Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect 'Pŵer drwy Amonia' yn ennill gwobr

16 Mai 2019

FLEXIS
From left to right: Ian Wilkinson, Programme Manager, Siemens Corporate Technology; Nick Eyre, Director, Oxford University Energy Research Institute; Phil Bowen, co-Director, Cardiff University, Energy Systems Research Institute; Juergen Maier. Chief Executive Officer, Siemens UK; Karl-Josef Kuhn, Head of Technology (Power-to-X & Storage), Siemens Corporate Technology; Tim Bestwick, Executive Director for Business & Innovation, Science and Technology Facilities Council

Mae system 'pŵer gwyrdd' sy'n defnyddio amonia i gadw a rhyddhau ynni carbon sero wedi ennill gwobr am arloesedd.

Bu ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn gweithio ochr yn ochr â Siemens, Prifysgol Caerdydd, a'r Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn rhan o brosiect Innovate UK i lywio prosiect unigryw drwy arddangosydd prawf o gysyniad 'cynta'r byd' gwerth £1.5m yn Labordy Rutherford Appleton yn Harwell, Swydd Rhydychen.

Ffurfiodd Prifysgol Caerdydd bartneriaeth er mwyn creu system gynaliadwy newydd all gynhyrchu a defnyddio pŵer pan mae hynny'n ofynnol, a storio ynni'n effeithiol fel amonia pan mae'r galw'n isel. Mae'r arddangosydd yn dangos cylch llawn ynni gwyrdd pan mae pŵer o dyrbin gwynt yn cael ei drosi'n hydrogen ac amonia, ei storio a'i drosi'n ôl i fod yn drydan.

Bu ymchwilwyr o FLEXIS – prosiect gwerth £24 miliwn Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop wedi'i ddylunio i dyfu gallu ymchwil systemau ynni yng Nghymru – yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu, gan ddangos potensial amonia fel fector hydrogen i gefnogi datblygiadau cynhyrchu pŵer gwyrdd pellach yn rhanbarth Cymru.

https://youtu.be/CionPFzpAqo  

Wrth groesawu'r Wobr Arloesedd Cynaliadwy, dywedodd Dr Agustin Valera-Medina, Prif Ymchwilydd Prifysgol Caerdydd ac Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd: "Rydym ar ben ein digon o fod wedi ennill yr anrhydedd hwn. Cyn y bartneriaeth hon, nid oedd unrhyw un wedi cynnig integreiddio cysyniadau er mwyn dangos potensial amonia fel fector cadw ynni. Cafodd y gymuned hylosgi ryngwladol yn arbennig ei syfrdanu gan y fenter, o ganlyniad i ddefnyddio amonia fel fector ynni yn sgîl ei adweithedd isel a'i allu i gynhyrchu llygrwyr annymunol.

"Mae'r cyfleuster prawf o gysyniad yn Harwell wedi dangos y gall pŵer amonia gael ei ddefnyddio i gynnig system ymarferol a hyblyg y genhedlaeth nesaf ar gyfer cadw ynni, trafnidiaeth a chynhyrchu pŵer."

Dechreuodd y prosiect ar ôl i Siemens nodi bwlch ym marchnad y dyfodol ar gyfer ffordd o gadw cemegion carbon sero sy'n cael ei ddal yn hawdd ac y gellir ei gludo i'r man lle mae ei angen.

Gall ynni gael ei ryddhau o amonia (NH3)  naill ai yn y ffordd draddodiadol trwy ymlosgiad mewn injan hylosgi mewnol neu dyrbin nwy, neu trwy ei ‘gracio’ yn ôl i nitrogen a hydrogen a defnyddio’r hydrogen mewn cell tanwydd - i bweru cerbydau trydan, er enghraifft.

Gellir defnyddio amonia fel tanwydd ar gyfer cynhyrchu pŵer, gan gynhyrchu trydan ar adegau pan nad yw ynni adnewyddadwy ar gael, ar ddiwrnodau tawel neu yn ystod y nos er enghraifft, neu yn ystod y gaeaf drwy ddefnyddio ynni a gadwyd yn ystod yr haf.

Yn ôl Ian Wilkinson, Rheolwr y Rhaglen, Siemens Corporate Technologies:  "Mae'r wobr hin yn tystio i bartneriaeth wirioneddol arloesol ac ardderchog rhwng diwydiant ac academia. Mae bodloni ein targedau datgarboneiddio yn her fawr i gymdeithas. Gallai storio ynni cemegol di-garbon - gan gynnwys Amonia Gwyrdd - weithio ochr yn ochr â dulliau storio eraill megis batris, a gall helpu i gynyddu ymdreiddiad pŵer adnewyddadwy i mewn i’n systemau ynni. Gyda chymorth y tîm ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r arddangosydd wedi dangos fod Amonia Gwyrdd yn opsiwn hyfyw a gall helpu i leihau allyriadau carbon o brosesau diwydiannol sy’n bodoli eisoes, yn ogystal â darparu ffordd o gludo a storio ynni adnewyddadwy mewn swmp."

Gyda chymorth y tîm ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r arddangosydd wedi dangos fod Amonia Gwyrdd yn opsiwn hyfyw a gall helpu i leihau allyriadau carbon o brosesau diwydiannol sy’n bodoli eisoes, yn ogystal â darparu ffordd o gludo a storio ynni adnewyddadwy mewn swmp.

Ian Wilkinson

Agorwyd cyfleuster Harwell y llynedd, ac fe'i ariannwyd gan £500,000 gan Siemens a £1m gan Innovate UK, asiantaeth arloesedd y llywodraeth.

Mae'r bartneriaeth wedi cynnig buddiannau academaidd eang i'r consortiwm, sy'n cael ei arwain gan y Brifysgol, yn cynnwys 20 o erthyglau gan awduron o Brifysgol Caerdydd, partneriaethau newydd rhwng y Brifysgol a dros 20 o sefydliadau ledled y byd, cydweithio ar Gylchlythyr y Gymdeithas Frenhinol ar fuddiannau amonia, a dechrau pum prosiect PhD/MSc unigryw ynghylch pŵer drwy amonia gyda secondiadau i'r prifysgolion rhyngwladol gorau.  

Trefnir y Gwobrau, ar 3 Mehefin, gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, ac maent wedi bod yn hyrwyddo'r partneriaethau rhwng y Brifysgol â busnesau ers dros ugain mlynedd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn un ysgolion peirianneg mwyaf blaenllaw'r DU ac mae ganddi enw da am ymchwil o'r radd flaenaf ac amgylchedd addysgu bywiog a chyfeillgar.