Ewch i’r prif gynnwys

Grisiau arbennig yn cael eu gosod yng Nghampws Arloesedd Caerdydd

4 Medi 2019

Oculus stairs installation

Mae grisiau Oculus, y cyntaf o'u math yn y DU, yn cael eu gosod yng Nghampws Arloesedd blaengar Prifysgol Caerdydd.

Mae Bouygues UK, y cwmni sy'n adeiladu'r Campws Arloesedd, yn gweithio gyda Taunton Fabrications i ddylunio a gosod y grisiau, sy'n risiau agored a cherfluniol sy'n teithio drwy wagle gogwyddol. Daw'r enw o'r dyluniad oculus; darlun o lygad sy'n galluogi golau i lifo mewn i ofod.

Nod grisiau Oculus, sydd wedi'u dylunio gan y penseiri Hawkins\Brown, yw annog ymgysylltu a chydweithio rhwng amryw adrannau a dibenion yr adeilad. Mae'n dechrau ar y llawr gwaelod fel grisiau cymdeithasol, ac yn ffurfio parthau trafod mewn grwpiau ar bob lefel, sy'n cael eu curadu'n wahanol, ac yn dyfod yn lleoedd i ddefnyddwyr ar loriau eraill. Gellir hefyd ddod atynt drwy'r lifft a fydd gerllaw.

Mae disgwyl i risiau Oculus fod yn brif addurn yn y Ganolfan Arloesedd ac mae'r gwaith o'u gosod yn garreg filltir fawr yn y prosiect. Mae Bouygues UK a Phrifysgol Caerdydd yn trawsffurfio hen iard rheilffordd yn gampws o'r radd flaenaf ar gyfer ymchwil a arweinir gan y gwyddorau cymdeithasol, swyddi uwch-dechnoleg a busnesau newydd gweithredol, ac arbenigedd pellach mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Bydd yr adeilad Arloesedd Canolog yn gartref i barc ymchwil cyntaf y byd ym maes y gwyddorau cymdeithasol, gan ddod ag ymchwilwyr, ymarferwyr a llunwyr polisi blaenllaw ynghyd i un lleoliad.

Dywedodd yr Athro Damian Walford Davies, Rhag Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: "Mae grisiau oculus yn ymgorffori gwerthoedd ac ethos adeilad Arloesedd Canolog mewn ffurf ymarferol: mae'n llwybr cysylltiedig dynamig, gyda – fel mae'r enw'n ei awgrymu – llygad ar agor i'r byd allanol."

Dywedodd Justin Moore, Cyfarwyddwr Gweithredu ar gyfer Bouygues DU yng Nghymru, ac arweinydd prosiect ar Gampws Arloesedd Caerdydd: "Rydym wrth ein bodd yn dod â'r grisiau Oculus cyntaf yn y DU i Gaerdydd. Yr hyn sydd mor ddiddorol am yr adeilad hwn yw bod ei gynllun wedi'i ddylunio yn seiliedig ar weithgareddau yn hytrach nag ar adrannau – mae lleoliad fel hwn yn gofyn am nifer o wahanol amgylcheddau, o fannau tawel ar gyfer y cyfleuster data diogel i lawr gwaelod sy'n fwrlwm o brysurdeb.

"Mae'r Oculus yn ganolog i hyn gan fod mwy o leoedd preifat, diogel ymhellach i ffwrdd o'r grisiau ac yna cynllun agored / parthau trafod mewn grwpiau o'u hamgylch. Mae'n ddyluniad gwych, sy'n tynnu sylw ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld y grisiau gorffenedig yn eu holl ysblander."

Ychwanegodd Justin: "Mae egwyddor y grisiau oculus yn ei gwneud hi'n anodd ei hadeiladu gan nad yw'r grisiau wedi'u gosod yn uniongyrchol uwchben ei gilydd, fel sy'n wir am risiau arferol, ond wedi'u gwrthbwyso ar bob un o lefelau'r llawr. Mae nifer o ddulliau gosod wedi'u hadolygu dros y misoedd i feddwl am y ffordd orau o osod y grisiau yn ofalus ac yn ymarferol.

"I ddechrau, roedd pob gris yn mynd i gael ei osod ar ôl i'r lloriau concrid gael eu hadeiladu gan ddefnyddio craeniau corryn, ond fe fyddai hynny wedi golygu bod llawer o arwynebedd y llawr o amgylch y grisiau wedi'u gorchuddio â propping, gan ohirio'r gwaith terfynol ar y tu fewn.

"Penderfynodd Bouygues DU osod pob gris ar ôl i bob slab y llawr gael eu hadeiladu, ac yna adeiladu'r llawr nesaf uwchben y grisiau gyda chyfluniad hollti o weithiau dros dro wedi'u dylunio gan y contractwr grisiau, Taunton Fabrications a'r Contractwr ffrâm RC, 4D Structures. Caiff hyn ei wneud ar bob llawr. Mae'n brosiect adeiladu cymhleth a chyffrous."

I gael rhagor o wybodaeth am Gampws Arloesedd Caerdydd, ewch i https://www.cardiff.ac.uk/innovation/campus-investment

https://www.youtube.com/watch?time_continue=6&v=WVGW6KJaOsM

Rhannu’r stori hon

Rydym yn datblygu’r campws ar hyn o bryd yn rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf ar y campws ers cenhedlaeth - buddsoddiad o £600m yn ein dyfodol.