Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr o'r UDA i ffisegydd o Gaerdydd

25 Hydref 2019

Bernard Schutz

Mae'r Athro Bernard Schutz wedi cael gwobr nodedig gan Gymdeithas Ffiseg America ar gyfer ei waith "arloesol a phwysig" yn canfod signalau tonnau disgyrchol.

Mae'r Athro Schutz, o Ysgol Ffiseg ac Astronomeg y Brifysgol, wedi cael Gwobr Richard A. Isaacson mewn Gwyddoniaeth Tonnau Disgyrchol ochr yn ochr â Bruce Allen o'r Sefydliad Max Planck ar gyfer Ffiseg Ddisgyrchol.

Mae'r wobr, sy'n cynnwys rhodd ariannol o $5,000, yn cydnabod cyfraniadau rhagorol mewn ffiseg tonnau disgyrchol, astroffiseg tonnau disgyrchol, a'r technolegau sy'n hwyluso'r ymdrechion hyn.

"Rydw i'n falch iawn bod Cymdeithas Ffiseg America yn cydnabod ein cyfraniadau hirdymor i  ddadansoddi data tonnau disgyrchol," dywedodd yr Athro Schutz, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data cyntaf Prifysgol Caerdydd.

Mae seryddiaeth gyda thonnau disgyrchol angen offerynnau sensitif a dulliau dadansoddi data sydd yr un mor sensitif ac effeithiol. Mewn gwirionedd, dadansoddi data yw hanner arall y systemau canfod sy'n creu'r canlyniadau gwyddonol. Mae ei ddatblygiad wedi mynd law yn llaw â datblygiad caledwedd ers y 1980au.

Yr Athro Bernard Schutz Darlithydd

Mae'r Athro Schutz wedi datblygu egwyddorion pwysig ar gyfer arsylwi ar y Bydysawd gyda  thonnau disgyrchol sy'n chwarae rôl flaenllaw yn natblygiad arsyllfeydd tonnau disgyrchol sy'n seiliedig ar y ddaear a'r gofod.

Dechreuodd ei waith ar ddadansoddi data tonnau disgyrchol yn y 1980au lle gwnaeth y dadansoddiad cyd-drawol cyntaf o ddata a gymerwyd o ddau ymyriadur prototeip ym 1990, gan ddangos fersiynau cynnar o'r dulliau sy'n parhau i gael eu defnyddio heddiw.

Mae hefyd wedi arloesi gyda'r defnydd o uwchgyfrifiaduron i ddatrys hafaliadau maes Einstein ac astudio tyllau duon.

Cafodd ei waith yn dangos sut i fesur pellteroedd at ffynonellau tonnau disgyrchol, a defnyddio hyn i fesur y cysonyn Hubble, ei anrhydeddu gan Fedal Eddington y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, yn ogystal â chael ei ethol i Academi Genedlaethol y Gwyddorau UDA yn 2019.

Ar ôl 21 mlynedd ym Mhrifysgol Caerdydd, ef oedd un o'r cyfarwyddwyr sefydlol Sefydliad Max Planck ar gyfer Ffiseg Ddisgyrchol (Sefydliad Albert Einstein; AEI) yn Potsdam ym 1994 a chwaraeodd rôl fawr yn adeiladu'r sefydliad tan iddo ymddeol a dychwelyd i Gaerdydd yn 2014.

Mae'r Athro Schutz yn aelod blaenllaw o Sefydliad Archwilio Disgyrchiant Prifysgol Caerdydd, sy'n rhan o Brosiect Gwyddonol Cydweithredol LIGO ac mae wedi gwneud cyfraniadau allweddol i faes canfod tonnau disgyrchol.