Ewch i’r prif gynnwys

Adroddiad yn taflu goleuni ar y system carchardai yng Nghymru

5 Mehefin 2018

Prison

Heddiw (Dydd Mawrth 5 Mehefin), cyhoeddwyd 'Imprisonment in Wales: A Factfile', sef set o ddata sy’n benodol i Gymru sy’n edrych ar y system carchardai, gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.

Am y tro cyntaf, mae’r adroddiad hwn yn casglu amrywiaeth o ddata i ddatgelu perfformiad carchardai yng Nghymru, statws yr holl garcharorion o Gymru a lle maent yn cael eu dal.

Cafodd llawer o’r wybodaeth ei chynhyrchu drwy geisiadau Rhyddid Gwybodaeth, cyn cael ei dadansoddi a’i chyflwyno fel adnodd sengl.

Mae yna bum prif carchar i wrywod yng Nghymru, ac mae pob un yn dal cymysgedd o garcharorion euog, carcharorion sydd heb eu collfarnu, carcharorion sydd wedi’u dedfrydu a charcharorion sydd heb eu dedfrydu. Mae capasiti carchardai wedi cynyddu’n raddol ers 2010. Poblogaeth carchardai Cymru ar ddiwedd mis Ebrill 2018 oedd 4,291.

Dyma rai o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad:

  • Nid yw carchardai yng Nghymru yn perfformio cystal â charchardai yn Lloegr mewn perthynas ag amrywiaeth o fesurau diogelwch. Mae nifer yr achosion o hunan-niweidio ac ymosodiadau mewn carchardai yng Nghymru wedi cynyddu ar gyfradd uwch nag yn Lloegr ers 2010.
  • Cafwyd mwy o achosion o aflonyddwch yn CEM y Parc yn 2016 a 2017 nag mewn unrhyw garchar arall yng Nghymru a Lloegr.
  • Er gwaethaf cynnydd yng nghapasiti carchardai yng Nghymru, roedd 39% o’r holl garcharorion o Gymru yn cael eu dal mewn carchardai yn Lloegr yn 2017. Mewn llawer o achosion, mae carcharorion o Gymru yn cael eu rhoi mewn sefydliadau sy’n bell o’u cartrefi; roedd carcharorion o Gymru yn cael eu dal mewn 108 o garchardai gwahanol yn 2017.
  • Mae nifer y menywod o Gymru sy’n cael dedfryd o garchar ar unwaith wedi cynyddu gan bron i bumed ers 2011. Mae’r mwyafrif o fenywod o Gymru sy’n cael eu dedfrydu i garchar ar unwaith yn cael eu canfod yn euog o droseddau di-drais. Rhoddwyd dedfrydau o lai na 6 mis i dri chwarter o’r menywod o Gymru a gafodd eu dedfrydu i garchar ar unwaith yn 2016; mae’r gyfradd hon yn uwch na chyfanswm Cymru a Lloegr.
  • Mae nifer y plant o Gymru sydd yn y ddalfa wedi gostwng gan 72% ers 2010. Roedd 45% o’r holl blant o Gymru a oedd yn y ddalfa yn 2017 yn cael eu dal mewn sefydliadau yn Lloegr. Mae’r pellteroedd y mae plant yn eu hwynebu yn y carchar yn lleihau nifer yr ymweliadau teuluol, yn amharu ar wasanaethau cymorth ‘drwy’r gât’ ac yn cynyddu’r ymdeimlad o ddieithrwch ac unigedd y mae plant yn ei brofi mewn carchar.

Dywedodd awdur yr adroddiad, Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru: “Nod yr adroddiad hwn yw sicrhau bod data carcharu ar gyfer Cymru yn unig ar gael i gynulleidfa eang am y tro cyntaf.

“Gyda ffocws penodol ar ddiogelwch carchardai, mae’n cynnig y wybodaeth ddiweddaraf am amrywiaeth o heriau y mae carchardai yng Nghymru yn eu hwynebu, ac am garcharorion o Gymru sy’n cael eu dal yn Lloegr. Yn anad dim, mae Imprisonment in Wales yn cynnig trosolwg ystadegol o’r system carchardai ar adeg pan fo Llywodraethau Cymru a’r DU yn gweithio i wella polisi cyfiawnder yn y wlad.

“Ni allai’r trosolwg cynhwysfawr hwn fod wedi’i gynhyrchu heb ymdrech sylweddol, gan gynnwys drwy ddefnyddio’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Bydd angen data Cymreig mwy rheolaidd a thryloyw i alluogi’r cyhoedd a gwleidyddion i graffu’n well ar ba mor dda mae’r system yn gweithio.”

Rhannu’r stori hon

Yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.