Ewch i’r prif gynnwys

Mae technolegau digidol yn allweddol o ran mynd i'r afael â'r bwlch cyfoeth rhanbarthol, yn ôl academyddion

24 Mai 2019

Fibre broadband

Mae technolegau digidol yn helpu busnesau annibynnol i fod yn fwy cynhyrchiol drwy gyfnod economaidd heriol, yn ôl ymchwil.  

Mae'r Adroddiad Effaith Economaidd i Gymru 2018, a luniwyd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn seiliedig ar ddata arolwg a gasglwyd o 479 o fusnesau bach a chanolig (BBaChau) yn rhan o Arolwg Aeddfedrwydd Digidol 2018.

Mae'r adroddiad hwn yn rhan o brosiect Manteisio ar Fand Eang Cyflym Iawn i Fusnesau (SFBE) Llywodraeth Cymru, wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF).  Mae'r prosiect hefyd yn ymgysylltu â busnesau ledled Cymru, yn eu cefnogi i fabwysiadu a manteisio'n llawn ar dechnolegau digidol a alluogir gan fand eang cyflym iawn.

Mae ymchwilwyr yn amcangyfrif bod busnesau sydd wedi mabwysiadu band eang wedi gwerthu £166.8 miliwn yn fwy o nwyddau y llynedd, ac roedd £91.5 miliwn o hyn yn gysylltiedig â defnyddio band eang cyflym iawn. Mae dadansoddiadau pellach yn datgelu y gallai defnyddio technoleg a alluogir gan fand eang fod wedi gwella rhagolygon gwerthu i tua 40% o BBaChau yng Nghymru.

Hefyd, mae'r ffigurau'n dangos y gallai 48,600 o BBaChau, sy'n cynnwys 24,500 o ddefnyddwyr band eang cyflym iawn, fod wedi cael cynnydd parhaus yn eu cyflogaeth o ganlyniad i fabwysiadu'r dechnoleg band eang ddiweddaraf.

Meddai'r Athro Max Munday o Uned Ymchwil Economi Cymru, yn Ysgol Busnes Caerdydd: "Mae ein canlyniadau'n dangos bod busnesau sy'n defnyddio offer newydd a hwylusir gan fand eang wedi gweld cynnydd o ran gwerthu a chyflogi yn 2018, gyda'r llwyddiannau mwyaf yn gysylltiedig â defnyddwyr band eang cyflym iawn a microfusnesau.

"Mae mabwysiadu band eang a'i ddefnyddio wedi cael effaith lai ar BBaChau nag yn 2017, fodd bynnag. Gall y gwahaniaethau hyn fod yn ganlyniad rhywfaint o sefydlogi neu ddirywiad o ran yr effaith y mae mabwysiadu band eang yn ei chael, wrth iddo gael ei integreiddio'n llawn i mewn i arferion gweithio. Ond hefyd, mae'n debygol ei fod yn adlewyrchu hinsawdd yr economi sydd ohoni."

Trafodwyd canfyddiadau llawn yr adroddiad mewn cynhadledd gydag academyddion, llunwyr polisi ac arweinwyr busnes ddydd Mercher (22 Mai). 'Technolegau Digidol, Enillion Cynhyrchiant a Gwydnwch Rhanbarthol: Ffocws ar BBaChau', yn adrodd straeon am lwyddiannau busnesau ar draws Gymru sy'n manteisio ar seilwaith TGCh gwell.

Ychwanegodd yr Athro Munday: "Mae busnesau yng Nghymru'n wynebu cyfnod heriol wrth iddynt weithio yng nghyd-destun amodau economaidd gwaeth. Ond y rheini sydd ar i fyny yn aml yw'r rhai sy'n defnyddio offer digidol i wella eu heffeithlonrwydd a'u cyrraedd. Bydd yn ddiddorol gweld sut mae'r cwmnïau hyn yn esblygu dros y flwyddyn i ddod; bydd ein hymchwil barhaus yn cynnig cipolwg pellach ar sut mae technolegau newydd yn eu sbarduno i arloesi ac ehangu."

Ar hyn o bryd, mae 53% o fusnesau Cymru wedi mabwysiadu band eang cyflym iawn.  Mae dros naw o bob 10 adeilad yng Nghymru bellach yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn yn dilyn y broses o gyflwyno rhaglen Cyflym Cymru Llywodraeth Cymru.   Mae mesurau i gyrraedd yr adeiladau olaf yn cynnwys ehangu gwasanaeth Openreach ymhellach, cynllun Gigabit Voucher gwell a fydd yn cynnig cymorth i fusnesau yn rhan o brosiect cymunedol a chynllun taleb Access Broadband Cymru.  

Er mwyn gwneud yn siŵr bod busnesau'n gwneud yn fawr o'r cyfleoedd sydd ar gael, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi BBaChau a chanolig i ddeall, mabwysiadu ac ymelwa ar y manteision mae band eang cyflym yn eu cynnig drwy ei gynllun Cyflymu Cymru i Fusnesau, sy'n werth £12m.

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters: "Rydym wedi trawsnewid y dirwedd ddigidol yng Nghymru drwy gyflwyno Cyflymu Cymru, sydd wedi dod â band eang cyflym iawn i fannau lle nad oedd gan gwmnïau masnachol gynlluniau i'w cyrraedd.  Rydym eisiau i fusnesau fanteisio ar hyn, gan fod mabwysiadu adnoddau digidol arloesol yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn, fel mae'r adroddiad hwn yn ei ddangos.  Dyna pam ein bod wedi buddsoddi £12m o gyllid ERDF er mwyn helpu busnesau i ddefnyddio band eang cyflym iawn ac elwa ar y manteision.

"Rydym ni nawr yn gweithio'n galed i gyrraedd yr adeiladau olaf gydag ystod o gynlluniau yn y meysydd lle nad oes cynllun i'w gyflwyno'n breifat."

Mae'r adroddiad llawn ar gael yma: https://www.cardiff.ac.uk/superfast-broadband-project/economic-impact-research

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.