Ewch i’r prif gynnwys

Adeiladu Caerdydd Creadigol

6 Mehefin 2019

Colorful balls with text laid over

Mae gweithwyr proffesiynol o fenter gwerth miliynau o bunnoedd yn cynnwys tair prifysgol wedi cyflwyno eu gweledigaeth i sbarduno arloesedd yn y diwydiannau sgrîn yn Sesiwn Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd ddydd Iau 6 Mehefin 2019.

Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Clwstwr yn rhaglen ymchwil a datblygu uchelgeisiol dros bum mlynedd sydd â'r nod o greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd i hybu'r sector yn ne Cymru.

Dechreuodd y sesiwn hysbysu dros frecwast gyda chyflwyniad gan Sara Pepper, Prif Swyddog Gweithredu Clwstwr, a amlinellodd y cyd-destun y mae’r fenter yn gweithredu ynddo.

Ffenomen fyd-eang

Esboniodd sut yr adroddir ar dwf y sector diwydiannau creadigol yn fwy eang heddiw, sydd wedi arwain at economegwyr, y cyfryngau, llywodraethau a rhanddeiliaid eraill yn ystyried y math ehangach hwn o waith a’r ymddygiad galwedigaethol fel y diwydiannau creadigol.

“Ffenomen fyd-eang yw hon, nid yn y DU yn unig. Felly, rydym yn gyson yn siarad â sefydliadau ym mhedwar ban byd lle mae llywodraethau’n buddsoddi yn y sector.”

Parhaodd Sara drwy ystyried effaith y twf hwn ar ddatblygiad economi greadigol. Esboniodd sut arweiniodd diddordeb a rennir yn y syniad hwn, ymhlith cydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Justin Lewis a’r Athro Ian Hargreaves, at ffurfio Caerdydd Creadigol i astudio a deall yr economi greadigol yn well.

O’r rhwydwaith a ddeilliodd o Gaerdydd Creadigol, gwelwyd bod angen rhywbeth mwy. Wedi’i galluogi gan Strategaeth Diwydiannol Llywodraeth y DU a lansio Diwydiannau Creadigol: Bargen y Sector, daeth Caerdydd yn un o naw Rhaglen Clwstwr Diwydiannau Creadigol.

Ymchwil a datblygu

Aeth Ruth McElroy, Athro Diwydiannau Creadigol a Phennaeth Ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru, ymlaen i amlinellu nodau ac amcanion menter Clwstwr.

Dywedodd: “Mae ein gweithgarwch ni’n canolbwyntio ar ymchwil a datblygu, a’r hyn rydym ni’n ceisio ei wneud yw adeiladu a gwella ecosystem go iawn ar gyfer y sector sgrîn.”

Yn erbyn y rhagdybiaethau mai ymarfer gwyddonol yn unig yw ymchwil a datblygu, esboniodd yr Athro McElroy uchelgais Clwstwr, sef cefnogi sefydliadau sy’n dechrau ar eu teithiau ymchwil a datblygu. Bydd y fenter yn cyflawni hwn drwy gyfnewid gwybodaeth, yr ymchwil sydd ar gael, seilwaith, arian, prosiectau cydweithredol, rhwydweithio a digwyddiadau.

Parhaodd yr Athro McElroy ei chyflwyniad drwy roi cipolwg ar y rheswm y dewisodd Clwstwr ganolbwyntio ar y sector ffilm a theledu.

Mae heriau a chyfleoedd i Gymru o ganlyniad i’r twf hwn oherwydd maint a sgiliau’r gweithlu i fentrau ariannol i gynhyrchu fel yr amlinellodd yr Athro McElroy yn ei chasgliad.

Sbarduno arloesedd

Taflodd y cyflwyniad olaf, gan Jarred Evans, Cyfarwyddwr Canolfan Dylunio ac Ymchwil Ryngwladol PDR ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, oleuni ar ddull arfaethedig Clwstwr i sbarduno arloesedd yn niwydiannau sgrîn de Cymru.

Amlinellodd Jarred sut mae PDR yn arbenigo mewn arloesedd sy’n rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf. Mae’r sefydliad yn gweithio gydag ystod o gwsmeriaid i symleiddio prosesau arloesi drwy ddeall defnyddwyr, dylunio a phrototeipio, profi a lansio cynhyrchion a gwasanaethau.

Trwy gydol cylch bywyd prosiect Clwstwr, mae PDR yn gobeithio cyflwyno’r lefel bwrpasol hon o gymorth i arloesedd sefydliadol, fel bod canlyniadau eu teithiau’n arwain at allbwn â ffocws mwy priodol, priodol a llwyddiannus yn fasnachol.

Cafwyd sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniadau, lle aeth aelodau’r panel i’r afael â phryderon ynghylch cysylltedd, technoleg, gwleidyddiaeth, polisi, addysg a chyflogaeth.

Rhwydwaith yw'r gyfres Sesiynau Hysbysu Brecwast Addysg Weithredol sy'n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil diweddaraf a datblygiadau allweddol gan bartneriaid diwydiannol.

Os nad oeddech yn gallu dod, edrychwch ar ein ffrwd fyw o’r digwyddiad.

Mae’r sesiwn hysbysu nesaf ynghylch Prosiect Metro De Cymru ddydd Mercher 10 Gorffennaf 2019, a bydd yr Athro Mark Barry a Colin Lea yn adolygu’r cynnydd hyd yma, a’r cyfleoedd sy’n bodoli y tu hwnt i’r cynlluniau a ariannwyd.