru a’r byd cyfan ymweld â’r lle a’r cymunedau anhygoel hyn i ddarganfod eu gorffennol hynod ddiddorol. Mae ein prosiect yn brawf bod ymchwil a hyrwyddo gwybodaeth yn gallu cynnwys pobl o bob oedran a chreu cyfleoedd anhygoel i gymunedau.”

Ychwanegodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Gyda chymorth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd pobl leol bellach yn gallu ailddarganfod eu ‘bryngaer gudd’ ac ailgysylltu ag e. Byddant yn dysgu am bwysigrwydd y safle wrth ddod â’r gymuned at ei gilydd. Ar hyn o bryd, mae’r darn hwn o hanes yn anhysbys gan fwyaf, er ei fod ym milltir sgwâr y cymunedau. Rydym yn wrth ein boddau yn chwarae rhan mewn newid hynny a sicrhau dyfodol y safle.”

Meddai Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan: “Llongyfarchiadau mawr i ACE a Phrosiect CAER ar eu llwyddiannau parhaus, sy’n adlewyrchu angerdd ac ymrwymiad y bobl leol. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau yn ne Cymru fel y gallant wireddu eu potensial llawn. Edrychaf ymlaen at weld y prosiect yn mynd o nerth i nerth.”

Rhannu’r stori hon