Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid yn cynorthwyo cyn-fyfyriwr i ddychwelyd i Gaerdydd

28 Hydref 2019

Mae Rongqiu Song (MSc Trafnidiaeth a Chynllunio 2017) wedi dychwelyd i'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio i ddilyn ei hastudiaethau PhD ar ôl sicrhau Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Ymchwil Cyngor Ysgoloriaethau Tsieina Prifysgol Caerdydd 2019.

Caiff yr ysgoloriaeth uchel ei bri a chystadleuol hon ei dyfarnu ar y cyd gan y Brifysgol a Chyngor Ysgoloriaethau Tsieina (CSC) gyda'r Brifysgol yn hepgor y ffioedd dysgu a'r CSC yn cyllido costau byw am hyd at bedair blynedd.

Yn ogystal â'i MSc mewn Trafnidiaeth a Chynllunio, mae gan Rongqiu radd BSc mewn Peirianneg Rheoli o Brifysgol Tianjin Chengjian yn Tsieina ac MSc mewn Technoleg a Rheoli o Brifysgol Chongqing Jiatong, Tsieina.

"Roedd dychwelyd i Brifysgol Caerdydd i ddilyn fy astudiaethau PhD yn teimlo fel penderfyniad naturiol o ystyried mai fy nghyfnod yma fel myfyriwr meistr sbardunodd fy niddordeb, ac a ddatblygodd fy nealltwriaeth o ddadansoddi ymddygiad teithio sylfaenol. Ar gyfer fy nhraethawd ymchwil PhD fy nod yw archwilio ymhellach i ymddygiad teithio. Byddaf yn astudio natur ac effaith technolegau a moddau trafnidiaeth newydd sy'n ymddangos, fel cerbydau trydan. Y nod yw deall yn well sut y gallai'r technolegau hyn fod yn rhan o ddatrysiad effeithlon er mwyn i'r sector trafnidiaeth allu ymdrin â newid yn yr hinsawdd a chynhesu byd-eang."

Caiff Rongqiu ei goruchwylio yn ystod ei hastudiaethau PhD gan Dr Dimitris Potoglou, Uwch-ddarlithydd mewn Trafnidiaeth a Dadansoddi Dewis Cymwysedig. Dr Potoglou hefyd yw Cyfarwyddwr Rhaglen MSc yr Ysgol mewn Trafnidiaeth a Chynllunio.

"Mae'n bleser croesawu Rongqiu yn ôl i Gaerdydd, ac i'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio. Roedd hi'n fyfyriwr meistr rhagorol a gynhyrchodd ymchwil feddylgar, heriol a gwreiddiol felly rwyf i'n edrych ymlaen at weithio gyda hi eto wrth iddi ddatblygu a symud ymlaen gyda'i thraethawd ymchwil PhD."

Dr Dimitris Potoglou Darllenydd

Mae'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn cynnig amgylchedd colegol, cefnogol a thrylwyr i astudio am PhD. Mae'n uchel ei pharch am ansawdd ac effaith ei hymchwil, gan helpu i drawsnewid pobl a llefydd yn fyd-eang. Yn ymarfer ymchwil diweddaraf y llywodraeth (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014) gosodwyd yr Ysgol yn y deg uchaf yn y DU am ansawdd ymchwil.

.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.