Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn hyrwyddo dyfodol carbon isel

26 Awst 2019

Charging an electric car

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill hyd at £1 miliwn er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Bydd arbenigwyr o Ganolfan Ragoriaeth ar Gerbydau Trydan y Brifysgol a’r thema drawsbynciol ar Drafnidiaeth Gynaliadwy yn yr Ysgol Peirianneg yn arwain rhwydwaith i ddileu rhwystrau rhag trafnidiaeth carbon isel yn y DU drwy drydanu.

Bydd y dyfarniad gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) - rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU - yn dod ag arbenigeddau o ddiwydiant ac academia ynghyd er mwyn mynd i’r afael â moddau trafnidiaeth carbon isel ar gyfer y ffyrdd, y rheilffyrdd a chludiant awyrennol, a’r seilwaith drydan berthnasol er mwyn diwallu anghenion y dyfodol o ran symudedd.

Dan arweiniad Dr Liana Cipcigan, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ragoriaeth ar Gerbydau Trydan ac arweinydd y thema drawsbynciol Trafnidiaeth Gynaliadwy yn yr Ysgol Peirianneg, bydd y bartneriaeth hon o Gaerdydd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid diwydiannol ac academyddion o Brifysgol Cranfield, Prifysgol Bryste, Prifysgol Birmingham a Phrifysgol Southampton.

Drwy gynnull arbenigeddau o ddiwydiant, academia a’r sector cyhoeddus, nod y consortiwm yw nodi’r heriau i system drafnidiaeth integredig wedi’i thrydanu ar draws y sectorau modurol, awyrofod a rheilffordd, gan ystyried sbardunwyr newidiadau ac arloesedd technolegol.

Meddai Dr Cipcigan: “Bydd y rhwydwaith yn ystyried paratoi’r diwydiant ehangach ar gyfer prosiectau fydd yn comisiynau datgarboneiddio ac yn mynd i’r afael â’r heriau tymor byr, tymor canolig a thymor hir sy’n gysylltiedig â cherbydau trydan a diyrrwr, awyrennau trydan a chymysgryw athrydanu’r rheilffyrdd ynghyd â seilweithiau cysylltiedig. Gwneir hyn drwy ddatblygu strategaeth ehangach ar gyfer datgarboneiddio’r sector trafnidiaeth drwy drydanu.”

Ymysg y partneriaid o’r sectorau cyhoeddus a phreifat, mae Aston Martin, Safran Power UK Ltd, y Grid Cenedlaethol, Ricardo Group, Energy Networks EA Technology, Trafnidiaeth Llundain, Trafnidiaeth Cymru, Turbo Power Systems, ABB, FTI Consulting, NR Electric UK Ltd, WSP Group plc UK, Scorpion Power System Ltdl, JingGe Electromagnetics Ltd., QUERCUS Investment Partners, Llywodraeth Cymru, COST, y Sefydliad Peirianneg Drydanol a Thrydaneg.

Mae’r prosiect yn un o bum rhwydwaith newydd sy’n helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd drwy ddileu rhwystrau rhag trafnidiaeth carbon isel yn y DU. Mae’r rhain yn amrywio o ehediadau masnachol yn defnyddio awyrennau trydan, i gludiant llwythi a cheir hydrogen.

Gyda chymorth £5 miliwn o gyllid, bydd y pum Rhwydwaith Datgarboneiddio Trafnidiaeth+ yn dod ag arbenigeddau ynghyd o academia a diwydiant er mwyn gosod y sylfeini ar gyfer technolegau carbon isel ar draws rhwydweithiau’r ffyrdd, y rheilffyrdd, y môr a’r awyr.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates: “Bydd prosiectau fel yr un hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ymdrechion i leihau ôl troed carbon ein seilwaith trafnidiaeth, ac yn ein helpu i gyrraedd ein targedau ar gyfer datgarboneiddio.

“Mae’n bwysig ein bod yn lleihau ein hallyriadau carbon drwy hyrwyddo’r defnydd o gerbydau glanach, gwyrddach, a bydd y prosiect hwn yn helpu i sicrhau’r cynnydd technolegol i wireddu hyn.”

Mae amrywiaeth eang o bartneriaid yn y sectorau academaidd, diwydiannol a chyhoeddus yn cymryd rhan ar draws y pum rhwydwaith. Mae’r partneriaid yn cynnwys Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yr Adran Drafnidiaeth, Hyundai-Kia, Aston Martin, Safran Power UK Ltd, Ricardo Group, Trafnidiaeth Llundain, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Grid Cenedlaethol.

Meddai Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesedd y DU, yr Athro Syr Mark Walport: “Trafnidiaeth yw un o’r cyfranogwyr mwyaf tuag at allyriadau carbon deuocsid yn y DU, a’r cyfrannwr tuag at allyriadau o nwyon tŷ gwydr sy’n tyfu gyflymaf ar lefel fyd-eang.

“Mae addasu ein systemau trafnidiaeth ar gyfer technolegau carbon isel yn hanfodol ar gyfer iechyd y blaned yn y dyfodol, a chyhoeddodd y rhwydweithiau heddiw y byddant yn ymgymryd â gwaith pwysig wrth baratoi’r DU ar gyfer y pontio hyn.”

Mae’r Athro Greg Marsden, sy’n arwain rhwydwaith DecarboN8, wedi cael ei benodi’n Hyrwyddwr Datgarboneiddio Trafnidiaeth a bydd yn cydlynu rhwng pob Rhwydwaith+ ac yn hyrwyddo’r her i’r llywodraeth, polisi a diwydiant ddatgarboneiddio trafnidiaeth.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn un ysgolion peirianneg mwyaf blaenllaw'r DU ac mae ganddi enw da am ymchwil o'r radd flaenaf ac amgylchedd addysgu bywiog a chyfeillgar.