Arweinyddiaeth academaidd newydd ar gyfer SPARK
24 Medi 2019
Mae'r Athro Chris Taylor wedi'i benodi'n gyfarwyddwr academaidd newydd Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) Prifysgol Caerdydd.
Mae’r Athro Taylor yn dod â phrofiad sylweddol i SPARK oherwydd ei rolau fel Athro'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd ac fel Cyd-gyfarwyddwr Caerdydd Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru, Data a Dulliau (WISERD).
Fel un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous ym maes gwyddorau cymdeithasol y DU – a pharc ymchwil cyntaf y byd i'r gwyddorau cymdeithasol – mae SPARK yn adeiladu ar y rhagoriaeth sydd wedi gwneud Prifysgol Caerdydd yn sefydliad blaenllaw ar gyfer ymchwil a arweinir gan wyddoniaeth gymdeithasol, gyda ffocws ar ymchwil arloesol sy'n cael effaith gymdeithasol drawsnewidiol.
I’w lleoli mewn cartref pwrpasol ar Gampws Arloesedd y Brifysgol ochr yn ochr â phartneriaid allanol o amrywiaeth o sectorau, mae’r sbardun yn ysgogi cysylltiadau rhwng deg endid ymchwil mewn prifysgolion sy’n cael effaith.
Wrth ymgymryd â’r rôl, amlinellodd yr Athro Taylor y weledigaeth ar gyfer SPARK: “Rydym am greu amgylchedd ymchwil unigryw ac arloesol sy’n annog dulliau arloesol o ymdrin â’r nifer fawr o 'broblemau dyrys' sy’n ein hwynebu’n lleol, yng Nghymru, ledled y DU ac yn rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys y nod i gryfhau partneriaethau amlddisgyblaethol rhwng y gwyddorau cymdeithasol, ffisegol a biolegol ar draws y Brifysgol...”
Dywedodd yr Athro Rick Delbridge, Ysgol Busnes Caerdydd, a arweiniodd y gwaith o sefydlu SPARK: “Rydw i wrth fy modd bod Chris yn ymgymryd â rôl cyfarwyddwr academaidd SPARK. Mae'n wych bod gennym rywun mor abl ac ymrwymedig â Chris i arwain SPARK drwy'r cam nesaf o'i ddatblygiad. Rydw i'n falch iawn o'r hyn sydd wedi'i gyflawni hyd yn hyn ac rwy’n falch o weld bod SPARK mewn dwylo diogel.”
Ar ôl cwblhau ei PhD ym Mhrifysgol Caerlŷr, ymunodd yr Athro Taylor â Phrifysgol Caerdydd fel cydymaith ymchwil yn ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym mis Ionawr 2000. Daeth yn Athro yn 2012 ac ymgymerodd â’r rôl Cyd-gyfarwyddwr yn WISERD y flwyddyn ganlynol. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi bod yn rhan o dros 40 o brosiectau ymchwil a ariannwyd gwerth dros £35 miliwn. Mae’n un o brif rai sy’n arwain ymchwil rhyngddisgyblaethol a dulliau cymysg yn y DU ac mae wedi cyhoeddi’n helaeth mewn ystod eang o ddisgyblaethau.
Mae ganddo hefyd brofiad helaeth o weithio gyda sefydliadau anacademaidd, yn enwedig gyda’r Llywodraeth, elusennau a chyrff cyllido, sydd wedi golygu bod llawer o’r ymchwil hon wedi cael effaith uniongyrchol ar bolisi ac ymarfer. Yn 2017 cafodd ei gyfraniad i ymchwil addysgol yng Nghymru ei gydnabod gyda medal gyntaf Hugh Owen gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac fe’i gwnaed yn Gymrawd o’r Gymdeithas yn 2018.
Dywed yr Athro Damian Walford Davies, Rhag Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, am y penodiad: “Fe wnaethon ni chwilio am unigolyn eithriadol i roi arweiniad i SPARK ac mae Chris yn ffitio’r rôl yn berffaith. Wrth wraidd SPARK mae’r syniadau o gyd-greu a chydweithio: pobl yn gweithio gyda’i gilydd ar draws disgyblaethau academaidd a chydag ymarferwyr ar draws sectorau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector i fynd i’r afael â rhai o anghenion mwyaf taer cymdeithas.
“Fel Cyfarwyddwr academaidd, cylch gwaith Chris fydd cyflawni’r uchelgeisiau hyn - i gefnogi datblygiad ymchwil sy’n trawsnewid bywydau; sefydlu partneriaethau newydd rhwng y Brifysgol a sefydliadau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector sy’n bartneriaid yn y trawsnewidiad hwnnw; a sicrhau bod SPARK yn cysylltu’n gyffrous ag ymchwil, addysgu a phrofiad y myfyriwr ar draws y brifysgol.”
Bydd SPARK mewn adeilad 12,000 metr sgwâr newydd. adeilad sydd i fod i agor yng ngwanwyn 2021. Bydd y ganolfan a’i gweithgarwch yn ganolog i Gampws Arloesi y Brifysgol gwerth £300m, ynghyd â chlystyrau ymchwil sy’n arwain y byd mewn niwrowyddoniaeth, lled-ddargludyddion cyfansawdd, iechyd meddwl a chatalysis.