Uned wrth-botsio i warchod coedwigoedd Borneo
5 Medi 2019
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi helpu i ddatblygu tasglu o ‘Geidwaid Gwarchod’ er mwyn diogelu’r bywyd gwyllt yng nghoedwigoedd Borneo ac amddiffyn anifeiliaid rhag postio anghyfreithlon.
Mae cyfanswm o 25 o geidwaid wedi’u recriwtio gyda chymorth arbenigwyr o Ganolfan Faes Danau Girang y Brifysgol, a byddant yn dal swyddi yn Uned Warchod Adran Coedwigaeth Sabah.
Bydd rôl Ceidwad Gwarchod yn cynnwys cylchwylio, mynd ar gyrchoedd ac ymchwilio i’r rheini sy’n potsio rhywogaethau mwyaf eiconig Borneo, sy’n cynnwys orangwtaniaid, eliffantod a phangolinod.
Buddsoddodd Sefydliad Sime Darby ac Adran Coedwigaeth Sabah dros £770,000, gyda Phrifysgol Caerdydd yn gyd-lofnodydd, er mwyn hyfforddi’r uned wrth-bostio arbennig.
Mae poblogaethau o orangwtaniaid wedi bron hanneru mewn maint, o ganlyniad i alw anghynaliadwy am adnoddau a phobl yn eu herlid a’u lladd o’u cynefin. Ar ben hynny, mae dros 20,000 o pangolinod wedi’u potsio’n anghyfreithlon ym Morneo.
Meddai Datuk Mashor Bin Mohd Jaini, Prif Warcheidwad Coedwigoedd: “Ddechrau mis Gorffennaf, trefnwyd cwrs dethol dwys dros ddau ddiwrnod yn Ranau ar gyfer 70 Sabahaniaid - o’r 900 a gyflwynodd ceisiadau am swyddi’r Ceidwaid Gwarchod.
“Cafodd yr ymgeiswyr eu profi am eu tueddfryd ysgrifenedig, ffisegol a meddyliol, ac yna gyfweliad. Gwnaeth hyn yn siŵr mai’r ymgeiswyr gorau gafodd y swydd heriol fel aelodau’r Uned Warchod.”
Cydlynwyd yr hyfforddiant gan Dr Benoit Goossens, Cyfarwyddwr Canolfan Faes Danau Girang ac Athro ym Mhrifysgol Caerdydd, a ddywedodd: “Cafodd y rhai a gymerodd ran hyfforddiant er mwyn cynnal patrolau gwrth-botsio’n hyderus ac yn ddiogel mewn amgylchedd coedwig drofannol, ac i gasglu gwybodaeth sylfaenol, cynnal ymchwiliadau, cyrchoedd ac arestiadau, yn y goedwig a’r amgylchedd trefol ar droed ac mewn cerbydau.
“Roedd y cwrs hwn yn heriol i’r corff a’r meddwl.”
Bydd y Ceidwaid Gwarchod yn dechrau eu gwaith o fis Medi 2019 ymlaen.
“Byddant yn rhoi hwb i allu Llywodraeth y Wladwriaeth i orfodi’r gyfraith a lleihau nifer yr achosion o botsio yn Sabah,” ychwanegodd Datuk Mashor.
“Teimlais yn falch iawn o’r bobl ifanc hyn fydd ceidwaid ein coedwigoedd a’n bywyd gwyllt yn Sabah.
“Rwy’n falch iawn fy mod wedi chware rhan wrth gynnig cyfle i’r Sabahaniaid ifanc hynny helpu i warchod bywyd gwyllt Borneo, ac mae’n hwb ffantastig i waith gwarchod bywyd gwyllt yn y Wladwriaeth,” ychwanegodd Dr Benoit Goossens.